Mannau cynnes a Lleoedd croeso cynnes
Diweddarwyd y dudalen ar: 16/11/2023
Mae mannau cynnes a lleoedd croeso cynnes yn lleoedd lle gall trigolion dreulio amser i gadw'n gynnes yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae Mannau Cynnes pwrpasol wedi'u sefydlu yn llyfrgelloedd Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman. Mae papurau newydd, cylchgronau, cyfrifiaduron/iPads a theledu ar gael mewn man eistedd cyfforddus. Gallwch hefyd ymuno ag unrhyw weithgareddau sy'n cael eu cynnal. Bydd te a choffi ar gael am ddim.
Rydym hefyd wedi annog cymunedau i ddarparu Mannau Croeso Cynnes yn eu cymunedau ac i feddwl yn greadigol am y math o ddigwyddiadau a all gynnig man cynnes a chroesawgar i'r rhai yn eu cymunedau sydd ei angen fwyaf yn ystod misoedd y gaeaf.
Rydym wedi creu cyfeiriadur o fannau cynnes, digwyddiadau a mannau croeso cynnes, felly os oes gennych ddigwyddiad presennol neu fenter man croeso cynnes yr hoffech ei hyrwyddo.