Negeseuon atgoffa am gasgliadau ar e-bost/neges destun
Diweddarwyd y dudalen ar: 29/10/2024
Sut mae cofrestru?
Os nad oes gyda chi gyfrif Hwb yn barod, bydd angen i chi greu un. Ticiwch y blwch i dewiswch naill ai negeseuon atgoffa ar e-bost neu neges destun wrth i chi fynd drwy'r broses gofrestru.
Mae hefyd yn cynnwys negeseuon atgoffa am wastraff hylendid/cewynnau a gwastraff gardd os ydych wedi cofrestru am y gwasanaethau hyn.
Os oes gennych gyfrif Hwb eisoes, bydd angen mewngofnodi a newid eich dewisiadau.
I wneud hyn:
- Cliciwch ar eich enw yn y gornel dde uchaf ac yna
- Dewiswch 'Golygu Proffil’.
- Cliciwch ar 'Dewisiadau' ac yna ticiwch y blwch ar gyfer negeseuon atgoffa am gasgliadau biniau a dewiswch naill ai e-bost neu neges destun.
Mae'n costio i ni anfon negeseuon testun, ond mae e-byst am ddim, felly byddem yn eich annog i ddewis yr opsiwn hwn os yn bosib.
Er mwyn dad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar gyfer y gwasanaeth hwn:
- Mewngofnodwch i'ch cyfrif Hwb
- Cliciwch ar eich enw ar y gornel dde uchaf
- Dewiswch 'Golygu Proffil'
- Cliciwch ar 'Dewisiadau' a dileu'r tic o'r blwch/diwygio
Os ydych wedi newid cyfeiriad ers sefydlu eich cyfrif Hwb, dylech wirio a diweddaru eich manylion er mwyn derbyn y wybodaeth gywir.