Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn
Diweddarwyd y dudalen ar: 21/02/2024
Mae Taliad Tai yn ôl Disgresiwn yn daliad tymor byr y gallwch wneud cais amdano os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Credyd Cynhwysol (gyda chostau Tai) ac rydych yn cael trafferth talu eich rhent.
Pan fyddwn yn rhoi Taliad Tai yn ôl Disgresiwn, rydym yn disgwyl ichi gymryd rhai camau i helpu i wella eich sefyllfa a byddwn yn rhoi gwybod ichi am y camau posibl hyn. Gallent gynnwys ceisio cyngor ar ddyledion neu chwilio am lety mwy fforddiadwy.
Dim ond hyn a hyn o gyllid sydd ar gael felly byddwn yn penderfynu ar y swm a'r cyfnod. Nid yw'n ateb tymor hir i'ch problemau ariannol.
Gellir talu Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn dim ond os ydych yn derbyn:
- Budd-dal Tai
- Credyd Cynhwysol sy'n cynnwys elfen dai i'ch helpu chi â'ch rhent.
Pryd na allwn wneud Taliad Tai yn ôl Disgresiwn:
- I ychwanegu at swm a roddwyd o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor,
- Tuag at daliadau am wasanaethau anghymwys e.e. dŵr, tanwydd neu brydau,
- Os yw eich budd-daliadau eraill wedi cael eu lleihau, er enghraifft, oherwydd eich bod wedi gadael eich swydd ddiwethaf o'ch gwirfodd.
Beth ddylwn ei wneud os ydw i'n anghytuno â'ch penderfyniad
Mae angen ichi ysgrifennu atom i ofyn am adolygiad cyn pen mis ar ôl y dyddiad a nodwyd ar eich llythyr penderfyniad oddi wrthym. Bydd eich cais a'ch ffurflen gais yn cael eu hasesu gan Arweinydd Tîm a byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad cyn pen 10 niwrnod ar ôl iddo/iddi dderbyn yr holl waith papur angenrheidiol i wneud penderfyniad. Os ydych yn dal yn anfodlon ar ein penderfyniad gallwch ofyn am adolygiad barnwrol.
Os ydych yn anfodlon ar ein penderfyniad gallwch ofyn inni ystyried eich cais eto. Rydym yn galw hyn yn ‘adolygiad'.
Mae angen ichi ysgrifennu atom i ofyn am adolygiad cyn pen mis ar ôl y dyddiad a nodwyd ar eich llythyr penderfyniad oddi wrthym. Bydd eich cais a'ch ffurflen gais yn cael eu hasesu gan Arweinydd Tîm a byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad cyn pen 10 niwrnod ar ôl iddo/iddi dderbyn yr holl waith papur angenrheidiol i wneud penderfyniad.
Os ydych yn dal yn anfodlon ar ein penderfyniad gallwch ofyn am adolygiad barnwrol. I gael cyngor annibynnol gallwch gysylltu â Shelter Cymru ar 0845 075 5005 neu e-bostio: advice@sheltercymru.org.uk.
Budd-daliadau
Budd-dal tai
- Sut gaiff fy mudd-dal ei gyfrifo?
- Y Lwfans Tai Lleol
- Sut caiff Budd-dal Tai ei dalu?
- Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn
- Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
- Gordaliadau
- Sut mae apelio
- Y Cap ar Fudd-daliadau
Gostyngiad y Dreth Gyngor
Credyd Cynhwysol
Mwy ynghylch Budd-daliadau