Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/09/2018

Os ydych chi'n derbyn Budd-dal Tai a bod eich amgylchiadau (neu amgylchiadau aelod o'ch aelwyd) yn newid, mae'n rhaid ichi gysylltu â ni ar unwaith oherwydd gall hyn effeithio ar eich hawl i fudd-dal.

Os nad ydych chi'n dweud wrthym ynghylch newid yn eich amgylchiadau ymhen mis o'r newid, gallech golli unrhyw gynnydd mewn budd-dal neu os oes gostyngiad mewn budd-dal, gallai olygu bod gennych ordaliad, a bydd yn rhaid ichi ad-dalu'r taliadau hyn.

Dyma rai enghreifftiau o newidiadau y dylech ddweud wrthym amdanynt:

  • Os ydych chi'n newid cyfeiriad (ar gyfer tenantiaid preifat, mae hyn yn cynnwys newid ystafell yn yr un eiddo).
  • Newid yn eich incwm neu incwm aelod o'ch aelwyd (e.e. partner, plant neu bobl eraill sy'n byw gyda chi).
  • Os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch aelwyd yn stopio derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm) neu Gredyd Pensiwn (Credyd Gwarant).
  • Newid o ran y preswylwyr yn eich cartref h.y. os oes rhywun yn symud i mewn/allan.
  • Os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch aelwyd yn dechrau gweithio.
  • Os ydych chi'n cael eich carcharu.
  • Os oes unrhyw un o'ch plant yn gadael ysgol.
  • Os yw swm eich taliadau gofal plant yn newid.
  • Os yw'r rhent rydych chi'n ei dalu yn newid (tenantiaid preifat yn unig).
  • Os ydych chi'n gadael eich cyfeiriad am gyfnod dros dro e.e. os byddwch chi'n cael eich derbyn i'r ysbyty neu i ofal preswyl.
  • Os ydych chi'n penderfynu aros yn barhaol mewn gofal preswyl neu gartref nyrsio.
  • Os ydych chi'n mynd dramor am fwy na 4 wythnos.

Bydd angen i ni gael prawf o unrhyw newidiadau.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i ni weld dogfennau ategol gwreiddiol megis llythyr gan eich landlord os yw'n rhoi gwybod am godi rhent neu slipiau cyflog os yw'ch cyflog wedi newid. Os nad ydych chi'n gallu darparu'r dogfennau ategol ar unwaith, peidiwch ag oedi cyn dweud wrthym am y newid.

Sylwch os ydych chi'n derbyn Budd-dal Tai, mae dal angen ichi ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau hyd yn oed os ydych chi wedi rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau