Gwastraff trydanol / electronig

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/08/2023

Fel y rhan fwyaf o bobl, rydych chi fwy na thebyg yn rhoi eich deunydd ailgylchu allan i'w gasglu. Ond beth am eich hen eitemau trydanol? Os ydyn nhw wedi torri neu'n ddiangen, ydych chi'n eu cadw nhw oherwydd ei bod hi'n teimlo'n anghywir i'w rhoi nhw yn y bin? Efallai eich bod chi'n eu gadael nhw i gasglu llwch yn yr atig neu mewn cwpwrdd.

A dweud y gwir, mae'n wastraff i’w taflu nhw i ffwrdd – oherwydd gallwch chi eu hailgylchu nhw!

Mae ein hen setiau teledu, cyfrifiaduron, ffonau symudol, cyfarpar pŵer trydan yn ogystal â theganau a gemau electronig i gyd yn cyfrannu at yr 1.8 miliwn tunnell o Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) sy'n cael eu cynhyrchu bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Mae ymchwil yn dangos bod ychydig llai na 30 y cant ohonom ni'n taflu eitemau sydd wedi torri neu eitemau nad oes eu heisiau yn y bin, ond petaem yn ailgylchu'r eitemau hyn, gallem ddargyfeirio dros 100,000 tunnell o offer trydanol gwastraff gwerthfawr o safleoedd tirlenwi'r Deyrnas Unedig bob blwyddyn, offer sy'n pwyso cymaint â 14,000 o fysiau deulawr.

Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff yw un o'r ffrydiau gwastraff mwyaf niweidiol sy’n parhau i gael ei anfon i safleoedd tirlenwi, oherwydd mae'n cynnwys sylweddau peryglus megis mercwri, plwm, beryliwm a chadmiwm. Pan gaiff yr offer ei waredu mewn safleoedd tirlenwi, caiff y sylweddau hyn eu gollwng i'r ddaear lle maent yn llygru'r ardal gyfagos.

Drwy gadw hen offer trydanol ac electronig gwastraff ar wahân i wastraff arall y cartref, gellir tynnu’r sylweddau peryglus ohonynt, ac ailgylchu cyfran helaeth ohonynt, yn hytrach na’u hanfon i safleoedd tirlenwi.