Gwastraff swmpus

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/04/2024

Gwastraff swmpus yw gwastraff rydych chi'n methu â gosod mewn bin neu mewn bag. Mae enghreifftiau o wastraff swmpus yn cynnwys gwelyau, carpedi, oergelloedd, rhewgelloedd a chypyrddau dillad.

Rydym yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus a byddwn yn casglu hyd at dair eitem am £25 o'ch man casglu arferol ar gyfer sbwriel a deunydd ailgylchu. Mae'n bosibl y byddai'n gyflymach petai chi mynd â'r eitemau i'ch canolfan ailgylchu agosaf, yn rhad ac am ddim.

Nid oes consesiynau ar gyfer casglu gwastraff swmpus, ond bydd rhai sefydliadau'n casglu eitemau o ansawdd da am ddim.

Talu am gasglu eitem fawr (e.e. soffa, oergell)