Gwastraff gardd

Diweddarwyd y dudalen ar: 28/02/2025

Mae yna newidiadau o 2025.

Mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd. Rydym yn argymell bod pob cwsmer yn darllen telerau ac amodau diweddaraf y gwasanaeth.

Ar ôl i'r casgliadau'r gwasanaeth gwastraff gardd ddechrau, ni fydd ad-daliad yn cael ei roi os byddwch yn gadael ran o'r ffordd drwy'r tymor.

Bydd angen i chi danysgrifo'n flynyddol ar gyfer mis Ionawr-mis Chwefror

Mae biniau ychwanegol ar gael. Bydd y tâl gwasanaeth ar gyfer pob bin ychwanegol yn cael ei leihau 10%

Cwsmeriaid newydd

Pan fyddwch yn tanysgrifio am y tro cyntaf, byddwn yn danfon whilfin 240 litr i'ch cartref. Bydd eich gwastraff yn cael ei gasglu bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd. Yna bydd eich gwastraff gardd yn cael ei ailgylchu a'i droi'n gompost.

Mae'r gwasanaeth yn costio £58.83 am y tymor. Fodd bynnag, os byddwch yn talu'n llawn drwy gerdyn credyd neu ddebyd, byddwch yn derbyn gostyngiad o 10%, cyfanswm y gost am y gwasanaeth yw £53 yn unig.  Mae yna hefyd dâl untro ychwanegol o £19 am brynu'r bin. 

Cyfanswm y gost os ydych yn talu'n llawn am y flwyddyn gyntaf yw £72

Os ydych yn dymuno talu drwy ddebyd uniongyrchol, cyfanswm cost y gwasanaeth a phrynu bin fydd £77.83 gyda'r tâl o £19 am fin yn cael ei gymryd i ddechrau ac ar wahân i'r tâl am y gwasanaeth.

Sylwch mai dim ond biniau a ddarperir gan y cyngor at ddiben y casgliad hwn fydd yn cael eu gwagio.

Dylech gael eich cerdyn credyd/debyd wrth law pan fyddwch yn tanysgrifio.

Newidiadau 2025 i gwsmeriaid presennol

Nid ydym bellach yn rhoi anfoneb flynyddol, ac mae angen i chi danysgrifio bob blwyddyn ym mis Ionawr-Chwefror, cyn i'r casgliadau ddechrau ym mis Mawrth. Os nad ydych yn tanysgrifio cyn i'r casgliadau ddechrau, ni fydd eich bin yn cael ei wagio hyd nes y byddwn wedi derbyn y taliad. 

Mae'r gwasanaeth yn costio £58.83 am y tymor. Fodd bynnag, os byddwch yn talu'n llawn drwy gerdyn credyd neu ddebyd, byddwch yn derbyn gostyngiad o 10%, cyfanswm y gost am y gwasanaeth yw £53 yn unig. 

Os byddwch yn dewis peidio â pharhau â'ch gwasanaeth, cysylltwch â ni os ydych am i'r bin gael ei dynnu, fel arall bydd yn cael ei adael gyda chi. Gallwch ailddefnyddio'ch bin i storio gwastraff arall, ond gofynnir i chi beidio â rhoi unrhyw wastraff arall i'w gasglu ar ymyl y ffordd gan na fyddwn yn gwagio'r bin. 

Tanysgrifio