Gostyngiad person sengl

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/04/2024

Fel arfer bydd eiddo sy'n cael ei feddiannu gan 2 neu fwy o oedolion yn destun Treth Gyngor llawn, fodd bynnag, mae gostyngiadau ar gael ar gyfer pobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain.

Os yw person sy'n byw mewn eiddo yn disgyn i un o'r categorïau a restrir isod, ni fyddai'r person hwnnw yn cael ei gyfrif yn breswyliwr at ddibenion Treth y Cyngor, ond er mwyn bod yn gymwys ar gyfer gostyngiad, mae'n rhaid mai dim ond un person sydd yn weddill sy'n cael ei gyfrif yn breswyliwr:

  1. Mae 3 oedolyn yn byw mewn eiddo; mae un ohonynt yn fyfyriwr. Ni fyddai'r myfyriwr yn cael ei gyfrif, ond ni fyddai modd cael gostyngiad gan fod 2 preswyliwr yn weddill sy'n gymwys i dalu Treth y Cyngor. 
  2. Mae 2 oedolyn yn byw mewn eiddo; mae un ohonynt yn fyfyriwr. Ni fyddai'r myfyriwr yn cael ei gyfrif a byddai gostyngiad o 25% yn cael ei roi ar y bil gan mai dim ond un preswyliwr sy'n cael ei gyfrif. 
  3. Mae pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain yn cael gostyngiad o 25% yn awtomatig.

Gwneud cais am ostyngiad person sengl Gweld rhestr o eithriadau