Safonau’r Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011)– Hysbysiad Cydymffurfio

Mae’r hysbysiad cydymffurfio yma’n nodi’r hyn mae’n rhaid i Gyngor Sir Gâr ddarparu a gweithredu er mwyn sicrhau nad ydyw’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  Mae’n cynnwys 174 o gyfarwyddiadau ar sut y bydd y Cyngor yn Cyflenwi Gwasanaethau Cymraeg, Llunio polisi mewn modd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg, Gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg, Hybu’r Gymraeg a Chadw cofnodion ynglŷn â’r Gymraeg.  Mae gan y cyhoedd hawl i gwyno os ydyn nhw’n teimlo nad ydy’r Cyngor yn cydymffurfio â’r Safonau, ac mae’r Cyngor yn llunio Cynllun Gweithredu ac Adroddiad blynyddol i ddarparu gwybodaeth am y gydymffurfiaeth honno. 

Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg neu fethiant ar ran y Cyngor i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, defnyddiwch weithdrefn gwyno'r Cyngor ar ein dudalen Cwynion a Chanmoliaeth.

Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg at Gomisiynydd y Gymraeg.

Lawrlwythiadau

Dolenni Cysylltiedig

Cyngor a Democratiaeth