Canolfannau Ailgylchu
Diweddarwyd y dudalen ar: 06/06/2024
Nid oes angen apwyntiadau ar gyfer unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu.
Bydd angen i chi ddod â'r canlynol i'w dangos i'r gweithiwr ar y safle cyn mynd i mewn:
- Prawf preswyliaeth, un o'r canlynol - Trwydded yrru, eich bil y Dreth Gyngor gyfredol, bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis)
- Trwydded os oes angen un ar eich cerbyd.
Rydym yn argymell eich bod yn didoli deunyddiau y gellir eu hailgylchu oddi wrth y deunyddiau na ellir eu hailgylchu cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref, un ai yn eich bag glas neu yn eich bin gwastraff bwyd. Mae modd ailgylchu eitemau eraill megis gwydr, dillad ac eitemau trydanol bach yn y ganolfan ailgylchu neu mewn banciau ailgylchu llai.
Edrychwch ar y A-Y o Ailgylchu i gael gwybod beth y gellir ei ailgylchu.
Os byddwch yn dod â bagiau du i'r ganolfan ailgylchu, bydd angen i chi eu sortio nhw yn ein mannau didoli pwrpasol. Byddwch yn cael menig, ffedogau, gefeiliau a chwistrell gwrthfacteria a bydd biniau wedi'u labelu ar gael er mwyn i chi roi eich deunyddiau ailgylchadwy ynddynt. Bydd arwyddion yn y mannau didoli yn egluro'r hyn y mae angen i chi ei wneud, ond os ydych yn ansicr, bydd staff wrth law i roi cyngor.
Gallwch bellach leihau gwastraff a rhoi ail fywyd i'ch eitemau, drwy eu rhoi i'w hailddefnyddio yn ein canolfannau ailgylchu. Mae paent, pren, offer garddio, beiciau, offer trydan, celfi, teganau ac eitemau eraill y cartref yn cael eu derbyn yn ein man rhoi eitemau ar y safle. Bydd eitemau a roddir yn cael eu gwerthu yn ein siopau ailddefnyddio.