Sut caiff Budd-dal Tai ei dalu?
Diweddarwyd y dudalen ar: 29/10/2024
Os oes hawl gennych i dderbyn Budd-dal Tai, yna gellir talu hwn mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan ddibynnu ar y math o eiddo rydych yn byw ynddo. Efallai y bydd eich taliad cyntaf yn fwy na'r swm arferol oherwydd ei fod yn cynnwys ôl-daliad o'r dyddiad y dechreuodd eich hawl.
Os ydych yn denant cyngor, caiff eich Budd-dal Tai ei dalu i'ch cyfrif rhent unwaith yr wythnos. Bydd unrhyw fudd-dal yr ydych yn ei dderbyn yn cael ei ddidynnu oddi ar eich rhent llawn gan adael llai o rent, neu ddim rhent, i chi ei dalu. Caiff y rhan fwyaf o denantiaid preifat eu talu bob pythefnos, mewn ôl-ddyled.
Os ydych yn cael eich talu gan gredyd uniongyrchol i'ch cyfrif banc (BACS), bydd eich arian yn cyrraedd eich cyfrif ar ddydd Mawrth bob 4 wythnos. Os hoffech chi i ni dalu eich Budd-dal Tâl yn uniongyrchol i'ch cyfrif gan mai'r dull mwyaf diogel a chyflym o dalu yw hwn, dylech lawrlwytho'r ffurflen BACS a'i chwblhau a'i dychwelyd i: Budd-dal Tai, 3ydd Llawr, Tŷ Elwyn, Llanelli, SA15 3AP.
Taliadau pedair wythnos 2020/21 ar gyfer tenantiaid preifat
Dyma'r dyddiadau ar gyfer taliadau lwfans rhent bob pedwar wythnos ar gyfer tenantiaid preifat sy'n daladwy drwy BACS neu drwy siec:
- 7fed Ebrill 2020
- 5ed Mai 2020
- 2il Mehefin 2020
- 30ain Mehefin 2020
- 28ain Gorffennaf 2020
- 25ain Awst 2020
- 22ain Medi 2020
- 20fed Hydref 2020
- 17eg Tachwedd 2020
- 15fed Rhagfyr 2020
- 12fed Ionawr 2021
- 9fed Chwefror 2021
- 9fed Mawrth 2021
Taliadau uniongyrchol i landlordiaid
I'r rhan fwyaf o bobl mewn eiddo a rentir yn breifat, ni ellir talu Budd-dal Tai'n uniongyrchol i'r landlordiaid oni bai bod yr hawliwr yn methu rheoli ei faterion ariannol, yn annhebygol o dalu ei rent neu y mae ganddo ôl-ddyledion rhent o 8 wythnos neu fwy. Os ydych chi'n landlord ac mae'r amodau hyn yn berthnasol, dylech lenwi a dychwelyd cais y Landlord am ffurflen daliad uniongyrchol.
Mwy ynghylch Budd-daliadau