Sut y caiff fy ngostyngiad ei gyfrifo?

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Rydym yn edrych ar:

  • Faint o arian sydd gennych yn dod i mewn a’ch amgylchiadau personol
  • Faint o gynilion sydd gennych (fel arfer os oes gennych fwy na £16,000 ni fyddwch yn gymwys onid ydych yn cael Credyd Pensiwn – Credyd Gwarant).
  • Amgylchiadau’r bobl ar eich aelwyd (oedran, rhyw, anableddau) a’u perthynas â chi

Defnyddiwch ein cyfrifiannell ar-lein i gael amcangyfrif o faint o fudd-dal y byddwch o bosibl yn ei gael.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod eich gostyngiad yn dechrau o’r dyddiad cynharaf posibl, dylech gysylltu â ni cyn gynted â bod angen cymorth arnoch i ddweud wrthym ni eich bod eisiau gwneud hawliad.

Fel arfer mae Gostyngiad Treth Gyngor yn dechrau o’r diwrnod y byddwn ni'n derbyn eich hawliad neu’ch bwriad i wneud hawliad. Fodd bynnag, weithiau gallwn dalu o ddyddiad cynharach. Mae yna reolau ar wahân i bensiynwyr ac i hawlwyr o oedran gweithio.

Mae’r oedran mae rhywun yn dod yn bensiynwr yn newid felly os nad ydych chi’n siŵr a fyddech chi’n cael eich ystyried o oedran gweithio neu o oedran pensiwn, gallwch gyfrifo’ch oedran pensiwn ar wefan GOV.UK.

Os ydych o oedran pensiwn, mae’ch hawliad yn cael ei ‘ôl-ddyddio’ 3 mis yn awtomatig, ar yr amod eich bod o oedran pensiwn drwy gydol y 3 mis, neu yn ôl i’r dyddiad y cyrhaeddoch oedran pensiwn os oedd y dyddiad hwn o fewn 3 mis. Y cwbl sydd ei angen arnom yw’r wybodaeth angenrheidiol i asesu’ch hawl ac nid oes yn rhaid ichi ddangos unrhyw resymau dros beidio â hawlio yn gynt.

Os ydych o oedran gweithio, mae’n rhaid bod gennych ‘reswm da’ (neu achos da) dros beidio â hawlio yn gynt.

Nid oes diffiniad penodol, ond dyma rai enghreifftiau:

  • Marwolaeth perthynas agos;
  • Bod yn yr ysbyty neu’n ddifrifol sâl;
  • Cael cyngor anghywir gan rywun a ddylai wybod yn well, fel swyddog budd-daliadau, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, gweithiwr cymdeithasol neu staff yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP);
  • Anawsterau o ran iaith;
  • Peidio â gallu rheoli’ch trefniadau mewn bywyd a bod heb neb i’ch helpu ar y pryd.

Gan fod angen tystiolaeth arnom fel arfer, dylech roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch i’n helpu i wneud ein penderfyniad. Mae’n rhaid i’r rheswm da fod yn berthnasol dros yr holl gyfnod yr ydych eisiau i’ch dyfarniad gael ei ôl-ddyddio amdano.

Y cyfnod mwyaf yw 3 mis o’r adeg y cawn eich cais ysgrifenedig.

Gallwch hawlio Gostyngiad Treth Gyngor wedi’i ôl-ddyddio ar yr un pryd â’ch hawliad Gostyngiad Treth Gyngor llawn trwy lenwi’r adran berthnasol yn y ffurflen, neu drwy gysylltu â ni yn y cyfeiriad isod.

Pan fo oedolion eraill, heb gynnwys eich partner, yn byw yn eich cartref, tybir y byddant yn helpu i dalu biliau'r cartref megis y rhent neu Dreth y Cyngor. Yn sgil hynny caiff swm y rhent / Treth y Cyngor y gallwch hawlio budd-dal arno ei ostwng yn unol â'u gallu i dalu. Gelwir hwn yn ddidyniad annibynyddion.

Bydd swm y rhent neu Dreth y Cyngor y gallwch hawlio budd-dal arno yn cael ei ostwng fel a ganlyn ar gyfer pob annibynydd sydd yn y cartref.

Categori Budd-dal yn cael ei ostwng

18 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor am dâl
Incwm gros yn llai na £544.00

£17.35
18 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor am dâl
Incwm crynswth rhwng £445.00 a £553.99
£14.50
18 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor am dâl
Incwm crynswth rhwng £256.00 a £444.99
£11.55
18 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor am dâl
Incwm gros yn llai na £256.00
£5.80
Yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn gysylltiedig ag incwm) neu Gredyd Pensiwn.  Dim gostyngiad
Eraill 18 oed neu drosodd £5.80

Ni fydd budd-dal yn cael ei ostwng yn sgil y bobl ganlynol:

  • Pobl dan 18 oed.
  • Pobl mewn addysg amser llawn.  Os byddant yn dechrau gweithio yn ystod y gwyliau bydd gostyngiad o ran Budd-dal Tai yn berthnasol.
  • Pobl sy'n derbyn Lwfans Hyfforddiant yn y Gweithle.
  • Pobl sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn. Yn achos Budd-dal Tai yn unig, caiff gostyngiad ei wneud o ben-blwydd yr unigolyn yn 25 oed ymlaen.
  • Pobl sydd yn y carchar.
  • Pobl sydd yn yr ysbyty am fwy na pumdeg dau wythnos. Mae cyfnodau ar wahân yn yr ysbyty yn cael eu hychwanegu at ei gilydd ac yn cael eu cyfrif fel un cyfnod ar yr amod eu bod yn cael eu gwahanu gan gyfnodau o 28 diwrnod neu lai.
  • Person sydd fel arfer yn byw gyda chi, ond sydd i ffwrdd â'r lluoedd arfog ar weithrediadau ar hyn o bryd. 
  • Pobl sy'n cael eu diystyru at ddibenion Treth y Cyngor (Gostyngiad Treth y Cyngor yn unig).

At ddibenion Treth y Cyngor - os ydych yn atebol ar y cyd ar gyfer y dreth gyngor gyda rhywun ar wahân i'ch partner,  unrhyw ddidyniad nad ydynt yn ddibynnol yn cael ei rannu'n gyfartal rhwng chi.

Ar ôl i'ch cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor gael ei gyfrifo byddwn yn anfon llythyr atoch i roi gwybod ichi a ydych yn gymwys ar gyfer gostyngiad. Os hoffech wybod mwy ynghylch sut y gwnaethom gyfrifo eich Gostyngiad y Dreth Gyngor lawrlwythwch ein llythyr enghreifftiol sy'n rhoi arweiniad cam wrth gam ynglŷn â chyfrifo, gan gynnwys ystyron rhai o'r ymadroddion.

  1. Rheswm Dros Y Cyfrifiad: Y rheswm y cafodd y datganiad ar Ostyngiad y Dreth Gyngor ei gynhyrchu.
  2. Manylion Incwm Wythnosol: manylion sydd gennym ni o incwm wythnosol eich aelwyd. Dylai’r adran hon ddangos yr holl incwm a budd-daliadau ar gyfer eich aelwyd
  3. Treuliau: os oes gennych gostau gofal plant byddant yn cael eu dangos yma.
  4. Cyfeirnod yr Hawliad: i’n helpu i ymdrin ag ymholiadau’n gyflym, dyfynnwch gyfeirnod eich hawliad bob tro y byddwch yn cysylltu â ni os gwelwch yn dda.
  5. Cyfeirnod y Dreth Gyngor: Dyfynnwch y rhif hwn os byddwch yn cysylltu ag Adran y Dreth Gyngor os gwelwch yn dda.
  6. Incwm Dros Ben: Mae cyfanswm eich lwfans byw yn cael ei ddidynnu o gyfanswm eich incwm wythnosol i roi “Incwm Dros Ben” eich aelwyd at ddibenion cyfrifiadau ar gyfer Gostyngiad y Dreth Gyngor.
  7. Cyfnod y Gostyngiad yn y Dreth Gyngor:Y cyfnod y mae’r cyfrifiad hwn ar gyfer gostyngiad yn berthnasol iddo ar eich bil.
  8. Cyfalaf: Dylai fod y symiau eitemedig o gyfalaf sydd gennych ar yr adeg yr anfonir y llythyr yn cael eu dangos yma, e.e. eiddo, cyfranddaliadau, cynilon a.y.b.
  9. Namyn didyniadau ar gyfer pobl nad ydynt yn ddibynyddion: Bydd symiau unrhyw ddidyniadau ar gyfer pobl nad ydynt yn ddibynyddion yn cael eu didynnu o’ch treth gyngor wythnosol gymwys wrth gyfrifo Gostyngiad y Dreth Gyngor.
  10. Treth Gyngor Wythnosol Gymwys: Swm y Dreth Gyngor a godir arnoch yn flynyddol wedi’i drosi’n swm wythnosol yw hwn.
  11. Sut y caiff eich gostyngiad ei gyfrifo: Mae hyn yn dangos sut y cyfrifwyd eich hawl i Ostyngiad y Dreth Gyngor, gam wrth gam.
  12. Cyfanswm Lwfans Byw: Dyma’r swm o arian y gall cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ei ganiatáu ar eich cyfer chi (a’ch teulu), i chi gael safon byw sylfaenol ar ôl ystyried costau’r aelwyd. Mae’r cyfanswm Lwfans Byw a gyfrifwyd yma yn cael ei ddefnyddio wedyn yn y cyfrifiad, y gallwch ei weld dan y pennawd “Sut y caiff eich gostyngiad ei gyfrifo.
  13. % Berthnasol o’r Incwm Dros Ben: Dim ond canran o’r Incwm Dros Ben a ddefnyddir yn y cyfrifiad ar gyfer Gostyngiad y Dreth Gyngor. Pennwyd canran berthnasol o 20% gan reolau’r cynllun.
  14. Swm y gostyngiad a gyfrifwyd: Dyma ganlyniad terfynol y cyfrifiad ac mae’n dangos y swm wythnosol o ran Gostyngiad y Dreth Gyngor sy’n ddyledus i chi. Gellir gweld swm y gostyngiad am y cyfnod wedyn hefyd ar eich Bil treth gyngor.
  15. Namyn 20% o Incwm Dros Ben: Bydd y ganran berthnasol o’ch incwm dros ben yn cael ei didynnu o’r Dreth Gyngor wythnosol gymwys hefyd wrth gyfrifo eich gostyngiad.