Cwestiynau Cyffredin - Ailgylchu a gwastraff
Dylai'r cwestiynau cyffredin canlynol ateb unrhyw gwestiynau posibl sydd gennych ynglŷn ag ailgylchu, binau a sbwriel. Cysylltwch drwy'r tab "Gofyn cwestiwn" os oes unrhyw beth y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnoch amdano.
Oriau agor yr Haf (Ebrill 1 - Medi 30) Oriau agor y gaeaf (Hydref 1 – Mawrth 31)
Mae pob un o'n canolfannau ailgylchu ar agor saith diwrnod yr wythnos, heblaw Hendy-gwyn ar Daf sydd ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc.
Gweler ein gwefan am oriau agor a chau dros wyliau banc pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref unigol.
Bydd angen i chi ddod â'r canlynol i'w dangos i'r gweithiwr ar y safle cyn mynd i mewn:
- Prawf preswyliaeth, un o'r canlynol - Trwydded yrru, eich bil y Dreth Gyngor gyfredol, bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis)
- Trwydded os oes angen un ar eich cerbyd.
Dylech arddangos eich trwydded ar eich borden flaen i'w dangos i'r gweithiwr. Ar ôl ei dilysu, gofynnir i chi ei rhoi mewn blwch casglu ar y safle
Yn anffodus, ni all staff y safle helpu i symud eitemau o unrhyw gerbydau, ond gallwch ddod â rhywun gyda chi i helpu i ddadlwytho'ch gwastraff, neu gallwch roi gwybod i un o staff y safle fod angen i chi adael eitem drom neu swmpus ar y llawr. Yna bydd y staff yn rhoi'r gwastraff yn y cynhwysydd cywir.
Gallwch, ond bydd yn rhaid iddynt aros yn y cerbyd.
Nac oes. Peidiwch ag ymweld â'r ganolfan ailgylchu os ydych yn hunanynysu neu os oes gennych unrhyw symptomau Coronafeirws.
Sicrhewch fod unrhyw wastraff yr amheuir ei fod wedi'i heintio â COVID-19 yn cael ei roi mewn dau fag a'i gadw ar eich eiddo am o leiaf 72 awr cyn ei waredu.
Ewch i wefan CWM Environmental i weld rhestr o'r hyn y gallwch fynd ag ef i'r safle hwn neu defnyddiwch ein A-Y ailgylchu.
Os oes gennych fwy na 3 bag, gallwch fynd â'r bagiau ychwanegol i ganolfan ailgylchu.
Os oes angen i chi ddod â bagiau du, dylech eu sortio gartref a sicrhau nad ydynt yn cynnwys unrhyw beth y gellir ei ailgylchu naill ai yn y ganolfan neu yn eich bagiau glas.
Ceisiwch ailgylchu cymaint ag y gallwch a helpwch ni i leihau faint o sbwriel sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Os nad ydych yn sicr am yr hyn y gellir ei ailgylchu, edrychwch ar adran A-Y ailgylchu ar ein gwefan.
Gallwch waredu’r hyn sy'n cyfateb i hyd at dri bag o blastrfwrdd y mis a hyd at dri bag o asbestos y flwyddyn. Mae'n rhaid i asbestos gael ei roi mewn bag o fewn bag, ond mae'n rhaid i blastrfwrdd fod yn rhydd. Holwch y staff am hyn ar ôl cyrraedd.
Dim ond i Nant-y-caws y gallwch ddod â haenau o asbestos neu symiau mawr o blastrfwrdd ac asbestos rhydd. Bydd angen i chi fynd â'r deunydd dros y bont bwyso a thalu'r tâl gwaredu priodol. Ffoniwch 01267 275536 i weld y ffioedd gwaredu diweddaraf.
Peidiwch â neidio'r ciw, oni bai bod staff y safle yn dweud wrthych am wneud hynny neu fod lle yn y cilfachau ailgylchu. Byddwch yn amyneddgar ac yn garedig tuag at eraill sy'n defnyddio'r safle.
Os nad yw eich cerbyd ar ein rhestr o gerbydau a waherddir, gallwch brynu bagiau o gompost yn unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu. Gallwch brynu Compost Hud Myrddin am £2.50 y bag. Mae ar gael ym mhob un o'n canolfannau ailgylchu yn ogystal â Chanolfan Eto, yn Nantycaws. Rhaid bod gennych yr union swm o arian. Ni fyddwn yn gallu rhoi unrhyw newid.
Gallwch hefyd brynu symiau mwy yn rhydd o Cwm Environmental yn Nantycaws. Os ydych yn defnyddio cerbyd y mae angen hawlen i'w ddefnyddio neu gerbyd a waherddir rhag mynd i mewn i'n canolfannau ailgylchu, gallwch barhau i brynu compost o Nant-y-caws heb fynd i mewn i'r ganolfan ailgylchu. Trowch i'r dde wrth fynd i mewn o'r ffordd fynediad ac ewch i swyddfa'r bont bwyso.
Rhaid bod gennych yr union swm o arian i dalu am eu gwaredu, ni fyddwn yn gallu rhoi unrhyw newid. Ewch i wefan Cwm Environmental i weld y ffïoedd diweddaraf.
Na, darperir ein safleoedd ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin yn unig ac rydym yn gwirio bod pawb sy’n eu defnyddio yn byw yn y Sir. Bydd angen i chi ddod ag un o'r canlynol i ddangos prawf o'ch preswyliaeth: eich trwydded yrru, eich bil y Dreth Gyngor gyfredol, neu eich bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis).
Os nad ydych yn breswylydd a bod angen i chi glirio gwastraff ar gyfer perthynas yn dilyn profedigaeth deuluol, yna cysylltwch â ni.
Na, ni all ein canolfannau ailgylchu dderbyn gwastraff busnes. Rhaid cael gwared ar hwnnw gan ddefnyddio cyfleuster trwyddedig sy'n bodloni'r gofynion Dyletswydd Gofal. Mae gan Orsaf Drosglwyddo Nantycaws, Caerfyrddin, gyfleusterau ar gyfer gwastraff y cartref a gwastraff busnes a hefyd mae nifer o safleoedd trwyddedig preifat y gellir dod o hyd iddynt ar-lein drwy chwilio 'waste transfer stations in my area’. Bydd y rhan fwyaf o'r cyfleusterau sy'n derbyn gwastraff masnachol yn codi tâl am ei waredu.
Mae gadael gwastraff masnachol mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn drosedd dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, a allai arwain at ddirwy diderfyn a hyd at 5 mlynedd yn y carchar.
Mae ein canolfannau ailgylchu at ddefnydd trigolion Sir Gaerfyrddin er mwyn gwaredu gwastraff y cartref yn unig. Mae cyflwyno system hawlen am ddim wedi ein helpu i sicrhau nad yw busnesau yn defnyddio’r canolfannau ailgylchu yn anghyfreithlon i waredu gwastraff masnachol.
Yn dibynnu ar y math o gerbyd rydych yn ei ddefnyddio, efallai y bydd angen i chi wneud cais am hawlen am ddim i ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu. Bydd yr hawlen yn caniatáu i chi gael mynediad i unrhyw ganolfan ailgylchu yn Sir Gaerfyrddin hyd at 12 gwaith y flwyddyn.
Bydd eich hawlen yn cael ei chofrestru ar gyfer y cerbyd rydych yn ei yrru. Pan fyddwch yn cyrraedd y ganolfan ailgylchu, bydd aelod o staff yn gofalu bod manylion eich hawlen yn cyfateb i rai eich cerbyd, ac yn tynnu un o'r 12 tab sydd ar yr hawlen i ddangos ei bod wedi ei defnyddio.
Mae’r cynllun hawlen am ddim yn weithredol yn ein holl ganolfannau ailgylchu. Y math o gerbyd yr ydych yn dod ag ef i'r ganolfan ailgylchu sy’n pennu p'un a oes angen hawlen arnoch ai peidio. Os oes angen hawlen arnoch, gallwch wneud cais ar-lein.
Os oes angen hawlen ar eich cerbyd gallwch wneud cais ar-lein.
Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
- Eich manylion
- Manylion y cerbyd
- Copï/sgan o'ch holl llyfr log V5CW eich cerbyd
- Prawf o'r cyfeiriad - Dim ond un prawf o'r cyfeiriad sydd angen i chi ei anfon a gallai fod yn gopi o'ch bil y Dreth Gyngor, bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis) neu drwydded yrru.
Bydd angen i chi ddarparu copi o'ch dogfen cofrestru cerbyd V5CW yn ogystal â dogfen fel prawf o'r cyfeiriad, sy'n cyfateb i'r cyfeiriad a gofrestrwyd ar eich ffurflen V5CW.
Fel prawf o'r cyfeiriad rydym yn derbyn y dogfennau canlynol:
- Trwydded yrru
- Eich Bil Dreth Gyngor
- Bil cyfleustod, (heb fod yn hŷn na 3 mis)
Ar ôl i ffurflen gais wedi'i chwblhau a'r dogfennau atodol ddod i law a chael eu dilysu, bydd yr hawlenni'n cael eu cyflwyno o fewn 10 diwrnod gwaith.
Gallwch wneud cais am hawlen os yw'r cerbyd wedi'i gofrestru i fusnes, cyhyd â bo gennych ganiatâd y cwmni i ddefnyddio'r cerbyd at ddibenion personol a'ch bod yn cludo gwastraff y cartref yn unig. Ynghyd â'ch ffurflen gais am hawlen, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:
- Llythyr pennawd y cwmni gan eich cyflogwr sy'n datgan bod gennych ganiatâd i ddefnyddio'r cerbyd at ddibenion personol.
- Copi/sgan o lyfr log V5C y cerbyd - sy'n dangos yr enw a'r cyfeiriad y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru iddynt.
- Prawf o'ch cyfeiriad - Dim ond un prawf o'ch cyfeiriad sydd angen i chi ei anfon a gallai fod yn gopi o'ch bil y Dreth Gyngor, bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis) neu drwydded yrru.
Os ydych yn byw mewn tŷ a rennir ag unigolion nad ydynt yn perthyn i chi, gan ffurfio mwy nag un aelwyd yn yr un eiddo, gallwch wneud cais am hawlen.
Ynghyd â'ch cais am hawlen, bydd angen i chi gyflwyno:
- Copi o'ch V5C
- Bil y Dreth Gyngor
Os caiff eich bil y Dreth Gyngor ei roi i'ch landlord, gallwch wneud cais am hawlen, ond bydd angen i ni wneud gwiriadau pellach o ran eich cais.
Ni fydd hawl gan gerbydau amaethyddol, faniau ceffylau, lorïau codi, cerbydau â chawell, cherbydau llen ochr/ochr a cerbydau dros 3.5 tunnell gan gynnwys faniau bocs a faniau â phaneli gwympedig fynd i mewn i'r canolfannau ailgylchu.
Ni chaniateir chwaith unrhyw gerbydau sy'n tynnu trelar fwy na 2.44 metr/8 troedfedd waeth faint o echelau sydd ganddynt Ni chaniateir i faniau â phaneli 3.5 tunnell, na thryciau agored cab sengl dynnu unrhyw drelars yn y canolfannau ailgylchu.
Na, mae'r hawlen wedi ei chofrestru i'ch cerbyd chi, felly ni ellir ei throsglwyddo.
Mae eich hawlen yn dechrau o'r mis y cewch hi ac ni allwch ymweld fwy na 12 gwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Byddwch yn dal i allu defnyddio'r ganolfan ailgylchu gydag unrhyw gerbyd nad oes angen hawlen ar ei gyfer e.e. car, 4x4, SUV, cerbyd cludo pobl ac ati.
12 mis ar ôl dyddiad cyflwyno'r hawlen, byddwch yn gallu gwneud cais arall am hawlen newydd.
Sut ydw i'n adnewyddu fy hawlen?
Dim ond ar ôl ichi ddefnyddio 10 neu fwy o'ch tocynnau y bydd angen ichi adnewyddu eich hawlen. Pan fyddwch yn adnewyddu eich hawlen, byddwch yn derbyn e-bost/llythyr a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch beth i'w wneud. Os na fyddwch yn derbyn y cyfarwyddiadau hyn, ffoniwch Cwm Environmental ar 01267 225520
Os gwnaethoch gais mwy na 12 mis yn ôl a bod gennych 3 thocyn ar ôl o hyd, defnyddiwch y rhai sy'n weddill.
Nac oes, byddwch yn dal i allu ei defnyddio hyd nes y byddwch wedi ymweld 12 gwaith.
Os credwch fod eich cerbyd a addaswyd yn perthyn i gategori'r drwydded, cysylltwch a ni cyn gwneud cais am drwydded.
Bydd, dylech logi'r cerbyd am 3 diwrnod neu lai yn unig a bydd angen ichi ddefnyddio manylion eich cerbyd eich hunan pan fyddwch yn trefnu apwyntiad. Pan fyddwch yn dod, bydd angen ichi sicrhau bod gennych y canlynol:
- Cyfeirnod eich archeb
- Dogfennau llogi cerbyd
- Prawf preswylio
Gallwch, os ydych yn preswylio yn Sir Gaerfyrddin a'ch bod yn cludo gwastraff y cartref.
Gall rheolwyr y safle hefyd wrthod mynediad os ydynt yn amau bod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i gario gwastraff masnachol.
Mewn sir lle mae mwy na 90,000 o gartrefi, mae llawer o wastraff bwyd yn cael ei gynhyrchu - bydd y swm lleiaf yn cael effaith. Mae'r effaith honno yn ddibynnol arnoch chi!
Os ydych yn rhoi eich gwastraff bwyd yn eich bag du mae'n mynd i safle tirlenwi. Wrth i wastraff bwyd bydru yn y safle tirlenwi, mae'n gollwng methan sef nwy tŷ gwydr sy'n gyfrifol am newid hinsawdd.
Defnyddir y bwyd rydym yn ei gasglu o’ch bin gwyrdd i gynhyrchu trydan ac i wneud gwrtaith. Gall 6 bag te sydd wedi'u hailgylchu gynhyrchu digon o drydan i ferwi tegell am baned arall.
Mae rhoi eich gwastraff bwyd yn eich bin bwyd gwyrdd hefyd yn rhwystro anifeiliaid rhag rhwygo eich bagiau du.
Maent yn cael eu dosbarthu i bob cartref rhwng mis Tachwedd - Ebrill.
Bydd y bagiau glas yn cael eu gadael o fewn ffiniau'ch eiddo neu yn eich man casglu biniau arferol.
Yn aml, gall tai ar draws y ffordd neu ymhellach i lawr y stryd fod ar wahanol lwybrau dosbarthu. Felly, gallech dderbyn eich eitemau ar adegau gwahanol.
Os ydych chi'n rhedeg allan o fagiau/bagiau leinio cyn iddynt gael eu dosbarthu, edrychwch i weld o ble y mae modd eu casglu.
Rydym yn gofyn i wardeiniaid dderbyn y bagiau ar gyfer yr holl breswylwyr neu drefnu i ni gael mynediad er mwyn i ni eu dosbarthu.
Ar gyfer unrhyw safleoedd tai newydd lle mae rhannau o'r safle yn dal i gael eu hadeiladu, byddwn yn gofyn i'r datblygwr dderbyn yr eitemau a dosbarthu bagiau i'r preswylwyr.
Os ydych chi'n rhedeg allan o fagiau/bagiau leinio cyn iddynt gael eu dosbarthu, edrychwch i weld o ble y mae modd eu casglu.
- Os yw eich man casglu fel arfer ar ddiwedd y lôn, byddwn yn gadael y bagiau yno.
- Os ydych yn defnyddio byncer, byddwn yn gadael y bagiau y tu mewn i'r byncer.
- Os ydych yn defnyddio whilfin, byddwn yn gadael y bagiau wrth ymyl y bin.
Bydd eich bagiau yn cael eu gadael ar garreg y drws.
Na. Caiff bagiau glas eu dosbarthu ar gyfer ailgylchu gwastraff y cartref yn unig. Mae gan yr holl fusnesau ddyletswydd gofal i waredu eu gwastraff yn briodol drwy gytundeb gwastraff masnachol â chludwr gwastraff cofrestredig.
Mae rhai aelwydydd yn cael eu gwasanaethu gan gerbydau llai â chaets sy'n golygu nad yw'r gwastraff bwyd yn cael ei storio yn yr un ffordd ag ein cerbydau casglu mwy o faint. Mae bagiau leinio mawr wedi'u rhoi i'r aelwydydd hyn gan eu bod yn gryfach a'u bod yn cadw'r gwastraff yn fwy diogel.
Os oes bagiau leinio mawr wedi'u rhoi i chi, mae'n bwysig iawn i chi eu defnyddio, hyd yn oed os ydych yn defnyddio'r bagiau leinio ar gyfer y cadis llai, gan eu bod yn atal gwastraff rhag cwympo allan o'r cerbyd.
Gallwch roi gweddillion bwyd, pilion llysiau, cig a physgod gan gynnwys esgyrn, cregyn bwyd môr, gwastraff bwyd anifeiliaid, masgl wyau, bagiau te a gwaddodion coffi yn eich cadi brown / bin bwyd gwyrdd. Edrychwch ar ein rhestr A-Y ailgylchu i weld rhestr lawn o'r hyn sy'n mynd yn eich bin bwyd gwyrdd.
Byddwn yn rhoi cadi brown i chi ar gyfer y gegin a bin gwyrdd ar gyfer y casgliad wythnosol. Rydym hefyd yn darparu bagiau bin bwyd er mwyn ei gwneud yn haws ichi ailgylchu eich holl wastraff bwyd.
Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i ofyn am gadi brown / bin bwyd gwyrdd newydd. Neu casglwch un am ddim o'ch Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid agosaf.
Edrychwch ar ein rhestr A-Y ailgylchu i gael gwybod am yr hyn sy'n gallu cael ei roi yn eich bag glas neu'ch bin bwyd gwyrdd. Os ydych chi'n ailgylchu popeth y gallwch ond rydych yn dal i gael anhawster o ran cadw at derfyn y bagiau du, gallech fod yn gymwys i wneud cais i gynyddu eich lwfans bagiau du.
Ar gyfartaledd mae bron hanner cynnwys bagiau du yn Sir Gaerfyrddin yn gallu cael ei ailgylchu a gwastraff bwyd yw cymaint â chwarter ohono.
Mae'n rhaid i ni gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2025 er mwyn osgoi dirwy sylweddol ac yn bwysicach fyth, mae ailgylchu yn llawer gwell i'r amgylchedd na chladdu ein gwastraff ar safle tirlenwi.
Os byddwch yn rhoi cymaint ag y gallwch yn eich bagiau glas ac yn eich bin bwyd gwyrdd ac yn mynd ag eitemau eraill megis hen ddillad/esgidiau a gwydr i'r banciau neu'r canolfannau ailgylchu, byddwch yn ein helpu i gyflawni hyn.
Byddech yn synnu cyn lleied o bethau sydd angen mynd yn eich bag du - edrychwch ar ein rhestr A-Y ailgylchu i gael rhagor o fanylion.
Os yw eich hawlen ar goll neu wedi'i dwyn, rhowch wybod i ni. Pan fyddwn wedi gwirio eich gwybodaeth byddwn yn ailgyhoeddi nifer y tocynnau oedd gennych yn weddill. Cofiwch, os ydych eisoes wedi defnyddio pob un o'r 12 tocyn sy'n rhan o'ch hawlen, ni fyddwch yn gallu ei hadnewyddu hyd nes 12 mis o'r dyddiad cyhoeddi gwreiddiol.
Mae'n rhaid gosod y gwastraff gardd yn rhydd yn y bin (peidiwch â defnyddio unrhyw fagiau). NI FYDD unrhyw wastraff sy'n cael ei osod y tu allan i'r bin yn cael ei gasglu.
Ie, i mewn â nhw...
- Toriadau gwrychoedd, coed a llwyni; gwreiddiau; toriadau a chribinion porfa;dail; planhigion, blodau a chwyn.
Na, peidiwch â'u cynnwys...
- Bagiau plastig, potiau a hambyrddau; briciau, rwbel, pridd a cherrig; ffensiau, siediau a physt; gwastraff bwyd yn cynnwys crafion; boncyffion coed a changhennau dros 4 modfedd (10cm) o ddiamedr; gwellt gwely, gwasarn ac ysgarthion anifeiliaid; chwyn ymwthiol fel canclwm Siapan, yr efwr enfawr a’r ffromlys chwarennog.
NI FYDD eich bin yn cael ei wagio os yw'n cynnwys eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu. Byddwn yn ymchwilio i achosion cyson o halogi ac os bydd yn parhau mae'n bosibl y daw'r gwasanaeth i ben.
Peidiwch â gorlenwi na chywasgu'r gwastraff yn y bin. Os bydd y bin yn rhy drwm i'r lori ei godi NI FYDD yn cael ei wagio.
Rydym yn dosbarthu tri rholyn i bob cartref rhwng mis Tachwedd - Ebrill. Os bydd angen rhagor o fagiau arnoch byddwch yn gallu casglu un rholyn o un o'n mannau casglu bagiau glas.
Nid oes terfyn ar nifer y bagiau glas sy'n gallu cael eu rhoi allan i'w casglu.
Caiff bagiau glas eu casglu bob wythnos.
Papur/Cardbord - papurau newydd/cylchgronau, catalogau, cyfeirlyfrau ffôn, post di-ofyn, papur ysgrifennu, papur wedi'i ddarnio, amlenni, cartonau bwyd a diod, bocsys grawnfwydydd, bocsys cardbord, tiwbiau papur toiled/papur cegin, bocsys wyau, deunydd pecynnu prydau parod.
Plastig - poteli plastig, potiau iogwrt, tybiau marjarîn, basgedi plastig/cynwysyddion prydau parod, cambrenni cotiau plastig, ffilm blastig.
Metelau - caniau bwyd a diod, erosolau, cloriau jariau jam, ffoil.
Edrychwch ar ein rhestr A-Y ailgylchu i weld rhestr lawn o'r hyn sy'n mynd yn eich bagiau glas.
Byddwn yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu atoch cyn y bydd angen i chi adnewyddu eich tanysgrifiad.
Byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos rhwng Mawrth a Tachwedd.
Byddwn yn rhoi gwybod ichi pryd fydd eich diwrnod casglu pan fyddwch yn tanysgrifio. Bydd casgliadau'n digwydd bob pythefnos. Cofiwch y gallai'r diwrnodau casglu newid yn ystod, neu ar ôl, gwyliau'r banc.
Rhaid rhoi’r bin gwastraff gardd yn yr un man ag y caiff eich sbwriel/deunyddiau ailgylchu eu casglu ohono.
Byddwn yn darparu whilfin 240 litr, a fydd hyn cyfwerth â thua chwe bag gwastraff o faint safonol. Fodd bynnag, cofiwch mae'n rhaid i chi roi eich gwastraff gardd yn rhydd yn y bin.
Bydd yr holl danysgrifiadau yn rhedeg yn flynyddol ac yn digwydd rhwng mis Mawrth a Thachwedd. Byddwch yn talu'r gost lawn pa bynnag adeg o'r flwyddyn rydych yn tanysgrifio i'r gwasanaeth, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o gasgliadau sydd eu hangen arnoch.
NI FYDDWN yn gallu cynnig unrhyw ad-daliadau. Os ydych am ganslo eich tanysgrifiad, rhowch wybod i ni a byddwn yn dirwyn y gwasanaeth i ben ar unwaith.
Os byddwch yn symud o fewn y sir gallwch fynd â'r bin gyda chi i'ch cyfeiriad newydd. Rhowch wybod i ni o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y mae'n rhaid i chi symud er mwyn i ni sicrhau bod eich bin yn cael ei wagio yn eich cyfeiriad newydd. Os byddwch yn symud y tu allan i'r sir, cysylltwch â ni er mwyn i ni drefnu casglu'r bin.
Nid yw casglu gwastraff gardd yn wasanaeth statudol. Mae'r gost yn cynnwys llogi'r bin a chasglu’r gwastraff bob pythefnos. Mae hyn hefyd yn fwy teg i drigolion nad oes gardd ganddynt, sy'n dewis compostio gartref, neu sy'n dymuno peidio â defnyddio'r gwasanaeth.
Bydd eich gwasanaeth yn dechrau pan fyddwn yn dosbarthu eich bin. Ein nod yw dosbarthu'r bin o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich taliad. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl yn ystod cyfnodau prysur, megis ar ddechrau blwyddyn tanysgrifio newydd, oherwydd y galw mawr.
Er mwyn cynnal gwasanaeth cost effeithiol penderfynwyd peidio â darparu'r gwasanaeth yn ystod misoedd y gaeaf, pan nad oes llawer iawn o wastraff gardd yn cael ei gynhyrchu.
Gellir compostio gwastraff gardd gartref neu fynd ag ef i un o'n canolfannau ailgylchu gwastraff cartref. Gellir prynu biniau compostio oddi wrthym am £12 gan gynnwys cludiant.
Efallai y byddai modd ichi uno gyda'ch cymydog sydd â mwy o le i gadw'r whilfin. Trwy wneud hynny, byddwch yn dal i elwa ar y gwasanaeth ac yn arbed arian drwy rannu'r gost.
Os nad ydych chi'n credu y byddwch yn gallu trafod whilfin 240 litr anfonwch e-bost at Gwastraff.Gardd@sirgar.gov.uk er mwyn inni eich cynghori ynghylch opsiynau eraill.
Mae'n bosibl na fydd pob eiddo yn addas ar gyfer y gwasanaeth hwn oherwydd cyfyngiadau mynediad i'n cerbydau casglu. Rydym yn cadw'r hawl i benderfynu p'un ai bod modd inni gynnig y gwasanaeth casglu gwastraff gardd neu beidio.
Bydd, os yw'n ymarferol i wneud hynny. Llenwch y ffurflen gais ar-lein. Byddwn yn ymweld â'ch eiddo yn gyntaf er mwyn gwneud gwiriadau cyn ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth ichi. Byddwn yn anfon y penderfyniad atoch drwy e-bost o fewn 10 diwrnod gwaith.
Na, dim ond gwastraff gardd yn y bin fydd yn cael ei gasglu.
Oes, cyhyd â'ch bod yn talu'r gost flynyddol ar gyfer y gwasanaeth casglu ar gyfer bob bin, gallwch gael cynifer o finiau a fynnoch.
Os na dderbynnir taliad, bydd y casgliadau'n dod i ben a'r bin yn cael ei symud o'ch cartref.
Na, mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer aelwydydd yn unig.
Gallwch, os ydych yn preswylio yn Sir Gaerfyrddin a'ch bod yn cludo gwastraff y cartref.
Mae'n bosibl y bydd rheolwyr y safle yn gwrthod mynediad os byddant yn amau bod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i gludo gwastraff masnachol.
Oes, ond bydd angen i ni gynnal asesiad ynghylch mynediad i'ch eiddo yn gyntaf. I wneud cais am y gwasanaeth hwn, bydd angen i chi ffonio 01267 234567. Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau am eich eiddo a’ch man casglu arfaethedig.
Ar ôl i ni gael eich cais, caiff ei asesu gan ein tîm a gwneir penderfyniad ynghylch a oes modd inni gynnig y gwasanaeth hwn i chi ai peidio. Dim ond unwaith y bydd angen i ni asesu eich eiddo. Os byddwch yn gwneud cais am unrhyw gasgliadau gwastraff ychwanegol, byddwn yn casglu o'r un man.
Os oes eitemau yn eich bag du nad ydynt yn gallu cael eu hailgylchu ac os nad ydych yn gyfforddus ag agor y bag yn y ganolfan ailgylchu, rhowch y bag allan i'w gasglu wrth ymyl y ffordd.
Bydd yn rhaid agor unrhyw fagiau du yr ydych yn dod â nhw i'r ganolfan ailgylchu.
Rydym yn argymell eich bod yn didoli deunyddiau y gellir eu hailgylchu oddi wrth y deunyddiau na ellir eu hailgylchu cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref, un ai yn eich bag glas neu yn eich bin gwastraff bwyd.
Mae modd ailgylchu eitemau eraill megis gwydr, dillad ac eitemau trydanol bach yn y ganolfan ailgylchu neu mewn banciau ailgylchu llai.
Edrychwch ar y A-Y o Ailgylchu i gael gwybod beth y gellir ei ailgylchu.
Os byddwch yn dod â bagiau du i'r ganolfan ailgylchu, bydd angen i chi eu sortio nhw yn ein mannau didoli pwrpasol. Byddwch yn cael menig, ffedogau, gefeiliau a chwistrell gwrthfacteria a bydd biniau wedi'u labelu ar gael er mwyn i chi roi eich deunyddiau ailgylchadwy ynddynt. Bydd arwyddion yn y mannau didoli yn egluro'r hyn y mae angen i chi ei wneud, ond os ydych yn ansicr, bydd staff wrth law i roi cyngor.
Mae man penodedig ym mhob un o'n canolfannau ailgylchu. Gallwch chi rhoi eich eitemau i'w hailgylchu yn y biniau sydd wedi'u labelu yn y mannau hyn. Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, mae ein staff wrth law i'ch helpu.
Rydym yn argymell eich bod yn didoli eich bagiau du gartref cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref, naill ai yn eich bag glas neu yn eich bin gwastraff bwyd.
Mae modd ailgylchu eitemau eraill megis gwydr a dillad yn y ganolfan ailgylchu neu mewn banciau ailgylchu llai. Cofiwch wahanu'r rhain cyn dod fel eu bod yn barod i'w rhoi yn y man/bin cywir.
Gallwch wirio pa eitemau y gallwch eu hailgylchu yn ein rhestr A-Y ailgylchu.
Ar gyfartaledd mae bron hanner cynnwys bagiau du yn Sir Gaerfyrddin yn gallu cael ei ailgylchu. Drwy wahanu'r deunydd ailgylchadwy hyn, rydym yn gobeithio cynyddu ein cyfradd ailgylchu gyffredinol, a helpu Sir Gaerfyrddin i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2025 ac osgoi dirwy sylweddol.
Rydym yn argymell eich bod yn didoli eich bagiau du gartref cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Gwahanwch eitemau sy'n gallu cael eu rhoi mewn biniau unigol yn y ganolfan ailgylchu megis gwydr, papur / cardbord, dillad ac esgidiau, gwastraff gardd ac ati.
Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref hefyd, un ai yn eich bag glas neu yn eich bin bwyd gwyrdd.
Gallwch wirio pa eitemau y gallwch eu hailgylchu yn ein rhestr A-Y ailgylchu.
Mae modd ailgylchu'r rhan fwyaf o eitemau'r cartref, un ai yn eich bag glas, yn eich bin gwastraff bwyd, yn y banciau ailgylchu neu yn ein canolfannau ailgylchu. Nid oes hawl i roi unrhyw beth sy'n gallu cael ei ailgylchu yn eich bagiau du.
Fodd bynnag, nid yw rhai eitemau yn gallu cael eu hailgylchu a dylech eu rhoi yn eich bag du. Mae hyn yn cynnwys pethau fel gwasarn cathod, hancesi papur, clytiau ystafell ymolchi / cegin a chynnwys eich hwfer.
Gallwch wirio pa eitemau y gallwch eu hailgylchu yn ein rhestr A-Y ailgylchu.
Mae gwastraff hylendid yn cynnwys eitemau a ddefnyddir i waredu wrin ac ysgarthion dynol a secretiadau neu ysgarthiadau eraill o'r corff. Mae Cynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP) yn eitemau a ddefnyddir i amsugno gwastraff a hylif corfforol. Lle bo'n bosibl, dylid gwagio unrhyw eitemau, cyn eu rhoi yn y bag.
Mae hyn yn cynnwys:
Padelli gwelyau tafladwy a leininau, padiau anymatal, padiau cadair a gwely
Bagiau stoma/colostomi, bagiau cathetr a photeli wrin
Menig plastig a ffedogau tafladwy
Cewynnau gan gynnwys unrhyw sachau a weips
Nid yw'n cynnwys:
Cynnyrch Mislif
Gwastraff anifeiliaid anwes
Gwastraff clinigol *
Gallwch wneud cais ar-lein am ein gwasanaeth casglu gwastraff hylendid am ddim.
*Os oes angen i chi waredu gwastraff clinigol, cysylltwch â Hywel Dda drwy ffonio 01267 227641 neu anfon e-bost at Environment.team@wales.nhs.uk. Ni ddylid byth roi gwastraff clinigol mewn bagiau gwastraff y cartref.
Mae gwastraff clinigol yn cynnwys y mathau canlynol o wastraff:
Meinweoedd dynol adnabyddadwy
Gwaed
Rhwymynnau llawfeddygol brwnt, swabiau, a gwastraff brwnt tebyg
Nodwyddau chwistrellu
Cyffuriau neu gynnyrch fferyllol arall.
Ni ellir rhoi gwastraff clinigol mewn bagiau du neu borffor ac mae'n rhaid iddo gael ei gasglu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Os oes angen casgliad gwastraff clinigol arnoch, cysylltwch â Hywel Dda drwy ffonio 01267 227641 neu anfon e-bost: Environment.team@wales.nhs.uk
Gallwch wneud cais ar-lein am ein gwasanaeth casglu gwastraff hylendid/cewynnau am ddim i chi neu aelod o'ch teulu.
Ar ôl inni gael eich cais bydd eich bagiau porffor yn cael eu hanfon atoch ymhen 10 niwrnod gwaith. Os ydych yn gwneud cais ar ran rhywun arall, bydd y bagiau'n cael eu danfon i'w cartref.
Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am eich diwrnod casglu. Gwneir casgliadau rhwng 7am a 3pm, felly bydd angen ichi osod eich bagiau allan cyn 7am.
Os oes angen casgliadau hylendid a gwastraff cewynnau arnoch, bydd angen i chi wneud dau gais ar wahân.
Ni allwch wneud cais os ydych yn rhedeg meithrinfa neu'n warchodwr plant gan fod hyn yn cael ei ystyried yn wastraff masnachol.
Ydyn, gallwch wneud cais ar-lein am ein gwasanaeth casglu gwastraff hylendid/cewynnau am ddim. Does dim gwahaniaeth faint o gewynnau rydych chi'n eu defnyddio; defnyddiwch ein gwasanaeth casglu cewynnau gan y bydd yn golygu bod llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Ar ôl inni gael eich cais bydd eich bagiau porffor yn cael eu hanfon atoch ymhen 10 niwrnod gwaith. Byddwn yn casglu eich bagiau bob pythefnos, a rhoddir diwrnod casglu a chalendr i chi i ddangos pa wythnosau y bydd angen i chi roi eich bagiau allan i'w casglu.
Ni fyddwch yn derbyn gwasanaeth casglu gwastraff hylendid / cewynnau yn awtomatig, mae'n rhaid i chi wneud cais amdano.
Nac oes. Dylai eu rhiant/gwarcheidwad wneud cais i gael casgliad o'i gyfeiriad cartref. Gallant roi bag porffor i chi ar gyfer unrhyw gewynnau pan fyddant yn aros gyda chi. Yna gallwch roi'r bag hwn yn ôl iddynt fel y gallant roi'r gwastraff allan i'w gasglu yn eu cyfeiriad eu hun.
Nac oes, gan y byddai hyn yn cael ei ystyried yn wastraff masnachol.
Os ydych yn derbyn sticeri eithrio ar gyfer eich bagiau du ar hyn o bryd, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am ragor o sticeri pan fydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ym mis Mehefin.
Gwaredwch unrhyw sticeri sy'n weddill yn eich bag du.
Ni fyddwch yn derbyn gwasanaeth casglu gwastraff hylendid / cewynnau yn awtomatig, mae'n rhaid i chi wneud cais amdano. Mae'n gyflym ac yn hawdd gwneud cais amdano. Ar ôl inni gael eich cais bydd eich bagiau porffor yn cael eu hanfon atoch ymhen 10 niwrnod gwaith. Byddwn yn casglu eich bagiau bob pythefnos, a rhoddir diwrnod casglu a chalendr i chi i ddangos pa wythnosau y bydd angen i chi roi eich bagiau allan i'w casglu.
Gallwch roi'r eitemau canlynol yn eich bag porffor:
Padelli gwelyau tafladwy a leininau, padiau anymatal, padiau cadair a gwely
Bagiau stoma/colostomi, bagiau cathetr a photeli wrin
Menig plastig a ffedogau tafladwy
Cewynnau gan gynnwys unrhyw sachau a weips
Tiwbiau bwydo
Lle bo'n bosibl, dylid gwagio unrhyw eitemau, cyn eu rhoi yn y bag.
PEIDIWCH â rhoi'r eitemau canlynol yn eich bag porffor:
Cynnyrch Mislif
Gwastraff anifeiliaid anwes
Gwastraff clinigol *
Dylid bagio cynnyrch mislif, neu wastraff anifeiliaid anwes ddwywaith a'u rhoi yn eich bagiau du.
*Os oes angen i chi waredu gwastraff clinigol, cysylltwch â Hywel Dda drwy ffonio 01267 227641 neu anfon e-bost: Environment.team@wales.nhs.uk Ni ddylid byth roi gwastraff clinigol mewn bagiau gwastraff y cartref.
Rhowch nhw allan i'w casglu yn yr un lle ag y byddech chi'n gadael eich bagiau glas neu ddu*. Ni fyddwn yn casglu bagiau o whilfiniau ond gallwch eu rhoi mewn bin sbwriel llai. Gwnewch yn siŵr bod y gwastraff mewn bag ac wedi'i glymu.
*Os ydych yn rhannu ardal finiau, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi ble i roi eich bagiau porffor.
Defnyddiwch y bagiau porffor sy'n cael eu darparu yn unig, ni ddarperir whilfiniau ar gyfer gwastraff cewynnau plant. Gallwch roi eich bagiau mewn bin sbwriel (nid whilfiniau) a'i roi allan i'w gasglu. Gwnewch yn siŵr bod y gwastraff mewn bag ac wedi'i glymu.
Nid ydym yn casglu gwastraff o whilfin preifat; ac ni chaiff eich gwastraff ei gasglu a bydd angen i chi ei dynnu o'r bin cyn i ni ei gasglu eto.
Yn achos gwastraff hylendid, gallwch osod faint bynnag o fagiau porffor ag y mynnoch allan i'w casglu.
Gwneir casgliadau rhwng 7am a 3pm, felly bydd angen ichi osod eich bagiau allan cyn 7am ac aros tan ar ôl 3pm cyn rhoi gwybod i ni am hyn.
Cyn i chi roi gwybod am hyn, gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi'r gwastraff allan ar y diwrnod cywir. Os nad ydych wedi rhoi unrhyw fagiau allan i'w casglu ar gyfer tri chasgliad yn olynol, byddwn yn cysylltu â chi i weld a oes angen y gwasanaeth arnoch mwyach.
Rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch gofynion, gall hyn gynnwys cymryd seibiant byr o'r gwasanaeth.
Ar ôl i chi roi gwybod am wastraff sydd heb ei gasglu, gadewch y gwastraff allan a byddwn yn dod i'w gasglu cyn gynted â phosibl.
Amcangyfrifir bod dros 1 filiwn o dunelli o gynhyrchion hylendid amsugnol yn cael eu gwaredu'n flynyddol yn y DU, ac mae cwmni Natural UK yng Nghapel Hendre wedi datblygu proses i adfer y deunydd plastig a seliwlos a fyddai wedi cael ei anfon o'r blaen i safleoedd tirlenwi.
Mae'r broses adfer yn glanhau ac yn gwahanu'r plastigau a'r ffibrau cellwlos i'w hailddefnyddio; mae'r ffibrau cellwlos yn cael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddibenion masnachol, gan gynnwys cynhyrchu byrddau ffibr a phaneli acwstig, ac mae'r plastigau yn cael eu hanfon at ailbroseswyr eilaidd i'w hailgylchu. Mae cynllun prawf hefyd ar y gweill lle mae'r ffibrau cellwlos o'r cewynnau yn cael eu defnyddio i roi wyneb newydd ar ffyrdd.
Drwy ddarparu casgliadau ar wahân, gallwn atal y math hwn o wastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi, a bydd hefyd yn helpu i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu.
Rydym wedi cyrraedd ein targedau blaenorol, ond mae angen gwneud rhagor os ydym am gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2025.
Os nad yw'r pecyn gwybodaeth y byddwn ni wedi ei anfon atoch yn cynnwys taflen wybodaeth am y casgliad newydd ar gyfer poteli gwydr a jariau, mae hyn yn golygu na fyddwn yn cyflwyno'r gwasanaeth casglu newydd hwn i'ch cartref ar hyn o bryd.
Pan fyddwn yn gallu casglu'r eitemau hyn o'ch cartref, byddwn yn cysylltu â chi cyn i'r newid hwn ddigwydd i ddweud wrthych pryd mae hyn yn digwydd a sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Am nawr, parhewch i fynd â'ch poteli gwydr a'ch jariau i'ch banc gwydr lleol i gael eu hailgylchu neu os oes gennych fan casglu gwydr cymunedol lle rydych yn byw, parhewch i ailgylchu eich gwydr gan ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Os byddwch yn rhedeg allan o fagiau glas neu fagiau leinio gwastraff bwyd cyn i ni ddosbarthu eich cyflenwad ar gyfer y flwyddyn nesaf, edrychwch i weld o ble y mae modd eu casglu.
Rydym wedi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael, ac mae'r ffordd fwyaf effeithlon a chost-effeithiol o gyflawni'r gwelliannau i'n gwasanaethau yn golygu bod yn rhaid i ni newid rhai diwrnodau casglu.
Ar gyfartaledd mae bron hanner cynnwys bagiau du yn gallu cael ei ailgylchu. Drwy gasglu eich bagiau glas yn amlach, a thrwy gasglu hyd yn oed mwy o eitemau i'w hailgylchu, fel gwydr, gwastraff hylendid a chewynnau, bydd gennych lai o wastraff na ellir ei ailgylchu i'w roi allan i'w gasglu yn eich bagiau du. Mae hyn yn golygu y dylech chi gael llai o fagiau du llawn i'w storio tan eich casgliad nesaf.
Gallwch roi hyd at 3 bag du allan bob 3 wythnos. Wrth brynu bagiau du, sicrhewch nad ydynt yn fwy na 60 litr o ran capasiti.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer ein casgliadau gwastraff hylendid a chewynnau am ddim, ewch i'n tudalen we.
Rhowch eich holl wastraff bwyd yn eich bin bwyd gwyrdd y gellir ei gloi a rhowch eich holl ddeunyddiau pecynnu bwyd y gellir eu hailgylchu - megis poteli plastig, potiau, tybiau a hambyrddau – yn eich bagiau glas, unwaith y byddwch wedi'u rinsio a'u sychu. Byddwn yn casglu eich gwastraff bwyd a bagiau glas bob wythnos, sy'n golygu na fydd llawer o wastraff yn eich bagiau du a fydd yn debygol o ddenu plâu.
Bydd defnyddio ein gwasanaeth casglu gwastraff hylendid a chewynnau ar wahân hefyd yn lleihau arogleuon drwy gadw'r eitemau hyn allan o'ch bagiau du. I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer ein casgliadau gwastraff hylendid a chewynnau am ddim, ewch i'n tudalen we.
Os oes angen i chi gael gwared ar unrhyw wastraff anifeiliaid anwes, rhowch y gwastraff mewn bag y tu fewn i fag arall yn eich bagiau du, a fydd yn lleihau'r arogleuon ymhellach.
Efallai y byddwch hefyd yn dewis storio'ch bagiau du llawn mewn bin sbwriel neu whilfin, yna rhowch eich bagiau du yn eich man casglu cyn 6am ar eich diwrnod casglu.
Ar gyfartaledd mae bron hanner cynnwys bagiau du yn gallu cael ei ailgylchu. Drwy gasglu eich bagiau glas yn amlach, a thrwy gasglu hyd yn oed mwy o eitemau i'w hailgylchu, fel gwydr, gwastraff hylendid a chewynnau, bydd gennych lai o wastraff na ellir ei ailgylchu i'w roi allan i'w gasglu yn eich bagiau du.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer ein casgliadau gwastraff hylendid a chewynnau am ddim, ewch i'n tudalen we.
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad, ewch i'n tudalen we bagiau du.
Os ydych chi'n ailgylchu popeth y gallwch gan ddefnyddio'ch bin gwastraff bwyd, eich bagiau glas, a'ch bocs du ar gyfer poteli gwydr a jariau (os yw'r gwasanaeth hwn yn berthnasol i chi), ac nad ydych yn dal i allu cynnwys eich lludw yn eich terfyn o 3 bag du, gallwch wneud cais am 'sticeri eithrio' i'w roi ar fagiau du ychwanegol yr hoffech eu rhoi allan i'w casglu.
Os ydych chi'n rhoi lludw yn eich bagiau du i ni eu casglu, a fyddech cystal â sicrhau mai dim ond traean llawn yw'r bagiau fel nad ydyn nhw'n rhy drwm ac anniogel i'n criwiau eu casglu a chofiwch sicrhau bod y lludw yn oer.
Trwy gyflwyno casgliadau deunydd ailgylchu sych a gwastraff bwyd wythnosol, dylai fod digon o le yn eich bagiau du ar gyfer eitemau na ellir eu hailgylchu.
Dylid mynd ag unrhyw wastraff ychwanegol i un o'n canolfannau ailgylchu.
Tipio anghyfreithlon yw gwaredu gwastraff y cartref neu wastraff masnach ar ffyrdd, mewn caeau, mewn afonydd, neu ar dir preifat heb ganiatâd. Mae'n anghyfreithlon.
Nid oes esgus dros dipio anghyfreithlon a chredwn y byddai'r mwyafrif o breswylwyr yn dewis peidio ag effeithio'n negyddol ar eu hardal leol fel hyn.
Yn gyffredinol, yr eitemau sy'n cael eu tipio'n anghyfreithlon yw eitemau swmpus neu wastraff masnach ac nid yw'r rhain yn rhan o'n gwasanaethau casglu gwastraff rydym yn eu darparu i aelwydydd.
Os oes angen cael gwared ar eitemau mawr y cartref fel gwelyau, carpedi, oergelloedd, rhewgelloedd, wardrobau ac ati arnoch, gallwch fynd â'r rhain i'ch canolfan ailgylchu leol. Rydym hefyd yn darparu casgliad gwastraff swmpus sy'n costio £25 am dair eitem.
Gall yr holl breswylwyr roi hyd at dri bag du allan yn unig bob tair wythnos, hyd yn oed os ydych chi fel arfer yn rhoi eich gwastraff mewn ardal gymunedol ochr yn ochr â bagiau du preswylwyr eraill.
Yn 2021, gwnaethom gyhoeddi arolwg i ymgynghori â'r holl breswylwyr am y newidiadau yr oeddem yn bwriadu eu gwneud i'r gwasanaethau casglu deunydd ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu rydym yn eu darparu i chi.
Gwnaeth 4,034 o ymatebwyr gwblhau'r arolwg.
Os oes angen bagiau glas ychwanegol neu fagiau leinio gwastraff bwyd arnoch yn y cyfamser, gallwch eu casglu nhw o un o'n mannau casglu.
Os oes angen rhoi gwybod am focs casglu gwydr sydd wedi'i ddifrodi neu sydd wedi torri, cwblhewch y ffurflen ar-lein
Na, defnyddiwch y bocs gwydr a ddarparwyd yn unig. Peidiwch â defnyddio'ch cynhwysydd storio eich hun na'ch hen focs ailgylchu glas gan nad yw'r rhain yn addas ar gyfer ein cerbyd casglu ac ni fyddent yn bodloni'r safonau diogelwch sy'n ofynnol. Gallwch ddefnyddio eich cynhwysydd eich hun i fynd ag unrhyw wydr sydd dros ben gennych i ganolfan ailgylchu.
Os oes gennych fwy o fagiau glas nag sydd eu hangen arnoch, rhowch nhw i deulu neu ffrindiau a allai fod eu hangen oherwydd bod ganddyn nhw fwy o bobl ar yr aelwyd ac felly yn debygol o gael mwy o eitemau i'w hailgylchu bob wythnos, neu ewch â nhw yn ôl i'ch Hwb agosaf.
Gallwch gael gwared ar unrhyw faw cŵn rydych chi'n ei godi wrth fynd am wâc mewn unrhyw fin sbwriel ar y stryd.
Gallwch hefyd roi unrhyw wastraff cath, ci neu anifail anwes arall, gan gynnwys gwasarn wedi'i ddefnyddio, yn eich bagiau du. Dylech roi'r gwastraff mewn bag y tu mewn i fag ac yna yn eich bag du yn gymysg â gwastraff arall y cartref.
Os byddai'n well gennych waredu'r gwastraff hwn yn amlach, gallwch fynd ag ef i'ch canolfan ailgylchu leol.
Gallwch ailgylchu unrhyw wastraff bwyd anifail anwes drwy ei roi yn eich bin bwyd gwastraff.
Os oes angen i chi gael gwared ar unrhyw damponau neu dywelion misglwyf wedi'u defnyddio, gallwch osod y rhain mewn bag cewynnau neu gynnyrch tebyg a'u rhoi nhw yn eich bagiau du, yn gymysg â gwastraff arall y cartref.
Os byddai'n well gennych waredu'r gwastraff hwn yn amlach, gallwch fynd ag ef i'ch canolfan ailgylchu leol.
Os nad ydych yn gallu rhoi eich gwastraff allan i'w gasglu, ffoniwch ni ar 01267 234567 a byddwn yn trafod opsiynau posib ar gyfer cymorth ychwanegol gyda chi.
Os ydych eisoes yn derbyn casgliad gwastraff â chymorth, bydd hyn yn parhau.
Ewch i Fy Ailgylchu Cymru i gael gwybod beth sy'n digwydd i'ch ailgylchu a'ch bagiau du ar ôl iddynt gael eu casglu.
Mae'r newidiadau rydyn ni'n eu gwneud yn fawr ac mae angen digon o amser i gynllunio ar eu cyfer a'u cyflawni.
Fe ddywedoch chi wrthym yn ystod ein cyfnod ymgynghori eich bod yn teimlo bod angen casgliadau poteli gwydr a jariau, yn ogystal â chasgliadau deunydd ailgylchu sych bob wythnos. Hoffem gyflawni'r newidiadau hyn cyn gynted â phosibl, ond er mwyn darparu'r gwasanaeth mwyaf ecogyfeillgar, effeithlon a chost-effeithiol posibl, bydd newidiadau eraill yn cymryd mwy o amser i'w rhoi ar waith.
Bydd eich poteli a’ch jariau gwydr yn cael eu hailgylchu i greu poteli a jariau newydd, neu eitemau gwydr eraill.
Os oes gennych boteli a jariau gwydr ychwanegol i’w hailgylchu na allwch chi eu ffitio yn eich bocs, naill ai daliwch afael ar y rhain tan eich casgliad nesaf neu ewch â nhw i’ch banc gwydr lleol. Yn anffodus ni allwn ddarparu bocsys ychwanegol, ond bydd y gwasanaeth casglu newydd hwn yn dod yn wasanaeth wythnosol yn 2024.
Os ydych chi wedi gor-lenwi eich bocs, heb wagio’ch poteli a’ch jariau, neu os yw eich bocs yn cynnwys eitemau anghywir, bydd ein criwiau yn gosod sticer arno yn gofyn i chi ddidoli ei gynnwys yn gywir mewn pryd ar gyfer eich casgliad nesaf, neu fel y gallwch fynd ag ef i’ch banc gwydr lleol.
Byddwn yn casglu eich bagiau du a’ch poteli a jariau gwydr mewn cerbydau ar wahân, ar adegau gwahanol rhwng 6am a 2pm ar eich diwrnod casglu. Peidiwch â rhoi gwybod am unrhyw gasgliadau a fethwyd tan ar ôl 2pm a gwiriwch ein gwefan am wybodaeth am unrhyw amhariadau i’n gwasanaethau casglu.
Mae sawl ffactor a allai fod wedi golygu nad ydych wedi cael eich bocs gwydr. Byddai canran fach o aelwydydd wedi cael pecyn gwybodaeth nad yw'n cynnwys taflen wybodaeth am y casgliad newydd ar gyfer poteli gwydr a jariau. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn cyflwyno'r gwasanaeth casglu newydd hwn i'ch cartref ar hyn o bryd.
Pan fyddwn yn gallu casglu'r eitemau hyn o'ch cartref, byddwn yn cysylltu â chi cyn i'r newid hwn ddigwydd i ddweud wrthych pryd mae hyn yn digwydd a sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Os ydych wedi cael pecyn gwybodaeth sy'n cynnwys taflen wybodaeth am wydr, rydym wedi bod yn dosbarthu'r bocsys, ynghyd â bagiau glas a bagiau leinio gwastraff bwyd, dros yr wythnosau diwethaf, ond mae rhai cartrefi'n rhoi gwybod nad ydynt wedi cael y rhain. Os nad yw'r rhain wedi'u dosbarthu i'ch cartref, cwblhewch y ffurflen ar-lein. Os ydych eisoes wedi llenwi ffurflen, peidiwch ag ailgyflwyno un gan ein bod yn dosbarthu'n ddyddiol a dylech gael eich eitemau yn y dyddiau nesaf.
Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i gasgliadau gwastraff domestig yn unig. Os ydych yn rhedeg busnes, bydd angen i chi wneud cais am gytundeb gwastraff masnach.
Nid ydym wedi newid ein bagiau gwastraff bwyd a chaiff y rhain eu prynu o fframwaith cenedlaethol safonedig sy’n cyrraedd safon ansawdd gymeradwy.
Gellir casglu rhagor o fagiau yn y mannau casglu.
Fel rhan o'r newid yn ein gwasanaeth, rydym wedi cynnal ymarfer i fodelu effaith carbon. Mae'r ymarfer hwn yn dangos y bydd y fethodoleg gasglu newydd yn arwain at arbed dros 200 tunnell o CO2 bob blwyddyn o gymharu â'r hen wasanaeth. Er bod yna gerbydau a symudiadau trafnidiaeth ychwanegol, bydd y budd net o ailgylchu mwy yn cael effaith gadarnhaol yn gyffredinol ar ein hôl troed carbon. Yn ogystal â hyn, mae'r newid hwn wedi ein galluogi i ddechrau ar ein taith o ddefnyddio cerbydau trydan ar gyfer gwasanaethau gwastraff.
Ailgylchu, Biniau a Sbwriel
Ailgylchu / casgliadau biniau
- Bagiau du
- Sbwriel heb ei gasglu
- A-Y o Ailgylchu
- Tarfu ar gasgliadau gwastraff/ailgylchu
- Negeseuon atgoffa am gasgliadau ar e-bost/neges destun
- Gwasanaeth casglu gwydr
Bagiau glas - Ailgylchu
Gwastraff bwyd
Gwastraff gardd
Canolfannau Ailgylchu
Beth sy'n digwydd i'ch ailgylchu
Cwestiynau Cyffredin - Ailgylchu a gwastraff
Gwastraff swmpus
Gwastraff busnes
Mwy ynghylch Ailgylchu, Biniau a Sbwriel