Os ydych chi'n defnyddio gwasarn cathod sy'n organig fel pelenni pren neu bapur, gall y rhain fynd i mewn i'ch bin compost yn y cartref. Gellir tynnu solidau a'u rhoi yn y bagiau gwastraff gweddilliol du. Gall gwasarn cathod sy'n seiliedig ar glai fynd yn uniongyrchol i fagiau gwastraff gweddilliol du.
Os ydych chi'n casglu baw ci wrth fynd â'ch ci am dro, gallwch ei waredu mewn biniau sbwriel ar y stryd. Ar gyfer gwastraff cŵn neu anifeiliaid anwes o'r cartref, gallwch ei roi yn eich bag gwastraff gweddilliol (du) ar gyfer y casgliad o ymyl y ffordd.
Os ydych yn mynd y tu hwnt i'ch terfyn o dri bag du, neu'n teimlo bod y bagiau yn rhy drwm, gellir mynd â'r bagiau hyn i unrhyw un o'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref i'w gwaredu.
Fel arall, gallwch ddefnyddio mwydonfeydd neu beiriannau treulio gwastraff anifeiliaid anwes gartref i'w waredu. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar gael ar-lein, ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych ar ffyrdd ychwanegol i helpu preswylwyr.