Beth ydw i'n ei wneud gyda'm compost?
Diweddarwyd y dudalen ar: 19/01/2023
Bydd eich compost yn barod pan fydd yn dywyll gan edrych yn debyg i bridd, ac ychydig yn llaith a briwsionllyd. Gallwch ei ddefnyddio hyd yn oed os oes ychydig ddarnau o frigau ynddo, neu gallwch dynnu'r darnau hynny drwy ddefnyddio rhidyll, a'u rhoi yn ôl ar y domen ar gyfer y tro nesaf.
Gallwch ddefnyddio eich compost ar eich borderi neu welyau blodau; gallwch ei balu i'r pridd cyn plannu neu ei daenu'n haenen denau o amgylch planhigion sydd wedi eu plannu'n eisoes - ond cofiwch adael bwlch o amgylch planhigion sydd â choesynnau meddal.
Defnyddiwch gompost mwy bras fel taenfa er mwyn mygu chwyn a chadw lleithder yn y pridd. Hefyd mae hyn yn ychwanegu maetholion ac yn atal pridd rhag cael ei erydu.
Yn ogystal mae gosod haenen 5-10cm dros wreiddiau coed yn llesol iawn. Mae gwneud hyn unwaith neu ddwywaith y flwyddyn yn helpu i ddiogelu'r planhigion rhag effeithiau sychder ac afiechydon, ac yn darparu maetholion gwerthfawr.
Prin yw'r maeth sydd ar ôl mewn hen bridd mewn potiau, felly tynnwch ychydig gentimetrau o bridd o dop y potyn ac ychwanegu eich compost newydd yn ei le, gan adael bwlch o amgylch unrhyw goesynnau meddal. Hefyd gallwch gymysgu eich compost â phridd neu ddeilbridd i greu eich cymysgedd potio eich hun ar gyfer cynwysyddion patio. Cofiwch fod eich compost yn gryf felly cymysgwch un rhan ohono â thair rhan o bridd ar gyfer tyfu planhigion ifanc neu hadau.
Os ydych yn arddwr brwd ac yn tyfu eich ffrwythau, eich llysiau a'ch perlysiau eich hun gwyddoch eisoes fod compost yn gwneud lles mawr i'ch pridd. Ond hyd yn oed os nad oes gennych blanhigion yn eich gardd gallwch wasgaru'r compost ar eich lawnt gan ei gwneud yn iachach ac yn lasach. I drin hen lawntiau rhidyllwch eich compost i waredu unrhyw dameidiau bras ac yna ei gymysgu 50:50 â thywod er mwyn gallu ei wasgaru'n haws. Gwasgarwch haenen 2.5cm dros eich lawnt (efallai y bydd y cymysgedd hwn yn rhy gryf i lawntiau newydd).
Ailgylchu, Biniau a Sbwriel
Ailgylchu / casgliadau biniau
- Bagiau du
- Sbwriel heb ei gasglu
- A-Y o Ailgylchu
- Tarfu ar gasgliadau gwastraff/ailgylchu
- Negeseuon atgoffa am gasgliadau ar e-bost/neges destun
- Gwasanaeth casglu gwydr
Bagiau glas - Ailgylchu
Gwastraff bwyd
Gwastraff gardd
Canolfannau Ailgylchu
Beth sy'n digwydd i'ch ailgylchu
Newidiadau i gasgliadau ailgylchu a biniau yn y dyfodol
Cwestiynau Cyffredin - Ailgylchu a gwastraff
Gwastraff swmpus
Gwastraff busnes
Mwy ynghylch Ailgylchu, Biniau a Sbwriel