Gostyngiad i bobl anabl
Diweddarwyd y dudalen ar: 05/09/2023
Os ydych yn byw gyda pherson anabl (oedolyn neu blentyn) yna mae'n bosibl y gallwch gael gostyngiad yn eich bil Treth Gyngor.
I fod yn gymwys mae'n rhaid i'r eiddo gynnwys un o'r canlynol i gwrdd ag anghenion y person anabl:-
- Ystafell, ar wahân i ystafell ymolchi, cegin neu doiled, a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl ac sy'n angenrheidiol er mwyn cwrdd a'i (h) anghenion. (Sylwer na fydd y gostyngiad yn berthnasol pe bai angen yr ystafell a ddefnyddir gan y person anabl ar yr aelwyd i'w defnyddio fel ystafell wely neu ystafell fyw, hyd yn oed pe na bai ef/hi yn anabl)
- Ail gegin neu ystafell ymolchi a ddefnyddir i gwrdd ag anghenion y person anabl, neu
- Ddrysau neu fynediadau sydd wedi'u lledu i ddarparu ar gyfer defnyddio cadair olwyn yn y cartref.
Os ydych yn gymwys bydd y dreth a godir arnoch yn ôl graddfa'r band sydd o dan y band a aseswyd ar gyfer eich eiddo e.e. os yw eich eiddo ym mand D gofynnir i chi dalu'r dreth yn ôl graddfa band C.
Os bydd eich eiddo wedi cael ei asesu fel band A, sef y band isaf, byddwn yn parhau i ostwng eich bil treth os llwyddir i gwrdd ag un o'r amodau uchod.
Gysylltu ag adain Treth y Cyngor ar 01554 742200 neu ebostiwch Trethcyngor@sirgar.gov.uk
Bydd swyddog yn cysylltu â chi i drefnu amser addas i ymweld â chi yn eich cartref i asesu eich hawliad.
Treth y Cyngor
Mwy ynghylch Treth y Cyngor