Hawlenni canolfan ailgylchu
Diweddarwyd y dudalen ar: 05/04/2024
Mae ein canolfannau ailgylchu at ddefnydd trigolion Sir Gaerfyrddin a gallant waredu gwastraff y cartref yn unig yno. Rydym wedi cyflwyno system hawlen am ddim i sicrhau nad yw busnesau yn defnyddio canolfannau ailgylchu yn anghyfreithlon i waredu gwastraff masnachol.
Bydd angen i'r cerbydau canlynol wneud cais am hawlen i ddefnyddio unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu:
- Pickup cab dwbl sy'n tynnu trelar ag uchafswm hyd gwely o 2.44 metr (8 troedfedd)
- Fan banelog fach gyda neu heb drelar ag uchafswm hyd gwely o 2.44 metr (8 troedfedd)
- Fan banelog 3.5 tunnell neu lai a pickup cab sengl (dim trelars gyda'r cerbydau hyn)
Does dim angen hawlen ar dryciau cab dwbl oni bai eu bod yn tynnu trelar. Os ydych yn gyrru cerbyd sydd wedi'i addasu at ddefnydd pobl anabl a fyddai fel arfer angen hawlen arno, gallwch wneud cais am eithriad.
Os ydych wedi hurio fan, byddwch yn gallu defnyddio'r cyfleusterau i waredu gwastraff y cartref heb hawlen. Dylech hurio'r cerbyd am 3 diwrnod neu lai a bydd angen i chi ddefnyddio manylion eich cerbyd eich hun pan fyddwch yn trefnu apwyntiad. Pan fyddwch yn dod, bydd angen i chi ddod â'r canlynol gyda chi:
- Cyfeirnod eich archeb
- Dogfen hurio'r cerbyd
- Prawf o breswyliaeth
Nid yw'r cerbydau canlynol yn gallu defnyddio'r ganolfan ailgylchu:
- Faniau ceffylau neu gerbydau amaethyddol
- Pob cerbyd dros 3.5 tunnell
- Pob cerbyd llawr gwastad, lorïau codi, cerbydau ag ochrau'n cwympo, faniau bocs, a cherbydau â chaets.
Os ydych yn ansicr a all eich cerbydau ddefnyddio'r ganolfan ailgylchu, lawrlwythwch ein canllaw cerbydau i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch wneud cais am hawlen ar-lein, bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i gwblhau'ch cais:
- Eich manylion - enw, cyfeiriad, manylion cyswllt
- Math, model a rhif cofrestru'r cerbyd
- Copi/copi wedi'i sganio o holl dudalennau llyfr log V5C eich cerbyd
- Prawf o'ch Cyfeiriad - bil y dreth Gyngor, bil cyfleustodau diweddar (wedi'i ddyddio o fewn 3 mis) a thrwydded yrru
- Os ydych yn defnyddio cerbyd cwmni - bydd angen llythyr â phennawd y cwmni wedi'i lofnodi gan eich cyflogwr sy'n datgan bod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion personol.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwch yn cael eich hawlen yn y post cyn pen 10 diwrnod gwaith. Nid ydym yn codi tâl am hawlenni canolfan ailgylchu.
Byddwch yn cael 12 hawlen a dim ond unwaith y byddwch yn gallu eu defnyddio. Pan fyddwch yn dod i'r ganolfan ailgylchu, bydd aelod o staff yn gofyn am hawlen cyn eich bod chi'n gallu defnyddio'r cyfleusterau.
Mae eich hawlenni'n dechrau o'r mis y byddwch yn eu cael, ac ni allwch ddod fwy na 12 gwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Os byddwch yn defnyddio'ch holl hawlenni ni fyddwch yn gallu gwneud cais am ragor tan 12 mis ar ôl dyddiad cyflwyno eich hawlenni blaenorol.
Does dim rhaid ichi ddefnyddio'ch hawlenni cyn dyddiad penodol, ond os fyddwch wedi defnyddio pob un ohonynt ymhen 18 mis, byddwn yn cysylltu â chi i weld os oes dal eu hangen arnoch.
Cofiwch, rydych bob amser yn gallu defnyddio'r ganolfan ailgylchu gydag unrhyw gerbyd nad oes angen hawlen ar ei gyfer e.e. car, 4x4, SUV, cerbyd cludo pobl ac ati.
Ni chaniateir ichi ddod ag unrhyw drelar i'r ganolfan ailgylchu sydd yn fwy na 2.44 metr o hyd (oddeutu 8 troedfedd).
- Caniateir i faniau sydd â llai na 1.75m o le o ran hyd ddod â threlar.
- Ni chaniateir i faniau sydd â mwy na 1.75m o le o ran hyd ddod â threlar.
Os nad ydych yn siŵr faint o le sydd yn eich fan, gallwch ddod o hyd i'r ateb ar-lein. Chwiliwch faint o le sydd gan eich cerbyd a'r math a'r model. Mae nifer o wefannau yn darparu'r wybodaeth hon.
Os byddwch yn tynnu trelar â'ch tryciau cab dwbl, cofiwch fod angen ichi wneud cais am hawlen.
Dim ond ar ôl ichi ddefnyddio 10 neu fwy o'ch tocynnau y bydd angen ichi adnewyddu eich hawlen. Pan fyddwch yn adnewyddu eich hawlen, byddwch yn derbyn e-bost/llythyr a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch beth i'w wneud. Os na fyddwch yn derbyn y cyfarwyddiadau hyn, ffoniwch Cwm Environmental ar 01267 225520.
Os gwnaethoch gais mwy na 12 mis yn ôl a bod gennych 3 thocyn ar ôl o hyd, defnyddiwch y rhai sy'n weddill.
Os yw eich hawlen ar goll neu wedi'i dwyn, llenwch ein ffurflen ar-lein. Pan fyddwn wedi gwirio eich gwybodaeth, byddwn yn ailgyflwyno'r hawlenni oedd gennych yn weddill. Cofiwch os ydych chi eisoes wedi defnyddio y ddeuddeg hawlen, ni fyddwch yn gallu adnewyddu tan 12 mis o ddyddiad gwreiddiol cyflwyno'r hawlenni.