Eithriad i Hawlen yng Nghanolfan Ailgylchu
Diweddarwyd y dudalen ar: 29/10/2024
Nid oes angen hawlen ar dryciau / faniau sydd wedi'u haddasu i ddefnyddio'r ganolfan ailgylchu. Fodd bynnag, bydd angen ichi wneud cais am eithriad.
I wneud cais am eithriad, bydd angen ichi ddarparu'r canlynol:
- Eich manylion
- Math, model a rhif cofrestru'r cerbyd
- Disgrifiad o addasiadau'r cerbyd
- Llun o'ch cerbyd sy'n dangos yr addasiadau. Nid yw darparu lluniau'n orfodol, ond bydd o help inni wrth asesu eich cerbyd.
Ebostiwch yr tîm ailgylchu gyda'r gwybodaeth yma i AMGCAGCnewidiaddiau@sirgar.gov.uk
Pan fyddwn wedi cael eich cais bydd un o'n hymgynghorwyr ailgylchu mewn cysylltiad â chi i wirio bod eich cerbyd wedi'i addasu cyn y byddwch yn gallu defnyddio'r cyfleusterau. Efallai bydd angen iddynt ymweld â chi i gynnal gwiriadau ychwanegol.
Rhoddir hysbysiad eithrio i chi os caiff eich cais ei gymeradwyo. Bydd yr hysbysiad eithrio yn arddangos math, model a rhif cofrestru eich cerbyd, ac ni ellir ei ddefnyddio ar unrhyw gerbyd arall.
Bydd angen ichi arddangos yr hysbysiad eithrio yn eich cerbyd er mwyn gallu defnyddio'r cyfleusterau yn y ganolfan ailgylchu.
Ni fydd angen ichi adnewyddu eich hysbysiad eithrio ond os byddwch yn newid eich cerbyd a bod dal angen hysbysiad eithrio arnoch, bydd angen ichi ailymgeisio.