Credyd Cynhwysol

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Rydym wedi darparu peth gwybodaeth sylfaenol ac offer hawdd eu defnyddio i'ch helpu i ddysgu mwy am Gredyd Cynhwysol, beth gallai ei olygu i chi, a sut gallwch chi baratoi ar gyfer y newid.

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal misol newydd ar gyfer pobl sy'n ddi-waith, neu sydd mewn gwaith ond yn ennill incwm isel.

Yn y pen draw bydd yn cymryd lle'r holl fudd-daliadau a chredydau treth canlynol:

  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar incwm
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm

Bellach mae Sir Gaerfyrddin yn ardal Gwasanaeth Llawn y Credyd Cynhwysol. Os ydych yn derbyn un o'r budd-daliadau uchod, a'ch bod yn gymwys oherwydd newid mewn amgylchiadau, bydd angen i chi wneud hawliad am Gredyd Cynhwysol.

Pan ddaw Credyd Cynhwysol i Sir Gaerfyrddin, yn hytrach na hawlio pob un o'r budd-daliadau uchod yn unigol, byddwch yn cyflwyno un hawliad am Gredyd Cynhwysol.

Bydd Credyd Cynhwysol yn cynnwys cefnogaeth ariannol ar gyfer pethau fel salwch neu anabledd, tai, plant, diweithdra neu gyflogaeth incwm isel.

Mae hawliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu diweddaru'n awtomatig gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) os byddwch chi'n symud i mewn neu allan o waith, felly fydd dim angen i chi gyflwyno hawliad newydd os cewch eich gwneud yn ddi-waith, os byddwch chi'n cynyddu eich oriau, neu os byddwch chi'n newid swydd.

Nid yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys y budd-daliadau lles canlynol, a byddwch yn parhau i orfod hawlio'r rheiny ar wahân;

Os ydych am gael amcangyfrif o swm y Credyd Cynhwysol y gallech ei hawlio, a faint bydd yn newid pan fyddwch chi mewn gwaith neu allan ohono, defnyddiwch y Cyfrifiannell Credyd Cynhwysol ar-lein ar wefan Polisi ar Waith.

Bydd.  Os ydych yn hawlio unrhyw un o'r chwe hen fudd-dal a nodwyd uchod ar hyn o bryd, a'ch bod yn gymwys oherwydd newid mewn amgylchiadau, mae'n debygol y bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol.  Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi paratoi canllaw o'r enw 'Credyd Cynhwysol a Chi' sy'n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: 

  • Eich cyfrifoldebau
  • Eich ymrwymiad
  • Taliadau
  • Sancsiynau
  • Chwilio am waith llawn amser
  • Amodoldeb, Agor cyfleoedd gwaith a gostyngiadau graddol
  • Hunangyflogaeth
  • Cymorth â chostau gofal plant cymwys
  • Tai

Daeth Sir Gaerfyrddin yn ardal Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar 12 Rhagfyr 2018.

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno fesul cam. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes eich bod yn clywed gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch symud i Gredyd Cynhwysol, heblaw eich bod yn gymwys oherwydd newid mewn amgylchiadau ac yn hawlio un o'r hen fudd-daliadau (gweler: 'Beth yw Credyd Cynhwysol').

Bydd angen i chi gyflwyno a rheoli eich hawliad am Gredyd Cynhwysol ar-lein felly bydd angen i chi gael gwybod ble gallwch chi gael mynediad i’r rhyngrwyd a sut i’w defnyddio. 

Os nad ydych yn defnyddio'r rhyngrwyd neu os nad oes gennych gyfrifiadur i'w ddefnyddio, gallwch siarad ag aelodau staff mewn unrhyw un o'r llyfrgelloedd a fydd yn eich cynorthwyo i archebu cyfrifiadur i chi ei ddefnyddio.

Er mwyn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd angen cyfrif banc a chyfeiriad e-bost arnoch.

Agor cyfrif banc neu gyfrif undeb credyd

Ni ellir talu Credyd Cynhwysol i mewn i gyfrif swyddfa bost, felly bydd angen bod gennych chi gyfrif banc neu undeb credyd. Mae llawer o opsiynau ar gael i chi, hyd yn oed os oes gennych chi hanes credyd gwael. I gael gwybod mwy am agor y cyfrif iawn i chi, ffoniwch neu galwch heibio eich banc, eich cymdeithas adeiladu neu eich undeb credyd agosaf. 

Nid oes angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol cyn agor cyfrif banc.  Dylech agor cyfrif banc cyn gynted â phosibl i sicrhau eich bod yn barod.

Os yw eich budd-dal tai yn cael ei dalu'n syth i'ch landlord. Bydd angen i chi ddysgu sut mae talu eich rhent pan fyddwch yn derbyn eich hawliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Bydd angen i chi wybod pethau fel:

  • pwy yw eich landlord,
  • sut mae talu,
  • faint o rent mae angen i chi dalu,
  • ar ba ddyddiad o bob mis mae angen i chi dalu.

Siaradwch â'ch landlord / cymdeithas dai i ddarganfod mwy am y pethau y mae angen i chi eu gwneud, neu os ydych yn ansicr, cysylltwch â'r tîm budd-dal tai i gael gwybodaeth. 

Creu cyfeiriad e-bost

Caiff yr holl hawliadau eu rheoli ar-lein, felly mae angen i chi wybod lle gallwch chi gael mynediad i'r rhyngrwyd a bydd angen cyfrif e-bost arnoch. Cliciwch ar y dolenni isod i gael cymorth ynghylch creu cyfrif e-bost newydd:

Ymarfer a pharatoi

Gall fod yn anodd sicrhau bod eich arian yn para mis cyfan, yn enwedig os nad ydych yn gyfarwydd â hynny. O dan Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi sicrhau bod eich arian yn parhau am bedair wythnos gyfan, nes i chi dderbyn eich taliad budd-dal nesaf. Bydd angen hefyd i chi sicrhau nad ydych yn methu unrhyw daliadau pwysig, fel rhent neu filiau, yn ystod y cyfnod hwn.

I gael rhagor o gymorth ynghylch 'Credyd Cynhwysol - Rheoli eich arian' ewch i wefan gov.uk.

Bydd angen i chi gyflwyno'ch  hawliad Credyd Cynhwysol ar-lein yma. Byddwch wedyn yn cael apwyntiad gyda'ch hyfforddwr gwaith er mwyn trafod eich ymrwymiad hawlydd.

Pan ddyfarnir eich hawliad, byddwch yn derbyn:

  • Un taliad budd-dal - yn lle’r taliadau ar wahân rydych yn eu derbyn ar hyn o bryd
  • Eich taliad unwaith y mis - yn hytrach na phob wythnos neu bob pythefnos
  • Eich taliad i mewn i gyfrif banc neu undeb credyd - yn hytrach nag i mewn i gyfrif swyddfa bost, na ellir talu Credyd Cynhwysol iddo

COFIWCH: Os oeddech chi'n arfer hawlio Budd-dal Tai, byddwch yn awr yn derbyn eich hawliad fel rhan o'ch taliad budd-dal misol Credyd Cynhwysol.

Unwaith y byddwch yn derbyn eich taliad budd-dal, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • rheoli / cyllidebu eich budd-dal am fis cyfan (4 wythnos) tan eich taliad budd-dal nesaf
  • talu eich holl rent i'ch landlord eich hun bob mis

O dan rai amgylchiadau, mae'n bosibl y byddwch yn gallu gwneud trefniant talu amgen ar gyfer Credyd Cynhwysol. Gall hyn olygu bod eich Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu'n fwy aml nag yn fisol, ei fod yn cael ei rannu rhyngoch chi a'ch partner, neu fod eich rhent yn cael ei dynnu allan o'ch taliad credyd cynhwysol a'i dalu i'ch landlord cyn i chi dderbyn eich budd-dal.

Siaradwch â'ch hyfforddwr gwaith os hoffech gael rhagor o wybodaeth ar drefniant talu amgen.

Awgrymiadau defnyddiol i landlordiaid:

  • Sicrhewch fod eich tenantiaid yn gwybod faint yw eu rhent
    Siaradwch â'ch tenantiaid ar y dechrau i sicrhau eu bod yn gwybod faint yw eu rhent, a'u bod yn barod i dalu eu rhent i chi yn uniongyrchol.
  • Gwnewch gais am Drefniant Talu Arall
    Os oes gennych denantiaid sy'n cael trafferth â thaliadau rhent neu os oes ganddynt ôl-ddyledion rhent, gallwch wneud cais am gael eu costau rhent wedi'u talu i chi yn uniongyrchol o ddechrau eu hawliad.
  • Gall hawlwyr wneud cais ymlaen llaw
    A ydych yn gwybod bod hawlwyr Credyd Cynhwysol newydd yn gallu gwneud cais am arian ymlaen llaw o ddechrau eu hawliad sy'n gallu cael ei ddefnyddio i helpu i dalu rhent a biliau?
  • Cymorth ychwanegol ar gyfer hawlwyr Budd-dal Tai
    Atgoffwch denantiaid sy'n symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol y byddant yn cael pythefnos ychwanegol o gymorth Budd-dal Tai yn awtomatig, ac nad oes angen iddynt ei ad-dalu.
  • Deallwch yr opsiynau
    Yn yr Alban, gall tenantiaid ddewis rhwng talu eu costau rhent yn uniongyrchol i'w landlordiaid neu i'w hunain. Sicrhewch eich bod yn deall yr holl opsiynau er mwyn rhoi'r cyngor gorau posibl.
  • Anogwch denantiaid i sefydlu debyd uniongyrchol
    Bydd angen cyfrif banc arnynt ar gyfer eu taliadau Credyd Cynhwysol, a bydd sefydlu debyd uniongyrchol neu archeb sefydlog yn gallu eu helpu i sicrhau bod eu taliadau rhent yn cael eu gwneud yn brydlon.
  • Dewch i adnabod eich Rheolwr Partneriaeth
    Dylech feithrin cysylltiadau cryf â'ch Rheolwr Partneriaeth - gallant rannu manylion cyswllt â chi er mwyn helpu i ddatrys materion cymhleth.
  • Anogwch denantiaid i hawlio ar unwaith
    Anogwch denant y mae ei amgylchiadau wedi newid, er enghraifft os yw wedi colli ei swydd, i wneud hawliad am Gredyd Cynhwysol ar unwaith er mwyn iddo allu parhau i dalu ei rent.
  • Sicrhewch fod gan eich tenant y gwaith papur cywir
    Os ydych yn landlord preifat, bydd angen i chi roi'r gwaith papur priodol wedi'i lofnodi i'ch tenantiaid, sy'n cadarnhau faint yw eu rhent. Mae hyn yn angenrheidiol ar gyfer y broses wirio.

Gellir cael rhagor o wybodaeth i landlordiaid drwy fynd i wefan Universal Credit, lle gallwch hefyd gael gwybod sut i gysylltu â thimau partneriaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau.