
Eto
Mae Eto yn brosiect newydd cyffrous a fydd yn helpu pawb yn Sir Gaerfyrddin i fod yn fwy cynaliadwy, i gwtogi ar eu gwastraff ac i roi bywyd o'r newydd i eitemau nad oes dim o'i le arnynt.
Mae ailddefnyddio yn ffordd wych o arbed yr ynni a ddefnyddir wrth wneud cynhyrchion newydd, gan helpu i leihau eich ôl troed carbon a gwneud eich rhan i ddiogelu'r amgylchedd.
Rydym wedi sefydlu'r prosiect hwn i helpu i greu economi gylchol yn Sir Gaerfyrddin, gan gadw eitemau mewn defnydd am fwy o amser a'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.
Mae eitemau sydd wedi'u trwsio, eu hailddefnyddio a'u hail-bwrpasu ar gael yn Eto Llanelli a Chanolfan Eto Nantycaws.
Felly cofiwch, os nad ydych ei eisiau ... rhoi – trwsio – ailddefnyddio!