Cwestiynau Cyffredin - Ailgylchu a gwastraff

Dylai'r cwestiynau cyffredin canlynol ateb unrhyw gwestiynau posibl sydd gennych ynglŷn ag ailgylchu, binau a sbwriel. Cysylltwch drwy'r tab "Gofyn cwestiwn" os oes unrhyw beth y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnoch amdano.

Gwastraff bwyd

Os oes angen bagiau glas ychwanegol neu fagiau leinio gwastraff bwyd  gallwch archebu mwy ar-lein Recycling Items Form

Os oes gennych boteli a jariau gwydr ychwanegol i’w hailgylchu na allwch chi eu ffitio yn eich bocs, naill ai daliwch afael ar y rhain tan eich casgliad nesaf neu ewch â nhw i’ch banc gwydr lleol. Yn anffodus ni allwn ddarparu bocsys ychwanegol.

Os oes angen i chi ddisodli blwch sydd wedi'i ddifrodi neu wedi torri os gwelwch yn ddacwblhewch y ffurflen ar-lein

 

Mewn sir lle mae mwy na 90,000 o gartrefi, mae llawer o wastraff bwyd yn cael ei gynhyrchu - bydd y swm lleiaf yn cael effaith. Mae'r effaith honno yn ddibynnol arnoch chi!

Os ydych yn rhoi eich gwastraff bwyd yn eich bag du mae'n mynd i safle tirlenwi. Wrth i wastraff bwyd bydru yn y safle tirlenwi, mae'n gollwng methan sef nwy tŷ gwydr sy'n gyfrifol am newid hinsawdd.

Defnyddir y bwyd rydym yn ei gasglu o’ch bin bwyd i gynhyrchu trydan ac i wneud gwrtaith. Gall 6 bag te sydd wedi'u hailgylchu gynhyrchu digon o drydan i ferwi tegell am baned arall.

Mae rhoi eich gwastraff bwyd yn eich bin bwyd hefyd yn rhwystro anifeiliaid rhag rhwygo eich bagiau du.

Maent yn cael eu dosbarthu i bob cartref rhwng mis Tachwedd - Ebrill. 

Bydd y bagiau glas yn cael eu gadael o fewn ffiniau'ch eiddo neu yn eich man casglu biniau arferol.

Yn aml, gall tai ar draws y ffordd neu ymhellach i lawr y stryd fod ar wahanol lwybrau dosbarthu. Felly, gallech dderbyn eich eitemau ar adegau gwahanol.

Os byddan nhw'n dod i ben cyn y dyddiad dosbarthu gallwch archebu mwy ar-lein Recycling Items Form

 

Rydym yn gofyn i wardeiniaid dderbyn y bagiau ar gyfer yr holl breswylwyr neu drefnu i ni gael mynediad er mwyn i ni eu dosbarthu.

Ar gyfer unrhyw safleoedd tai newydd lle mae rhannau o'r safle yn dal i gael eu hadeiladu, byddwn yn gofyn i'r datblygwr dderbyn yr eitemau a dosbarthu bagiau i'r preswylwyr.

Os byddan nhw'n dod i ben cyn y dyddiad dosbarthu gallwch archebu mwy ar-lein Recycling Items Form

 

  • Os yw eich man casglu fel arfer ar ddiwedd y lôn, byddwn yn gadael y bagiau yno.
  • Os ydych yn defnyddio byncer, byddwn yn gadael y bagiau y tu mewn i'r byncer. 
  • Os ydych yn defnyddio whilfin, byddwn yn gadael y bagiau wrth ymyl y bin.

Na. Caiff bagiau glas eu dosbarthu ar gyfer ailgylchu gwastraff y cartref yn unig. Mae gan yr holl fusnesau ddyletswydd gofal i waredu eu gwastraff yn briodol drwy gytundeb gwastraff masnachol â chludwr gwastraff cofrestredig. 

Mae rhai aelwydydd yn cael eu gwasanaethu gan gerbydau llai â chaets sy'n golygu nad yw'r gwastraff bwyd yn cael ei storio yn yr un ffordd ag ein cerbydau casglu mwy o faint. Mae bagiau leinio mawr wedi'u rhoi i'r aelwydydd hyn gan eu bod yn gryfach a'u bod yn cadw'r gwastraff yn fwy diogel.

Os oes bagiau leinio mawr wedi'u rhoi i chi, mae'n bwysig iawn i chi eu defnyddio, hyd yn oed os ydych yn defnyddio'r bagiau leinio ar gyfer y cadis llai, gan eu bod yn atal gwastraff rhag cwympo allan o'r cerbyd.

 

Gallwch roi gweddillion bwyd, pilion llysiau, cig a physgod gan gynnwys esgyrn, cregyn bwyd môr, gwastraff bwyd anifeiliaid, masgl wyau, bagiau te a gwaddodion coffi yn eich cadi cegin / bin bwyd. Edrychwch ar ein rhestr A-Y ailgylchu i weld rhestr lawn o'r hyn sy'n mynd yn eich bin bwyd.

Byddwn yn rhoi cadi cegin i chi ar gyfer y gegin a bin bwyd ar gyfer y casgliad wythnosol.  Rydym hefyd yn darparu bagiau bin bwyd er mwyn ei gwneud yn haws ichi ailgylchu eich holl wastraff bwyd.

Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i ofyn am cadi cegin / bin bwyd newydd. 

Gofyn am CADI CEGIN / bin BWYD

Gallwch gofrestru i dderbyn negeseuon e-bost neu negeseuon testun i'ch atgoffa o'ch diwrnodau casglu. 

Cofrestrwch ar gyfer negeseuon atgoffa

Os na allwch ddod o hyd i atebion i'ch cwestiynau ar y dudalen hon, neu ar ein Canllaw A-Y o Ailgylchu, gallwch gysylltu ag un o'n hymgynghorwyr ailgylchu i gael cyngor a chefnogaeth bellach. Anfonwch e-bost atom gan ddefnyddio'r ddolen isod a byddwn yn cysylltu â chi.

Cysylltwch â ni

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ei chael hi'n anodd rhoi gwastraff a deunyddiau ailgylchu allan i'w casglu, efallai y gallwn ni helpu gyda chasgliad gwastraff â chymorth.

Mae angen cwblhau cais a chael asesiad o'r eiddo cyn y gellir darparu'r gwasanaeth.

Casgliad gwastraff â chymorth

Ewch i Fy Ailgylchu Cymru i gael gwybod beth sy'n digwydd i'ch ailgylchu a'ch bagiau du ar ôl iddynt gael eu casglu.

Edrychwch a dilynwch y cyngor ar ein tudalen sbwriel heb ei gasglu, cyn rhoi gwybod bod eich gwastraff wedi cael ei adael ar ôl.

Sbwriel heb ei GASGLU

 

 

Yn Sir Gaerfyrddin mae ein holl wastraff bwyd bellach yn cael ei ailgylchu drwy broses o'r enw treulio anaerobig. Mae'r gwastraff bwyd yn cael ei drawsnewid yn wrtaith a bio-nwy sy'n cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell ynni. Rhaid gwaredu’r holl leininau bwyd gan nad oes modd eu prosesu gyda'r bwyd. Felly, erbyn hyn nid oes angen leininau y gellir eu compostio, sy'n ddrutach. Drwy wneud y newid hwn, gallwn arbed hyd yn oed mwy o arian drwy ymuno ag awdurdodau lleol eraill ar gontractau prynu ar raddfa fawr.

Llwythwch mwy