Canllaw gwastraff ac ailgylchu yn ymwneud â digwyddiadau
Cynwysyddion ac arwyddion
A fydd eich cwmni gwastraff dewisol yn darparu biniau/bagiau leinio ar gyfer eich digwyddiad? Os na, bydd angen i chi ddod o hyd i rai eich hun ac ychwanegu arwyddion.
Rhaid ichi gael arwyddion clir ar y safle mewn pwyntiau ailgylchu a gwastraff.
Sicrhewch fod yr holl finiau a'r arwyddion yn edrych yn gyson, bydd hyn yn helpu i atgyfnerthu negeseuon ailgylchu o gwmpas y safle ac yn ei gwneud hi'n haws i bobl wybod ble i ailgylchu.
Cadwch wybodaeth yn syml ac yn weledol er mwyn osgoi unrhyw rwystrau iaith ac i'w gwneud hi'n haws i bobl ddeall a chymryd rhan mewn ailgylchu.
Cadwch finiau gyda'i gilydd mewn gorsafoedd, os byddwch chi'n eu gwasgaru o gwmpas e.e. bin bwyd mewn un man a bin gwydr mewn man arall - mae'n bosibl y bydd pobl yn defnyddio'r bin agosaf ar gyfer pa bynnag wastraff sydd ganddynt.
Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o'r math cywir o finiau hefyd, os oes gennych far yn gwerthu cynhyrchion potel yna efallai y bydd angen mwy o finiau gwydr yn yr ardal honno. Os bydd un math o fin yn llenwi, yna bydd pa bynnag fin sydd wrth ei ymyl yn cael ei ddefnyddio o bosib ar gyfer y peth anghywir.
Sicrhewch fod yr holl staff a'r stondinwyr yn gwybod cyn dechrau'r digwyddiad, beth y gellir ei ailgylchu a ble i'w roi. Does dim pwynt gofyn i'r cyhoedd ailgylchu os nad yw staff neu stondinwyr yn dangos esiampl hefyd. Gallant hefyd eich helpu drwy gyfeirio cwsmeriaid neu hyd yn oed gael negeseuon/gwybodaeth syml ar eu stondin ynglŷn ag ailgylchu.
Os oes gennych ddigon o staff neu wirfoddolwyr, pennwch wardeniaid gwastraff o amgylch ardaloedd biniau i roi cyngor a sicrhau bod gwastraff yn cael ei ailgylchu'n gywir.