Sut gaiff fy mudd-dal ei gyfrifo?

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/01/2024

Rydym yn edrych ar:

  • Faint o arian sydd gennych yn dod i mewn a’ch amgylchiadau personol.
  • Faint o gynilion sydd gennych (fel arfer os oes gennych fwy na £16,000 ni fyddwch yn gymwys onid ydych yn cael Credyd Pensiwn – Credyd Gwarant).
  • Amgylchiadau’r bobl ar eich aelwyd (oedran, rhyw, anableddau) a’u perthynas â chi.
  • Os ydych chi’n hawlio Budd-dal Tai, ac yn byw mewn cartref sy’n eiddo i gyngor neu gymdeithas tai, mae’n bosibl y caiff eich budd-dal ei ostwng os oes gennych ystafell wely sbâr. 
  • Os ydych chi’n byw mewn llety rhent preifat, bydd eich Budd-dal Tai’n cael ei seilio ar y cyfraddau Lwfans Tai Lleol cyfredol i gartref o’r maint mae ei angen ar eich aelwyd. 

Defnyddiwch ein cyfrifiannell budd-daliadau i gael amcangyfrif o faint o fudd-dal y byddwch o bosibl yn ei gael. Efallai y bydd y swm y budd-dal tai a gewch yn cael ei leihau gan y cap budd-dal.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod eich Budd-dal Tai’n dechrau o’r dyddiad cynharaf posibl, dylech gysylltu â ni cyn gynted â bod angen budd-dal arnoch i ddweud wrthym ni eich bod eisiau gwneud hawliad.

Fel arfer mae Budd-dal Tai yn dechrau o’r dydd Llun ar ôl inni gael eich hawliad neu’ch bwriad i wneud hawliad. Fodd bynnag, weithiau gallwn dalu o ddyddiad cynharach. Mae yna reolau ar wahân i bensiynwyr ac i hawlwyr o oedran gweithio.

Mae’r oedran mae rhywun yn dod yn bensiynwr yn newid felly os nad ydych chi’n siŵr a fyddech chi’n cael eich ystyried o oedran gweithio neu o oedran pensiwn, gallwch gyfrifo’ch oedran pensiwn ar wefan GOV.UK.

Os ydych o oedran pensiwn, mae’ch hawliad yn cael ei ‘ôl-ddyddio’ 3 mis yn awtomatig, ar yr amod eich bod o oedran pensiwn drwy gydol y 3 mis, neu yn ôl i’r dyddiad y cyrhaeddoch oedran pensiwn os oedd y dyddiad hwn o fewn 3 mis. Y cwbl mae ei angen arnom yw’r wybodaeth angenrheidiol i asesu’ch hawl ac nid oes yn rhaid ichi ddangos unrhyw resymau dros beidio â hawlio yn gynt.

Os ydych o oedran gweithio, mae’n rhaid bod gennych ‘reswm da’ (neu achos da) dros beidio â hawlio yn gynt.

Nid oes diffiniad penodol, ond dyma rai enghreifftiau:

  • Marwolaeth perthynas agos;
  • Bod yn yr ysbyty neu’n ddifrifol sâl;
  • Cael cyngor anghywir gan rywun a ddylai wybod yn well, fel swyddog budd-daliadau, Y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, gweithiwr cymdeithasol neu staff yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP);
  • Anawsterau o ran iaith;
  • Peidio â gallu rheoli’ch trefniadau mewn bywyd a bod heb neb i’ch helpu ar y pryd.

Gan fod angen tystiolaeth arnom fel arfer, dylech roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch i’n helpu i wneud ein penderfyniad. Mae’n rhaid i’r rheswm da fod yn berthnasol dros yr holl gyfnod yr ydych eisiau i’ch dyfarniad gael ei ôl-ddyddio amdano.

Os ydych o oedran gweithio, y cyfnod mwyaf yw 1 mis o’r adeg y cawn eich cais ysgrifenedig.

Gallwch hawlio budd-dal wedi’i ôl-ddyddio ar yr un pryd â’ch hawliad Budd-dal Tai trwy lenwi’r adran berthnasol yn y ffurflen, neu drwy gysylltu â ni yn y cyfeiriad isod.

Pan fo oedolion eraill, heb gynnwys eich partner, yn byw yn eich cartref, tybir y byddant yn helpu i dalu biliau'r cartref megis y rhent neu Dreth y Cyngor. Yn sgil hynny caiff swm y rhent / Treth y Cyngor y gallwch hawlio budd-dal arno ei ostwng yn unol â'u gallu i dalu. Gelwir hwn yn ddidyniad annibynyddion.

Bydd swm y rhent neu Dreth y Cyngor y gallwch hawlio budd-dal arno yn cael ei ostwng fel a ganlyn ar gyfer pob annibynydd sydd yn y cartref.

Categori Budd-dal yn cael ei ostwng

18 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor am dâl
Incwm crynswth o £554.00 a mwy

£124.55
18 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor am dâl
Incwm crynswth rhwng £445.00 a £553.99
£113.50
18 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor am dâl
Incwm crynswth rhwng £334.00 a £444.99
£99.65
18 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor am dâl
Incwm crynswth rhwng £256.00 a £333.99
£60.95
18 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor am dâl
Incwm crynswth rhwng £176.00 a £255.99
£44.40
18 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor am dâl
Incwm gros yn llai na £176.00
£19.30
Annibynyddion sy'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn ôl y brif gyfradd) £19.30
Annibynyddion 25 oed neu'n hŷn ac sy'n cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm) £19.30
Yn derbyn Credyd Pensiwn Dim gostyngiad
Annibynyddion eraill sy'n 18 oed neu'n hŷn ac sydd heb fod yn gweithio 16 awr yr wythnos neu ragor £19.30
Annibynyddion dan 25 oed sy'n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm), neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn ôl y gyfradd asesu) Dim gostyngiad

Ni fydd budd-dal yn cael ei ostwng yn sgil y bobl ganlynol:

  • Pobl dan 18 oed.
  • Pobl mewn addysg amser llawn.  Os byddant yn dechrau gweithio yn ystod y gwyliau bydd gostyngiad o ran Budd-dal Tai yn berthnasol.
  • Pobl sy'n derbyn Lwfans Hyfforddiant yn y Gweithle.
  • Pobl sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn. Yn achos Budd-dal Tai yn unig, caiff gostyngiad ei wneud o ben-blwydd yr unigolyn yn 25 oed ymlaen.
  • Pobl sydd yn y carchar.
  • Pobl sydd yn yr ysbyty am fwy na pumdeg dau wythnos.
  • Pobl sydd fel arfer yn byw gyda chi, ond sydd i ffwrdd â'r fyddin a hyn o bryd, caniateir ystafell wely ychwanegol i chi dros y cyfnod hwnnw. Rhaid ei fod wedi byw gyda chi fel oedolyn yn flaenorol, ac yn bwriadu dychwelyd i fyw yn eich cartref.