Gostyngiad y Dreth Gyngor

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/12/2023

Ym mis Ebrill 2013, cyflwynwyd Gostyngiad y Dreth Gyngor yn lle Budd-dal y Dreth Gyngor. Yng Nghymru, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd darparu cynllun newydd ond caiff y cynllun ei weinyddu gan gynghorau lleol. Mae'r cynllun yn sicrhau bod aelwydydd yng Nghymru yn parhau i gael cymorth o ran talu eu biliau treth gyngor.

Mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn dal i fod yn seiliedig ar reolau'r budd-dal treth gyngor blaenorol. Ar hyn o bryd, 100% o'r tâl yw'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan y cynllun newydd ond gallai hyn newid yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Gallech fod yn gymwys os ydych ar incwm isel, yn hawlio budd-daliadau neu ar Credyd Cynhwysol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu'r Gwasanaeth Pensiwn. Gallwch wneud cais os ydych chi'n berchen ar eich cartref eich hun, yn talu rhent, yn ddi-waith neu'n gweithio. Gellir gostwng eich bil hyd at 100%.

Mae'r hyn rydych chi'n ei gael yn dibynnu ar:

  • eich amgylchiadau (e.e. incwm, nifer y plant, budd-daliadau, statws preswyliaeth, anabledd).
  • incwm eich aelwyd - mae hyn yn cynnwys cynilion, pensiynau ac incwm eich partner.
  • os yw'ch plant yn byw gyda chi
  • os oes oedolion eraill yn byw gyda chi

I wneud cais am Gostyngiad Treth Gyngor, mae angen ichi lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd atom.

Bydd angen ichi ddangos tystiolaeth o'r manylion canlynol inni:

  • Eich rhifau Yswiriant Gwladol chi a'ch partner
  • Pwy ydych e.e. tystysgrif geni, trwydded yrru, pasbort
  • Cyfalaf, cynilion a buddsoddiadau
  • Enillion
  • Credydau Treth
  • Unrhyw incwm arall
  • Budd-daliadau, lwfansau neu bensiynau

Sylwch fod yn rhaid ichi ddarparu dogfennau gwreiddiol, nid copïau. Ni allwn dalu eich Gostyngiad Treth Gyngor hyd nes y byddwn wedi gweld yr holl dystiolaeth yr ydym wedi gofyn amdani. Os na allwch ddarparu peth o'r dystiolaeth hon, cysylltwch â ni a gallwn drafod ffyrdd eraill inni allu cael y dystiolaeth.

Pethau i'w cofio:

  • Rhaid ichi fod yn atebol am Y Dreth Gyngor.
  • Rhaid ichi anfon eich ffurflen gais atom neu ddod â hi atom cyn gynted ag y bo modd. Bydd dyddiad dechrau talu eich Gostyngiad Treth Gyngor yn dibynnu ar bryd y cawn eich ffurflen gais.
  • Rhaid ichi ddarparu'r holl dystiolaeth ategol y gofynnwn amdani cyn pen mis ar ôl dyddiad eich ffurflen gais. Ni fydd modd inni dalu eich Gostyngiad Treth Gyngor tan inni weld yr holl dystiolaeth angenrheidiol. Os cewch anhawster anfon unrhyw dystiolaeth, dylech gysylltu â ni a gofyn am estyn y terfyn amser.
  • Os ydych yn talu rhent, dylech wneud cais am Gredyd Cynhwysol am help tuag at eich costau tai.

Ni fyddwch yn cael unrhyw ostyngiad os nad ydych yn gwneud cais.

Gwneud cais am Gostyngiad y Dreth Gyngor