Gordaliadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/10/2023

Mae gordaliad yn digwydd pan fydd swm o Fudd-dal nad oedd gennych hawl i'w gael yn cael ei dalu i chi neu i'ch landlord. Os ydym wedi rhoi gormod o fudd-dal tai i chi, byddwn yn gofyn i chi dalu'r gordaliad yn ôl. “Gordaliad y gellir ei adennill” y gelwir hyn.

Efallai y gallwn leihau'r gordaliad os gallwch ddangos bod gennych hawl "waelodol" i fudd-dal am y cyfnod pryd y cawsoch ordaliad. Er mwyn asesu hawl "waelodol", mae angen i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o'ch incwm a'ch cyfalaf a hefyd mae angen i chi gadarnhau manylion am bwy oedd yn byw yn yr eiddo gyda chi yn ystod y cyfnod y mae'r gordaliad yn berthnasol iddo.

Os ydych yn meddwl bod y gordaliad yn anghywir gallwch ofyn i ni ailystyried ein penderfyniad, a hefyd mae gennych hawl i wneud apêl ffurfiol.

Sut y bydd y gordaliad yn cael ei adennill?

  • Os oes gennych hawl o hyd i dderbyn Budd-dal Tai, byddwn yn lleihau eich budd-dal bob wythnos er mwyn adennill y gordaliad.
  • Gallwn ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau ddidynnu arian o'ch budd-dal nawdd cymdeithasol er mwyn adennill y gordaliad.
  • Os ydych wedi symud o'r ardal, gallwn ofyn i Awdurdod Lleol arall leihau eich Budd-dal bob wythnos i adennill y gordaliad.
  • Os nad oes gennych hawl i gael Budd-dal Tai, byddwn yn anfon Anfoneb atoch am y gordaliad. Os na allwch dalu'r swm cyfan, cysylltwch â ni i drefnu’r rhandaliadau – nodir ein rhifau ffôn drosodd. Rhif ffôn: 01554 742156

Sut i wneud taliad neu sefydlu cynllun talu

Gallwch wneud taliad ar-lein neu os yw'n well gennych, ffoniwch ein llinell ffôn awtomataidd ar 01267 679900, dewiswch opsiwn 5. Bydd angen:

  • rhif anfoneb budd-dal tai
  • rhif y cyfrif
  • y swm yr hoffech dalu

Rydym yn derbyn y mathau canlynol o gardiau credyd / debyd (Visa, Mastercard, Switch, Solo, Visa Delta).

Os na allwch fforddio i dalu’r bil cyfan yn syth efallai y gallech dalu drwy randaliadau, bydd angen ichi gysylltu â ni i drefnu hyn. Unwaith y byddwn wedi cytuno ar gynllun talu, y ffordd hawsaf o reoli hyn yw gyda Debyd Uniongyrchol.

Gallwch argraffu y ffurflen Debyd Uniongyrchol. Llenwch bob adran, gan gynnwys rhif yr anfoneb budd-dal tai a'i ddychwelyd yn ôl atom: Adran Budd-daliadau Tai, Tŷ Elwyn, Sgwâr Neuadd y Dref, Llanelli, SA15 3AP. Y dyddiad talu ar gyfer eich Debyd Uniongyrchol fydd y cyntaf o bob mis.

Os na fyddwch chi'n talu'r anfoneb, byddwn yn anfon llythyrau atgoffa atoch rhag ofn eich bod wedi anghofio talu, ond os byddwch yn dal yn methu talu neu ddod i gytundeb ynghylch talu’r anfoneb, bydd yn rhaid i ni gymryd camau pellach.

Efallai y byddwn yn cyfeirio'r gordaliad at Asiantiaid Adennill Dyledion y Cyngor er mwyn iddynt gymryd camau gorfodi, a allai godi costau pellach. Efallai y byddwn hefyd yn cofrestru’r ddyled â’r Llys Sirol. Byddwch yn cael rhagor o Gostau Llys a Ffïoedd Cyfreithiwr a fydd yn cynyddu'r ddyled. Mae'r costau hyn yn amrywio yn dibynnu ar swm y gordaliad. Pan roddir Gorchymyn Llys, gallwn ofyn i'r Llys orfodi'r adennill drwy Atafaelu Enillion. Bydd y Llys yn cysylltu â'ch cyflogwr ac yn gofyn i arian gael ei ddidynnu o'ch cyflog i ad-dalu'r gordaliad. Eto, bydd Costau Llys ychwanegol o ganlyniad i hyn.

Os nad ydych yn gyflogedig, bydd y Llys yn mynnu eich bod yn mynd i wrandawiad lle gofynnir i chi ddangos prawf o'ch incwm. Yna, bydd y Llys yn cymryd camau gorfodi i adennill y gordaliad a'r costau ychwanegol drwy drefnu rhandaliadau bob mis.

Byddwn yn anfon llythyr Cyn Llys neu Cyn Atafaelu Enillion atoch yn dweud wrthych am ein bwriad cyn i ni gymryd camau o’r fath.

Talu eich gordaliad budd-dal tai ar-lein Lawrlwythwch ffurflen apêl