
Gwastraff bwyd
Mae'r casgliadau bwyd yn digwydd yn wythnosol. Rydym yn troi eich bwyd yn ynni a gwrtaith. Gall 6 bag te sydd wedi'u hailgylchu gynhyrchu digon o drydan i wneud paned arall.
Rydym yn darparu :
- Cadi brown ar gyfer eich cegin
- Bin gwyrdd i'w roi allan yn wythnosol i'w gasglu
- 3 rholyn o fagiau ar gyfer eich cadi brown, a gaiff eu dosbarthu'n flynyddol. Gallwch gasglu rholyn ychwanegol o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid os oes angen rhagor arnoch.
Gall yr holl fwyd amrwd a bwyd wedi'i goginio fynd yn eich bin bwyd. Ewch i'n canllaw ailgylchu A-Y i gael rhagor o wybodaeth.