Y Lwfans Tai Lleol
Diweddarwyd y dudalen ar: 29/10/2024
Mae'r Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i denantiaid sy'n rhentu gan landlord preifat (heblaw bod eich rhent yn cynnwys prydau neu eich bod yn rhentu carafán neu gwch). Nid yw'n berthnasol i denantiaid sy'n rhentu gan y Cyngor neu gymdeithas dai.
Nid yw'n cymryd lle'r Budd-dal Tai. Mae'n defnyddio lwfans cyfradd benodedig sy'n seiliedig ar nifer y bobl sy'n byw gyda'r tenant a'r ardal lle mae'n rhentu eiddo i bennu faint o fudd-dal y bydd yn ei dderbyn.
Bydd cyfradd y Lwfans Tai Lleol y bydd cwsmeriaid yn ei derbyn yn cael ei hadolygu bob blwyddyn.
Bydd amgylchiadau eraill, megis incwm y tenant a'r bobl eraill sy'n byw ar yr aelwyd, yn dal i effeithio ar faint o fudd-dal a delir, felly efallai na fydd y tenant yn derbyn y Lwfans Tai Lleol llawn bob amser.
Bydd y Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i gwsmeriaid Budd-dal Tai mewn tenantiaethau yn y sector preifat a ddadreoleiddiwyd a thenantiaethau preifat prif ffrwd yn unig.
Ni fydd rheolau'r Lwfans Tai Lleol newydd yn berthnasol i'r canlynol:
- Tenantiaid Awdurdod Lleol
- Tenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (Cymdeithasau Tai)
- Achosion a amddiffynnir, megis tai â chymorth a ddarperir gan rai awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, elusennau a sefydliadau gwirfoddol;
- Tenantiaethau sydd wedi'u heithrio o gyfyngiadau rhent cyfredol (megis tenantiaethau cyn 1989);
- Carafanau, cartrefi cychod a hostelau;
- Achosion lle mae'r swyddog rhenti yn barnu bod cyfran sylweddol o'r rhent yn talu am lety a phresenoldeb (e.e. llety mewn gwesty sydd eisoes yn bodoli yn y sector preifat).
Bydd cwsmeriaid sy'n rhentu yn y sectorau hyn yn parhau i dderbyn Budd-dal Tai wedi'i gyfrifo o dan y rheolau presennol.
I gyfrifo faint o fudd-dal y mae hawl gennych iddo, mae angen ichi wybod faint o ystafelloedd gwely y mae hawl gennych iddynt a pha gyfradd Lwfans Tai Lleol sy'n berthnasol ichi.
Caiff nifer y bobl sy'n byw gyda chi ei ddefnyddio i gyfrifo faint o ystafelloedd gwely y mae hawl gennych iddynt. Ni chyfrifir ystafelloedd eraill megis ystafell fyw, cegin neu ystafell ymolchi.
Caiff nifer yr ystafelloedd gwely eu cyfrifo fel a ganlyn:
- un ystafell wely ar gyfer
- pob pâr o oedolion
- unrhyw oedolyn arall sy'n 16 oed neu'n hŷn
- unrhyw ddau blentyn o'r un rhyw
- unrhyw ddau blentyn dan 10 oed beth bynnag eu rhyw
- unrhyw blentyn arall (heblaw plant maeth)
- un ystafell wely ychwanegol lle bo angen gofal dros nos ar gwsmer neu bartner **
- un ystafell wely ychwanegol i blentyn ag anabledd difrifol y byddai disgwyl iddo/iddi fel arfer rannu ystafell wely o dan y meini prawf maint ond nad yw'n gallu gwneud hynny o achos ei (h)anabledd.
- un ystafell wely ychwanegol i hawlydd neu bartner sy'n derbyn Lwfans Gweini, Lwfans Byw i'r Anabl (gofal), Taliad Annibyniaeth Bersonol (elfen bywyd beunyddiol), Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog lle bo gofal dros nos yn ofynnol **
- un ystafell wely ychwanegol i blentyn neu blant maeth gofalwr maeth sydd wedi'i gymeradwyo.
Yn amodol ar lwfans o bedair ystafell wely ar y mwyaf.
**Er mwyn ystyried a ellir caniatáu ystafell wely ychwanegol ar gyfer gofalwr dros nos, bydd angen inni ystyried:
- A oes angen meddygol am ofal
- Natur a difrifoldeb yr anabledd
- Natur ac amlder y gofal sydd ei angen yn ystod y nos
- Y graddau y mae'r anabledd neu'r gofal a roir yn effeithio ar gwsg y plentyn y mae disgwyl iddo/iddi rannu ystafell wely.
Mae'r sawl sydd angen gofal dros nos yn debygol o fod yn rhywun sy'n:
- derbyn Lwfans Gweini neu sy'n
- derbyn elfen ofal ganolig neu uchaf y Lwfans Byw i'r Anabl neu elfen bywyd beunyddiol y Taliad Annibyniaeth Bersonol neu
- os nad yw'n derbyn un o'r uchod, sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ddigonol inni er mwyn dangos bod y math hwn o ofal yn ofynnol.
Enghraifft
Mae gan John a Sally dri bachgen sy'n 11, 8 a 6 oed. Hefyd mae mam John yn byw gyda nhw. Mae ganddynt hawl i gael:
- ystafell wely iddynt eu hunain,
- un i'w bachgen 11 oed,
- un i'w bechgyn 8 a 6 oed ei rhannu,
- un i fam John.
Mae rheolau ar wahân i rai grwpiau:
- Pobl sy'n 35 oed neu'n hŷn, yn sengl a heb fod yn byw gydag unrhyw ddibynyddion
- Pobl sydd dan 35 oed, yn sengl a heb fod yn byw gydag unrhyw ddibynyddion
- Parau nad ydynt yn byw gydag unrhyw ddibynyddion
- Pobl dan 22 oed sy'n gadael gofal
- Pobl rhwng 25 a 35 oed sydd wedi byw mewn hostel arbenigol i'r digartref am 3 mis
- Pobl sydd ag anabledd difrifol
- Cyn-droseddwyr sydd rhwng 25 a 35 oed
Mae'n bosibl y bydd hawl gennych i gyfradd ystafell ychwanegol lle cewch chi neu eich partner eich dynodi'n "rhiant neu ofalwr cymwys". Yr amodau yw bod gennych chi ystafell sbâr; a naill ai:
- Bod plentyn wedi'i leoli gyda chi; neu eich
- Bod yn ofalwr maeth a gymeradwywyd ond nad oes plentyn wedi'i leoli gyda chi ar hyn o bryd (yn amodol ar fwyafswm o 52 wythnos)
Os ydych yn credu y gallai'r canllawiau hyn effeithio arnoch, cysylltwch â ni.
I gyfrifo faint o fudd-dal y gallech ei gael, bydd angen ichi gael gwybod ar ba gyfradd Lwfans Tai Lleol y seilir eich budd-dal.
Os ydych yn 35 oed neu'n hŷn, yn sengl a heb fod yn byw gydag unrhyw ddibynyddion, bydd eich budd-dal yn cael ei seilio ar gyfradd un ystafell wely y Lwfans Tai Lleol os ydych yn byw mewn:
- eiddo hunangynhwysol
- llety a rennir ond bod gennych ddwy neu ragor o ystafelloedd (ystafelloedd gwely neu ystafelloedd byw) nad oes neb arall yn gallu eu defnyddio
Mae eiddo hunangynhwysol yn golygu un lle mae gennych eich ystafell eich hun ynghyd â:
- ystafell ymolchi
- toiled, a
- cegin (neu gyfleusterau coginio)
- Er enghraifft gallai hyn fod yn fflat un ystafell wely.
Os ydych yn 35 oed neu'n hŷn a heb fod yn byw gydag unrhyw ddibynyddion, caiff eich budd-dal ei seilio ar gyfradd rhannu ystafell y Lwfans Tai Lleol os ydych yn byw mewn llety a rennir heblaw bod gennych ddwy neu ragor o ystafelloedd (ystafelloedd gwely neu ystafelloedd byw) nad oes neb arall yn gallu eu defnyddio.
Hefyd mae angen ichi gael gwybod a allwch gael y budd-dal yn llawn.
Gall y canlynol effeithio ar faint o fudd-dal y mae hawl gennych ei gael:
- unrhyw arian rydych yn ei dderbyn
- unrhyw gynilion sydd gennych
- faint yw eich rhent
- a ydych yn rhannu talu'r rhent â rhywun arall
I gyfrifo faint o fudd-dal y gallech ei gael, bydd angen ichi gael gwybod ar ba gyfradd Lwfans Tai Lleol y seilir eich budd-dal.
Os ydych o dan 35 oed, yn sengl a heb unrhyw ddibynyddion, dim ond cyfradd rhannu ystafell y Lwfans Tai Lleol y gallwch chi ei chael.
Fodd bynnag mae rheolau arbennig:
- os ydych yn gadael gofal a than 22 oed
- os ydych yn 25-35 oed ac wedi byw mewn hostel yn y gorffennol
- os oes gennych anabledd difrifol
Enghraifft
Mae Brian yn sengl ac yn 33 oed.
- Gan ei fod o dan 35 oed, mae ganddo hawl i gyfradd rhannu ystafell y Lwfans Tai Lleol.
- Pan fydd yn cyrraedd 35 oed, bydd ganddo hawl i'r gyfradd un ystafell wely, a bwrw ei fod yn rhentu llety o'r fath.
Hefyd mae angen ichi gael gwybod a allwch gael y budd-dal yn llawn. Gall y canlynol effeithio ar faint o fudd-dal y mae hawl gennych ei gael:
- unrhyw arian rydych yn ei dderbyn
- unrhyw gynilion sydd gennych
- faint yw eich rhent
- a ydych yn rhannu talu'r rhent â rhywun arall
Cwestiynau Cyffredin
C. Rwyf wedi cael ar ddeall mai dim ond cyfradd rhannu llety y Lwfans Tai Lleol y mae hawl gan bobl sengl o dan 35 ei chael. A ydy hynny'n gywir?
A. Ydy, caiff yr hyn a roddir ichi ei seilio ar y gyfradd rhannu llety.
C. Rwyf yn unig riant ac o dan 35 oed. Ai'r gyfradd rhannu llety'n unig y bydd hawl gennyf i'w chael?
A. Nage. Nid yw'r newidiadau hyn yn berthnasol i unig rieni nac i barau. Maent ond yn berthnasol i hawlwyr sengl sy'n byw ar eu pen eu hunain mewn llety a rentir yn breifat ac sydd o dan 35 oed.
C. Rwyf yn denant cyngor neu gymdeithas tai. A fydd yn rhaid imi symud i lety a rennir?
A. Na fydd. Mae'r newidiadau hyn ond yn berthnasol i lety a gaiff ei rentu gan landlord preifat. Nid ydynt yn berthnasol i denantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig h.y. cymdeithasau tai.
C. Rwyf yn gyd-denant mewn tŷ a rennir. A fydd y newid hwn yn effeithio arnaf?
A. Na fydd. Os ydych yn gyd-denant mewn tŷ a rennir ac yn byw gyda phobl nad ydynt yn berthnasau, mae'n debygol y byddwch eisoes yn cael budd-dal tai yn ôl y gyfradd rhannu llety. Os felly, ni fydd y newid hwn yn effeithio arnoch.
C. Rwyf wedi bod yn cael budd-dal tai yn y cyfeiriad hwn ers cyn 7 Ebrill 2008. Dywedwyd wrthyf na fydd y newid yn effeithio ar fy mudd-dal. A ydy hynny'n gywir?
A. Os oeddech yn hawlio budd-dal tai cyn 7 Ebrill 2008, ac os nad oeddech wedi symud na chael toriad yn eich hawliad ers y dyddiad hwnnw, nid effeithir arnoch.
C. Roeddwn i'n byw mewn fflat un ystafell wely gyda fy mhartner. Rydym wedi ymadael â'n gilydd a gadawodd fy mhartner yr eiddo. A fydd y newid yn effeithio arnaf, a phryd y bydd yn effeithio arnaf?
A. Os nad oes gennych blant ac os yw eich partner wedi symud allan, byddwch yn symud i'r gyfradd rhannu llety o'r dydd Llun ar ôl i'ch partner adael yr eiddo.
Os ydych yn 25 oed ac wedi treulio o leiaf dri mis mewn hostel (neu hostelau) arbenigol i bobl ddigartref, ac mai prif ddiben yr hostel honno yw darparu llety, gofal, goruchwyliaeth neu gymorth gyda golwg ar helpu i adfer pobl ddigartref neu eu cael i ailsefydlu yn y gymuned, byddwch yn cael eich eithrio o'r gyfradd rhannu llety.
Fodd bynnag er mwyn i'r eithriad hwn gael ei roi ar waith, bydd yn rhaid eich bod wedi cael cynnig gwasanaethau cymorth, ac wedi eu derbyn, o ran adfer neu ailsefydlu yn y gymuned yn ystod eich amser yn yr hostel.
A oes gwahaniaeth pryd yr arhosais mewn hostel ddiwethaf?
Nid oes gwahaniaeth faint o amser sydd rhwng symud allan o hostel i lety sefydlog a chyflwyno cais am fudd-dal, nac ychwaith faint oedd eich oedran pan oeddech yn byw yn yr hostel (ond bydd yn rhaid ichi fod yn 25 oed neu'n hŷn i fod yn gymwys i gael yr eithriad).
Hefyd nid oes yn rhaid bod yr arhosiad o dri mis wedi digwydd yn ddi-dor, nac yn yr un hostel.
Bydd angen ichi roi tystiolaeth inni o'ch arhosiad mewn hostel (neu hostelau) arbenigol briodol yn ogystal â chadarnhad y cawsoch gynnig cymorth yn ystod eich arhosiad a'ch bod wedi ei dderbyn.
Os ydych yn gyd-denant gallai hyn effeithio ar y budd-dal y gallwch ei gael. I gael rhagor o wybodaeth am gyd-denantiaid, cysylltwch â ni.
Mae cyfraddau'r Lwfansau Tai Lleol yn cael ei hadolygu ym mis Ebrill bob blwyddyn. Efallai y byddant yn mynd i fyny, i lawr neu aros yr un fath.
Nifer yr ystafelloedd gwely | Categori | Y swm wythnosol |
---|---|---|
Llety a rennir | A | £77.50 |
1 ystafell wely | B | £92.05 |
2 ystafell wely | C | £112.50 |
3 ystafell wely | D | £123.12 |
4 ystafell wely | E | £149.59 |
Pethau eraill a allai gael effaith ar faint o Lwfans Tai Lleol y mae hawl gennych ei gael:
- Eich incwm
- Eich cynilion
- A oes unrhyw un 18 oed neu hŷn yn byw gyda chi
- A oes gennych gyd-denantiaeth
- Faint yw eich rhent
Os yw eich rhent yn llai na chyfradd y Lwfans Tai Lleol sy'n berthnasol ichi, bydd eich hawl i fudd-dal yn cael ei seilio ar y rhent rydych yn ei dalu.
Os yw eich rhent yn fwy na'ch cyfradd Lwfans Tai Lleol, bydd yn rhaid ichi dalu'r gwahaniaeth eich hun.
Efallai y byddwch am ystyried:
- Trafod talu llai o rent gyda'ch landlord
- Chwilio am lety rhatach
- Chwilio am gyfleoedd cyflogaeth/hyfforddiant
- Gwneud cais am daliad tai yn ôl disgresiwn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, telir y budd-dal ichi fel y cwsmer sy'n gyfrifol am dalu eich taliadau rhent eich hun i'ch landlord.
O dan amgylchiadau penodol gellir talu'r budd-dal yn uniongyrchol i'r landlord. Os oes gennym dystiolaeth nad yw'r tenant yn talu'r rhent neu ei fod yn annhebygol o dalu'r rhent, gallwn wneud taliadau'n uniongyrchol i'r landlord.
Efallai bod gan gwsmeriaid anawsterau dysgu, cyflwr meddygol neu anghenion addysgol sy'n awgrymu y gallent gael trafferth wrth ymdrin â'u materion ariannol eu hunain; efallai nad ydynt yn medru darllen, neu fod ganddynt anawsterau iaith; efallai eu bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol; neu fod ganddynt broblemau dyledion ac os oes 8 wythnos o ôl-ddyledion rhent wedi cronni.
Os oes ôl-ddyledion rhent yn ddyledus, byddwn yn trefnu talu'r landlord yn uniongyrchol oni bai nad yw hynny er lles cyffredinol i'r cwsmer. Fodd bynnag, anogir landlordiaid i gysylltu â ni cyn cyrraedd diwedd y cyfnod o 8 wythnos.
Mwy ynghylch Budd-daliadau