Nantycaws, Caerfyrddin
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Nantycaws , Heol Llanddarog, Nantycaws, Sir Gaerfyrddin, SA32 8BG
- 01267 225520
- www.cwmenvironmental.co.uk
Dydd | Oriau agor yr Haf (Ebrill 1 - Medi 30) | Oriau agor y gaeaf (Hydref 1 – Mawrth 31) |
---|---|---|
Dydd Llun | 8.30am-6pm | 8.30am-4pm |
Dydd Mawrth | Ar gau | Ar gau |
Dydd Mercher | 8.30am-6pm | 8.30am-4pm |
Dydd Iau | 8.30am-6pm | 8.30am - 4pm |
Dydd Gwener | 8.30am-6pm | 8.30am-4pm |
Dydd Sadwrn | 8.30am-6pm | 8.30am-4pm |
Dydd Sul | 8.30am-6pm |
Mae'r safle ar gau ar Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan. Noswyl Nadolig a Nos Galan ar agor 8.30am - 12pm.
Byddwch yn gyrru i bob bae yn ei dro. Ni fyddwch yn gallu cerdded rhwng y baeau gwahanol gan y bydd angen cadw pellter cymdeithasol. Rydym yn argymell eich bod yn pacio eich cerbyd er mwyn ei gwneud mor hawdd â phosibl i gael gafael ar eich gwastraff.
Os oes gennych baent, pren, offer garddio, beiciau, offer trydan, celfi, teganau ac eitemau eraill y cartref; dylech ystyried eu rhoi i'n man rhoi eitemau ar y safle. Bydd eitemau a roddir yn cael eu gwerthu yn ein siopau ailddefnyddio.
Ewch i wefan CWM Environmental am restr o'r hyn gellir ei waredu yn y safle hwn, yn ogystal â'r prisiau presennol ar gyfer gwaredu silindrau nwy, offer diffodd tân a theiars. Hefyd, mae'n bosibl y bydd ein A-Y o Ailgylchu yn ddefnyddiol ichi.
Bae 1: Gwastraff gardd
Bae 2: Gwastraff gardd
Bae 3: Gwastraff gardd
Bae 4: Gwastraff gardd, rhoi eitemau
Bae 5: Olew llysiau, carpedi, matresi
Bae 6: Craidd caled
Bae 8: Pren
Bae 9: Cardbord
Bae 10: Metel sgrap
Bae 11: Bagiau glas
Bae 12: Gwastraff cyffredinol, Bagiau du
Bae 13: Oergelloedd, peiriannau golchi, ffyrnau, poteli gwydr, gwydr ffenestri, offer trydanol, setiau teledu, paent, batris, tecstilau, olew injan, plastrfwrdd, bylbiau golau
Bae 14: Oergelloedd, peiriannau golchi, ffyrnau, poteli gwydr, gwydr ffenestri, offer trydanol, setiau teledu, paent, batris, tecstilau, offer cyfryngau, olew injan, plastrfwrdd, bylbiau golau
Bae 15: Oergelloedd, peiriannau golchi, ffyrnau, poteli gwydr, gwydr ffenestri, offer trydanol, setiau teledu, paent, batris, tecstilau, offer cyfryngau, olew injan, plastrfwrdd, bylbiau golau
Gwybodaeth bwysig
- Dilynwch yr holl arwyddion ar y safle a chyfarwyddiadau staff.
- Gwaredu gwastraff y cartref i breswylwyr Sir Gaerfyrddin yn unig.
- Efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded am ddim i ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu. Lawrlwytho canllaw cerbyd.
- Ni chaniateir i faniau ceffylau, tractorau, faniau â phanel dros 3.5 o dunelli a'r holl gerbydau gwely gwastad, lorïau codi, cerbydau ag ochrau sy'n disgyn, faniau bocs na cherbydau â chawell ddefnyddio'n canolfannau ailgylchu.
Bydd angen i chi ddod â'r canlynol i'w dangos i'r gweithiwr ar y safle cyn mynd i mewn:
- Prawf preswyliaeth, un o'r canlynol - Trwydded yrru, eich bil y Dreth Gyngor gyfredol, bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis)
- Trwydded os oes angen un ar eich cerbyd.
Mae gennym adran cwestiynau cyffredin gynhwysfawr ar ein gwefan i'ch paratoi ar gyfer eich ymweliad.
Rydym yn argymell eich bod yn didoli deunyddiau y gellir eu hailgylchu oddi wrth y deunyddiau na ellir eu hailgylchu cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref, un ai yn eich bag glas neu yn eich bin gwastraff bwyd. Mae modd ailgylchu eitemau eraill megis gwydr, dillad ac eitemau trydanol bach yn y ganolfan ailgylchu neu mewn banciau ailgylchu llai.
Edrychwch ar y A-Y o Ailgylchu i gael gwybod beth y gellir ei ailgylchu.
Os byddwch yn dod â bagiau du i'r ganolfan ailgylchu, bydd angen i chi eu sortio nhw yn ein mannau didoli pwrpasol. Byddwch yn cael menig, ffedogau, gefeiliau a chwistrell gwrthfacteria a bydd biniau wedi'u labelu ar gael er mwyn i chi roi eich deunyddiau ailgylchadwy ynddynt. Bydd arwyddion yn y mannau didoli yn egluro'r hyn y mae angen i chi ei wneud, ond os ydych yn ansicr, bydd staff wrth law i roi cyngor.
Ailgylchu, Biniau a Sbwriel
Ailgylchu / casgliadau biniau
- Bagiau du
- Sbwriel heb ei gasglu
- A-Y o Ailgylchu
- Tarfu ar gasgliadau gwastraff/ailgylchu
- Negeseuon atgoffa am gasgliadau ar e-bost/neges destun
- Gwasanaeth casglu gwydr