Hygyrchedd

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw llawer o'r dogfennau PDF hŷn ar ein gwefan yn bodloni safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u marcio fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd oni bai ein bod yn penderfynu eu bod yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.  Ein nod hirdymor yw darparu fersiwn HTML hygyrch o'r wybodaeth yn brif ffynhonnell.

Yn ogystal, mae rhai o'n tudalennau yn defnyddio'r un testun cyswllt ar gyfer gwahanol gyrchfannau.  Bydd hyn yn golygu y bydd defnyddwyr darllenydd sgrin yn gweld dolenni ar dudalen wedi'u rhestru heb gyd-destun.

Bydd unrhyw dudalennau newydd a gyhoeddir gennym yn defnyddio testun cyswllt gwahanol ar gyfer gwahanol gyrchfannau, ac rydym yn gweithio i adolygu ein tudalennau presennol erbyn 1 Mawrth 2022.

Apiau trydydd parti

Rydym yn mynnu bod unrhyw systemau trydydd parti newydd y byddwn yn eu comisiynu ar gyfer gwefan y cyngor yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Fodd bynnag, mae apiau trydydd parti ac apiau gwe etifeddol, yn benodol, yn rhannol neu'n gyfan gwbl o dan reolaeth y cyflenwr trydydd parti ac efallai na fyddant yn cydymffurfio â'r un lefelau hygyrchedd â gweddill gwefan y cyngor.

Mae apiau trydydd parti y gellir cysylltu â nhw o'n prif wefan yn cynnwys y canlynol:

Rydym yn monitro hygyrchedd y gwefannau hyn ac yn gofyn i gyflenwyr ddatrys problemau hygyrchedd sy'n codi. Byddwn yn ceisio darparu manylion ac amserlenni wrth i ni roi gwybod i'n trydydd partïon am eitemau i'w datrys.

Datganiadau hygyrchedd a thudalennau ar gyfer darparwyr trydydd parti

  • Tudalen hygyrchedd Canfod Cartref - Home Finder Civica
  • Tudalen hygyrchedd Granicus
  • Tudalen hygyrchedd Zellis
  • Cymhwysiad ar y We o ran Hawliau Tramwy Cyhoeddus
    Mae prow-carms.esdm.co.uk yn cydymffurfio'n rhannol â safonau WCAG 2.1 AA.Mae gan y wefan elfennau sy'n seiliedig ar fap sy'n dod o dan eithriad mapio WCAG 2.1. Darperir dull amgen ar gyfer adrodd ar faterion.
    Mae'r cymhwysiad ar y we yn arddangos data a gyflwynir gan y cyhoedd ar ffurf testun, delweddau a dogfennau pdf. Mae'n bosibl y bydd materion hygyrchedd yn gysylltiedig â'r data hwn:
    • Testun amgen ar goll: Mae'n bosibl na fydd tagiau Alt priodol gan y ffotograffiaeth sy'n ymwneud â'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus a materion yr adroddwyd amdanynt.
    • Dolenni heb destun amgen: Mae'n bosibl na fydd hyperddolenni mewn cynnwys a gyflwynir gan y cyhoedd yn cynnwys y tagiau Alt priodol.
    • Dogfennau PDF nad ydynt yn hygyrch: Yn y gorchymyn cyfreithiol neu ddogfennau’r tirfeddiannwr, mae'n bosibl y bydd dogfennau pdf yn cael eu cyflwyno gan y cyhoedd nad ydynt yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu penawdau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Baich anghymesur

Oherwydd natur a fformat y tablau sydd wedi'u cynnwys yng Nghôd CIPFA, mae angen rhoi ystyriaeth bellach i helpu i sicrhau bod y Datganiad Cyfrifon yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n gwbl hygyrch.

Byddwn yn gweithio tuag at sicrhau cydymffurfiaeth, tra'n cadw at gymhlethdodau gofynion adrodd cyflwyniadau rhagnodedig Côd Ymarfer CIPFA ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol.