
Gwastraff hylendid a chewynnau
Mae ein casgliadau gwastraff hylendid a chewynnau, sy'n cynnwys eitemau a ddefnyddir i waredu wrin ac ysgarthion dynol a secretiadau neu ysgarthiadau eraill o'r corff fel a ganlyn. Lle bo'n bosibl, dylid gwagio unrhyw eitemau, cyn eu rhoi yn y bag:
- Padelli gwelyau tafladwy a leininau, padiau anymatal, padiau cadair a gwely
- Bagiau stoma/colostomi, bagiau cathetr a photeli wrin
- Menig plastig a ffedogau tafladwy
- Cewynnau gan gynnwys unrhyw sachau a weips
Nid yw'n cynnwys gwastraff cynnyrch mislif neu wastraff anifeiliaid anwes. Dylid bagio'r gwastraff hwn yn ddwbl a'i roi yn eich bagiau du.
Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn. Ar ôl inni gael eich cais bydd eich bagiau porffor yn cael eu hanfon atoch ymhen 10 niwrnod gwaith. Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am eich diwrnod casglu. Cesglir eich bagiau bob pythefnos a gallai hynny fod ar ddiwrnod gwahanol i'ch casgliad sbwriel/ailgylchu. Rhoddir diwrnod casglu a chalendr ichi i ddangos pa wythnosau y bydd angen ichi roi eich bagiau allan i'w casglu.
Casgliad gwastraff hylendid/cewynnau

*Sylwch fod yn rhaid ichi wneud cais am y gwasanaeth hwn i gael casgliadau