Newid i Fudd-daliadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/09/2017

Yn 2012 penderfynodd llywodraeth y DU wneud newidiadau i'r systemau credyd treth a budd-daliadau lles presennol. Mae'r newidiadau hyn wedi'u cyflwyno fesul tipyn a bydd y drefn honno'n parhau'n raddol rhwng hyn a 2019.

Newidiadau i'r Lwfans Byw i'r Anabl

Mae'r Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei ddisodli gan fudd-dal newydd o'r enw Taliad Annibyniaeth Bersonol rhwng mis Ebrill  2013 a mis Hydref 2017.

Bydd y newidiadau hyn ond yn effeithio ar gwsmeriaid oedran gwaith felly os ydych dan 16 oed neu'n hŷn na 64 oed, ni fyddant yn effeithio arnoch.

  • Gallwch ddal i wneud cais am y Lwfans Byw i'r Anabl os ydych dan 16 oed
  • Os ydych yn hŷn na 64 oed bydd angen ichi wneud cais am Lwfans Gweini

Pryd yr effeithir arnaf a beth sydd angen imi ei wneud?

Rhywbryd rhwng mis Hydref 2015 a mis Hydref 2017 byddwch yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich gwahodd i hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol yn hytrach na'r Lwfans Byw i'r Anabl. Bydd angen ichi ymateb i'r llythyr hwn i ddechrau'r broses. Bydd hyn yn digwydd hyd yn oed os oes gennych ddyfarniad amhenodol ar gyfer y Lwfans Byw i'r Anabl. IOs ydych chi'n 16 oed neu'n iau neu os oeddech chi'n 65 oed neu'n hŷn ar 8 Ebrill 2013, ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi. 

Os ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau

Os bydd angen ichi roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau cyn eich bod yn cael llythyr yn eich gwahodd i hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol, gofynnir ichi hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol yn hytrach na'r Lwfans Byw i'r Anabl  pan fyddwch yn rhoi gwybod am hynny.

Defnyddiwch y PIP-Checker i weld sut y bydd y Taliadau Annibyniaeth Bersonol yn effeithio arnoch a beth y mae newid i'r budd-dal newydd yn ei olygu. Hefyd mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.gov.uk/pip.