Sut mae apelio
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023
Pan fyddwn yn dod i benderfyniad, byddwn yn anfon llythyr atoch a fydd yn dweud wrthych sut y penderfynwyd ar eich Gostyngiad Treth Gyngor. Bydd y llythyr hefyd yn dweud wrthych beth yw dyddiad dechrau a dyddiad gorffen eich hawliad.
Os chi yw’r un a hawliodd Ostyngiad Treth Gyngor ac os credwch fod penderfyniad yr ydym wedi’i wneud am y gostyngiad ichi yn anghywir, dylech ysgrifennu atom i ddweud wrthym:
- pa benderfyniad yr ydych yn anghytuno ag ef
- pam yr ydych yn anghytuno
Rhaid ichi wneud hyn cyn pen mis ar ôl dyddiad ein llythyr penderfynu.
Os ydych yn dal yn anfodlon ar y penderfyniad, gallwch gyflwyno apêl i Dribiwnlys Prisio Cymru. Rhaid ichi gyflwyno apêl ysgrifenedig. Ni allwch gyflwyno apêl i’r Tribiwnlys dros y ffôn na thrwy neges e-bost. Rhaid ichi gyflwyno eich apêl i’r Tribiwnlys Prisio cyn pen 2 fis ar ôl inni ateb eich llythyr.
Gallwch hefyd gyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Prisio os na chawsoch ateb gennym cyn pen 2 fis ar ôl ichi anfon eich llythyr. Rhaid ichi wneud hyn bedwar mis fan hwyraf ar ôl y dyddiad y gwnaethoch ysgrifennu atom os nad ydym wedi ateb eich llythyr.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn gorff annibynnol sy’n ymdrin ag apeliadau ynghylch Ardrethi Annomestig a’r Dreth Gyngor. Mae’r Tribiwnlys Prisio yn annibynnol ar y Swyddog Prisio a’r awdurdod bilio. I gael rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn swm y Gostyngiad Treth Gyngor a ganiatawyd ichi, ewch i wefan y Tribiwnlys Prisio.
Budd-daliadau
Budd-dal tai
- Sut gaiff fy mudd-dal ei gyfrifo?
- Y Lwfans Tai Lleol
- Sut caiff Budd-dal Tai ei dalu?
- Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn
- Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
- Gordaliadau
- Sut mae apelio
- Y Cap ar Fudd-daliadau
Gostyngiad y Dreth Gyngor
Credyd Cynhwysol
Mwy ynghylch Budd-daliadau