Eithriadau ar gyfer Treth y Cyngor

Fel rheol, mae'n rhaid talu Treth y Cyngor yn llawn ar eiddo sydd â dau neu fwy o oedolion yn byw ynddo, a hefyd talu Treth y Cyngor yn llawn ar gyfer eiddo gwag (ar ôl cyfnod cychwynnol o chwe mis yn rhad ac am ddim).

Cynigir gostyngiadau ar gyfer pobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain a chartrefi pobl ag amgylchiadau arbennig a gall eiddo sy’n bodloni amodau penodol gael ei eithrio’n llawn.

Mae'r rhain yn nodiadau byr am arweiniad yn unig a gall amodau pellach fod yn berthnasol.

Amgylchiadau Sylwadau
Os yw eiddo'n dod yn wag a heb ddodrefn. Mae'r eithriad yn gyfyngedig i gyfnod o 6 mis . 
Preswylfeydd gwag a heb ddodrefn lle mae gwaith mawr angen ei wneud, yn cael ei wneud neu newydd ei gwblhau Mae'r eithriad yn gyfyngedig i gyfnod o 12 mis . 
Eiddo sydd wedi'u gadael yn wag gan gleifion mewn ysbytai neu gartrefi gofal. Nid yw cyfnodau ymadfer byr yn gymwys.
Preswylfeydd a adewir yn wag gan bobl sy'n derbyn gofal (ac eithrio mewn ysbyty/cartref gofal). Mae'n ofynnol mai'r breswylfa oedd prif gartref y person sy'n derbyn gofal. Nid yw cyfnodau ymadfer byr yn gymwys.
Preswylfeydd wedi'u gadael yn wag gan bersonau sy'n rhoi gofal. Mae'n ofynnol mai'r breswylfa oedd prif gartref y person sy'n rhoi gofal.
Mae Talwr y Dreth Gyngor wedi marw ac mae'r eiddo wedi bod yn wag ers hynny Mae esemptiad yn berthnasol mewn perthynas â pherchnogion sydd wedi marw (lle nad oes perchennog presennol) ac i denantiaid sydd wedi marw lle mae’r cynrychiolwyr personol yn dal i fod yn atebol i dalu rhent. Mae esemptiad yn berthnasol am gyfnod o hyd at 2 flynedd o ddyddiad marwolaeth yr ymadawedig, neu hyd at y dyddiad y rhoddwyd profiant neu lythyrau gweinyddu, pa un bynnag sydd gynharaf; ac am hyd at 12 mis ar ôl i'r grant gael ei wneud.
Preswylfeydd sydd wedi'u hadfeddiannu gan y rhoddwr morgais. Rhaid i'r eiddo fod heb breswylydd.
Rhandai heb eu meddiannu. Yn unig lle nad oes modd gosod y rhandy ar wahân i'r prif gartref oherwydd cyfyngiadau cynllunio.
Eiddo gwag ym mherchnogaeth elusennau. Am gyfnod heb fod yn hwy na 6 mis yn amodol ar yr eiddo yn cael ei ddefnyddio at fwriadau'r elusen.
Eiddo gwag sy'n perthyn i glerigwyr. Wedi'i eithrio os yw'n cael ei gadw ar gyfer gweinidog crefyddol.(hyd at 12 mis)
Eiddo a adawyd yn wag gan garcharorion. Mae'n ofynnol mai'r breswylfa oedd, neu fydd, eu prif gartref (nid yw'n gymwys os methiant i dalu Treth y Cyngor neu dirwy oedd y drosedd) .
Eiddo y gwaherddir eu meddiannu gan y gyfraith. Nid yw'n gymwys os yw'r eiddo yn cael ei feddiannu yn anghyfreithlon.
Preswylfeydd gwag sy’n eiddo i fyfyrwyr Y tro diwethaf y bu rhywun yn preswylio yno, rhaid i'r eiddo fod wedi'i ddefnyddio yn brif gartref y myfyriwr/myfyrwraig sy’n berchen arno. Rhaid i'r perchennog fod wedi bod yn fyfyriwr/ myfyrwraig ers iddo/iddi adael, neu fod wedi mynd yn fyfyriwr/ myfyrwraig cyn pen 6 wythnos ar ôl ymadael.
Preswylfeydd a adawyd yn wag gan fethdalwyr. Dim ond pan fo'r un sy'n agored i'r dreth yn ymddiriedolwr(aig) y caniateir hyn.
Llain ar gyfer carafán neu angorfa. Yn unig pan nad oes carafán neu gwch yn eu defnyddio.
Neuaddau preswyl myfyrwyr. Rhaid i'r llety fod yn eiddo i sefydliad addysgol penodedig neu gorff a sefydlwyd at ddibenion elusennol yn unig neu dan reolaeth sefydliad/corff o'r fath.
Preswylfeydd lle mae dim ond y bobl berthnasol yn byw ynddynt h.y. myfyrwyr amser llawn, rhai dan 20 oed sy'n ymgymryd â chwrs rhan-amser cymwys, neu gynorthwywyr iaith dramor.
neu bobl nad ydynt o Brydain ac sydd hefyd yn briod / partner sifil / dibynnydd i'r uchod
neu rai penodol sy'n gadael ysgol/coleg.
Rhaid i fyfyrwyr rhan-amser fod dan  20 oed ac yn astudio ar gyrsiau a gynhelir fel rheol yn ystod y dydd ac nad ydynt yn gyrsiau addysg uwch,
Rhaid atal y rhai nad ydynt o Brydain ac sydd hefyd yn briod / partner / dibynnydd rhag ymgymryd â gwaith cyflogedig a rhag hawlio budd-daliadau gwladol, a
rhaid i'r rhai sy'n gadael ysgol fod wedi gwneud hynny ar ôl 30ain Ebrill a chyn 1af Tachwedd unrhyw flwyddyn.
Preswylfeydd sy'n cael eu meddiannu gan unigolion sydd ag Amhariad Gwybyddol Sylweddol yn unig neu lle mae unigolion perthnasol hefyd yn meddiannu'r breswylfa. Nid yw'n berthnasol os na fyddai'r unigolyn sydd ag Amhariad Gwybyddol Sylweddol yn atebol fel arall e.e. cartref nyrsio lle mai'r perchennog, ac nid y preswylydd, sy’n atebol. Bydd angen tystysgrif meddyg a rhaid i'r unigolyn fod â hawl i fudd-dal gwladol cymwys. Mae'r esemptiad yn dal i fod yn berthnasol os yw unigolyn perthnasol hefyd yn meddiannu'r breswylfa (gweler y categori uchod ar gyfer unigolion perthnasol).
Rhandy lle mae perthynas oedrannus neu anabl yn byw. Rhaid iddi fod yn brif breswylfa i un sy'n 65 oed neu'n hŷn, neu sydd â nam meddyliol difrifol neu sydd ag anabledd sylweddol a pharhaol. Rhaid iddo/iddi berthyn hefyd i un sy'n byw yn y brif breswylfa.
Preswylfeydd â dim ond pobl dan 18 oed yn byw ynddynt. Bydd yr eithrio’n para hyd nes y bydd y preswylydd yn 18 oed.
Llety i'r lluoedd arfog. Mae'r eithrio'n berthnasol i breswylfeydd sy'n eiddo  i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn p'un a oes rhywun yn preswylio ynddynt ai peidio.
Preswylfa lle mae un sydd ag imiwnedd neu freintiau diplomyddol (neu debyg) yn byw. Nid yw'r eithrio'n berthnasol os nad yw’r un dan sylw yn agored i'r dreth fel arall. Rhaid i'r un dan sylw beidio â bod yn ddinesydd Prydeinig nac yn breswylydd parhaol yn y Deyrnas Unedig.
Aelod o Lu ar Ymweliad (neu ddibynnydd aelod o'r fath) sy'n byw yn y breswylfa. Nid yw'r eithrio'n berthnasol os nad yw’r person yn agored i'r dreth fel arall. Mae'n berthnasol hefyd i aelod o elfen sifil y Llu, neu ddibynnydd aelod o'r fath, os nad yw'r un dan sylw'n ddinesydd Prydeinig neu os nad yw fel rheol yn byw yn y Deyrnas Unedig.
Annedd sy’n gweithredu fel lloches

Mae’r eithriad hwn yn gymwys pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio fel lloches ar gyfer darparu llety dros dro brys i oroeswyr unrhyw fath o gamdriniaeth, gan gynnwys cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd neu drais rhywiol.

Mae'r rhain yn nodiadau byr am arweiniad yn unig a gall amodau pellach fod yn berthnasol. 

Amgylchiadau Sylwadau
O dan 18 oed. Nid ystyrir bod y person yn breswylydd at ddibenion Treth y Cyngor – Hefyd, gweler preswylfeydd eithriedig.
Myfyrwyr llawn-amser, Myfyrwyr o dan 20 mlwydd oed sydd ar cwrs rhan-amser a chynorthwywyr ieithoedd tramor. Gwelwch hefyd preswylfeydd eithriedig.
Un nad yw o Brydain ac sydd hefyd yn briod, yn bartner sifil neu'n ddibynnydd i un sydd yn y categori a ddangosir yn union uwchben. Rhaid ei (h)atal rhag derbyn gwaith â thâl neu hawlio budd-daliadau gwladol - gweler hefyd eiddo eithriedig sy'n ymwneud â myfyrwyr ac ati.
Personau 18 a 19 oed sydd wedi gadael yr ysgol ar ôl 30ain Ebrill. Caniateir gostyngiad hyd at 1af Tachwedd.
Pobl y mae Budd-dal Plant yn daladwy iddynt. Mae hyn yn berthnasol i rai 18 oed neu hŷn (nid ystyrir rhai dan 18 oed yn breswylwyr).
Ieuenctid dan hyfforddiant. Rhaid iddo/iddi fod dan 25 oed ac yn ymgymryd â chwrs hyfforddiant cymeradwy.
Prentisiaid. Rhaid bod y prentis yn dilyn cwrs hyfforddiant sy'n arwain at gymhwyster cydnabyddedig ac yn cael ei dalu yn unol â'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Pobl sy'n byw gyda pherson anabl ac sy'n gofalu amdano/amdani. Ac eithrio os yw'r person yn gofalu am ei briod, am ei bartner neu am blentyn sydd dan 18 oed (os taw’r gofalwr yw’r rhiant). Rhaid i ofal gael ei ddarparu am o leiaf 35 awr yr wythnos (ar gyfartaledd). Rhaid i'r sawl sy'n derbyn gofal fod yn gymwys i gael budd-dal gwladol cymwys.
Pobl sydd ag Amhariad Gwybyddol Sylweddol Bydd yn ofynnol cael tystysgrif gan feddyg a rhaid i'r person fod yn gymwys i gael budd-dal gwladol cymwys. Hefyd, gweler preswylfeydd eithriedig.
Carcharorion dan gollfarn a charcharorion yn aros eu prawf. Ar wahân i'r adegau pan fo'r drosedd yn ymwneud â methiant i dalu Treth y Cyngor neu dirwy.
Person y mae ei brif breswylfa mewn ysbyty Nid ystyrir y person o ran y breswylfa a ddarperir yn yr ysbyty.
Person y mae ei brif breswylfa mewn cartref nyrsio/gofal Rhaid iddo/iddi fod yn derbyn gofal neu driniaeth er mwyn iddo/iddi gael ei (d)diystyru o ran y cartref nyrsio/gofal.
Aelodau cymuned grefyddol. Yn amodol nad oes unrhyw incwm neu gyfalaf personol (nid yw derbyn pensiwn yn golygu nad yw person yn gymwys)
Preswylwyr hosteli i'r digartref neu lochesau nos. Rhaid i'r eiddo gael ei ddefnyddio yn ei hanfod ar gyfer pobl heb gartref sefydlog a rhaid i'r llety beidio â bod yn hunan-gynhwysol.
Aelodau o lu sydd ar ymweliad, a'r rhai sy'n ddibynnol arnynt. Gall hefyd fod yn aelod o elfen sifil y llu, neu'n ddibynnydd aelod, os nad yw'r dibynnydd yn ddinesydd Prydeinig neu'n preswylio fel rheol yn y Deyrnas Unedig.
Aelodau Cyfundrefnau Pencadlysoedd ac Amddiffyn Cydwladol, a'r rhai sy'n ddibynnol arnynt Sefydliadau a ddynodir o dan Adran 1 o Ddeddf Cyfundrefnau Pencadlysoedd ac Amddiffyn Cydwladol 1964. Hefyd gweler ‘preswylfeydd eithriedig’.
Pobl sydd ag imiwnedd neu freintiau diplomyddol (neu debyg). Rhaid iddo/iddi beidio â bod yn ddinesydd Prydeinig nac yn breswylydd parhaol yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, gweler preswylfeydd eithriedig.

Ebostiwch: Trethcyngor@Sirgar.gov.uk