Compostio

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

Proses naturiol yw compostio sy'n troi gwastraff cegin a gwastraff gardd yn gompost sy'n llesol i'ch gardd. Gall hyd at draean o wastraff eich cartref gael ei gompostio gartref, gan leihau'r angen am ei gasglu a'i drin ymhellach.

A wyddech chi fod compostio gartref am flwyddyn yn unig yn gallu arbed cynhyrchu cymaint o nwyon cynhesu'r byd â'r holl CO2 y mae eich tegell yn ei gynhyrchu'n flynyddol neu y mae eich peiriant golchi dillad yn ei gynhyrchu mewn tri mis?* (* Ffynhonnell gwybodaeth: WRAP).

Mae'r manteision i gompostio yn cynnwys:

  • Os caiff y gwastraff hwn ei gladdu mewn tomen sbwriel, nid yw aer yn gallu ei gyrraedd wrth iddo bydru felly mae'n cynhyrchu nwy methan ac yn llygru dŵr daear. Mae hyn yn cyfrannu at gynhesu byd-eang, gan olygu bod yn rhaid gwario llawer iawn o arian yn trin y dŵr daear sy'n gollwng o'r tomenni sbwriel.
  • Arbed Arian - Mae'r compost sy'n cael ei gynhyrchu yn y pen draw yn ffynhonnell maetholion naturiol i blanhigion gan nad yw'n cynnwys dim cemegion artiffisial, ac mae hynny'n golygu y byddwch yn arbed yr arian y byddech yn ei wario fel arall ar gompost a gwrteithiau sydd wedi eu pacio'n barod.
  • Mae'r rhan fwyaf o'r compost sydd wedi ei bacio'n barod yn cynnwys mawn, ac mae codi mawn o fawnogydd yn dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt.
  • Yn ogystal mae compost cartref yn gwella ansawdd y pridd gan ychwanegu maetholion ato.

Mae compostio'n cyflymu'r broses bydru naturiol drwy greu'r amgylchiadau perffaith i organebau bychain ffynnu. Mae ar y rhain angen amgylchedd llaith lle mae digonedd o aer - mae tua biliwn o organebau mewn llond llwy de o bridd. Ar y cychwyn mae bacteria a ffyngau'n bwyta'r gwastraff mwy meddal gan luosogi'n gyflym a chynhesu'r domen hyd at ryw 60°C sef yr un tymheredd â dysglaid o de. Ar ôl rhyw 4-6 wythnos mae'r domen yn claearu, a dyna pryd y mae creaduriaid mwy o faint fel chwilod, mwydon a nadroedd cantroed yn dechrau bwydo ar y deunyddiau mwy gwydn.

Os byddwch yn defnyddio bin compostio, bydd gennych gompost ar ôl rhyw 6-12 mis. Mae hyn yn llawer arafach yn y gaeaf. Mae hynny'n wir hefyd os oes gennych lawer o ddeunyddiau prennaidd mawr, felly mae'n werth darnio'r deunyddiau hynny gyntaf.

Rydym yn gwerthu bin ‘Soil Saver' 330 o litrau sydd â drws bach. Mesuriadau'r bin yw: Uchder 100cm - Diamedr 80cm. Cost y bin yw £14 gan gynnwys cludiant. Gall gymryd hyd at 10 niwrnod gwaith i ddarparu'r bin ar ôl derbyn y taliad. Nid oes yn rhaid ichi ddefnyddio bin o gwbl; bydd tomen agored yn gweithio, ond mae'n bosibl y bydd yn arafach ac efallai y bydd angen mwy o wastraff arnoch i'r domen agored weithio'n effeithiol.

Gallech hefyd wneud cynhwysydd drwy ddefnyddio hen bren e.e. gallech ddefnyddio paletau nad oes eu hangen ar neb mwyach i wneud blwch mawr - gadewch y gwaelod yn agored a gallwch roi hen garped neu ddarn o bolythen dros y deunyddiau gwastraff.

Fodd bynnag mae llawer o bobl yn dewis defnyddio bin plastig, ac mae dewis helaeth o finiau ar gael yn hwylus. Mae cynlluniau'r biniau yn eithaf tebyg i'w gilydd; mae gan rai ohonynt ddrws bach er mwyn gallu tynnu'r compost gorffenedig o waelod y bin, ond gyda mathau eraill mae'n rhaid ichi godi'r bin oddi ar y compost er mwyn gallu cael y compost.

Mae modd prynu biniau troi sy'n cael eu dal gan ffrâm, ac fel yr awgryma'r enw mae modd troi'r bin i awyru'r cymysgedd. Gan fod modd awyru'r cymysgedd mae'r math hwn o fin yn gweithio'n llawer cyflymach, ond mae hefyd yn llawer drutach.

Prynu bin compostio