Canllaw gwastraff ac ailgylchu yn ymwneud â digwyddiadau
Cyflwyniad
Mae pob un ohonom yn gwybod pwysigrwydd ailgylchu ein gwastraff ond mae lleihau ac atal gwastraff yn bwysicach fyth. Trwy wneud ychydig o ymchwil a chynllunio gallwch wneud gwahaniaeth mawr i'r effaith y mae eich digwyddiad yn ei chael ar yr amgylchedd ac efallai hyd yn oed arbed arian.
Mae unrhyw wastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan ddigwyddiad yn wastraff masnachol. Dylai gael ei gludo gan gontractwr trwyddedig a'i ailgylchu neu ei waredu mewn cyfleuster trwyddedig. Mae'n rhaid i chi sicrhau bod pwy bynnag rydych chi'n rhoi eich gwastraff iddo yn gludwr gwastraff cofrestredig. Pan fydd eich gwastraff yn cael ei drosglwyddo, rhaid i nodyn trosglwyddo gwastraff gyd-fynd ag ef. Darganfyddwch ragor o wybodaeth am eich dyletswydd gofal.
O 6 Ebrill 2024, bydd rheolau newydd Llywodraeth Cymru yn dod i rym. Bydd angen i bob eiddo annomestig wahanu deunyddiau ailgylchadwy o wastraff arall. Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau fel gwyliau, cyngherddau a sioeau.
Os byddwch yn cael gwared ar wastraff y digwyddiad eich hun, rhaid i chi ddefnyddio cyfleuster trwyddedig fel Gorsaf Drosglwyddo Nantycaws, Caerfyrddin. Mae canolfan ailgylchu fasnachol ar gael ar y safle hwnnw. Gellir dod o hyd i safleoedd trwyddedig preifat ar-lein drwy chwilio am 'gorsafoedd trosglwyddo gwastraff yn fy ardal’. Rhaid i chi fod wedi cofrestru fel cludwr gwastraff neu wneud cais am eithriad os yw'n briodol, er mwyn cludo'ch gwastraff. Am fwy o fanylion ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru.