Mathau eraill o gompostio

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/01/2023

Mwydonfeydd

Defnyddir y rhain i gompostio symiau bychan o wastraff bwyd.  Maent yn ddefnyddiol os nad oes fawr ddim lle ar gael neu mewn iard fach neu ar batio bach lle nad oes gardd.  Mae modd gwneud y biniau eich hunan neu eu prynu mewn siop, ac mae mwydon arbennig ar werth ar gyfer eu defnyddio yn y biniau hyn.  Mae angen gofal ar y mwydon, ac mae'n rhaid sicrhau nad ydynt yn cael gormod o fwyd. 

Treulwyr

Mae biniau fel y  ‘Green Cone’ yn treulio yn hytrach na chompostio eich gwastraff bwyd. Mae'r gwaelod yn cael ei osod mewn twll rydych wedi ei gloddio yn y ddaear, gyda'r côn (sydd wedi ei inswleiddio) ar ei ben, ac mae'n edrych yn debyg i fin compost er nad oes compost yn cael ei greu. Mae'r bwyd yn pydru â chymorth powdwr sydd â bacteria ynddo ac sy'n hybu pydru yn ystod misoedd oer y gaeaf.   Mae'r bin wedi ei gynllunio mewn modd sy'n atal llygod mawr rhag cyrraedd y cynnwys; felly, yn wahanol i fin compostio arferol, gallwch roi gwastraff cig a bwyd wedi ei goginio yn y math hwn o fin.

Epleswyr

Bokashi  Mae micro-organebau effeithiol o'r enw ‘E.M. Bokashi’ (sef math o facteria llesol) yn cael eu hychwanegu at gymysgedd o fran. Mae'r dull hwn yn gweithio trwy eplesu'r gwastraff bwyd yn hytrach na'i fod yn pydru ac yn denu llygod mawr.  Caiff yr holl wastraff bwyd - gan gynnwys cig a bwyd wedi ei goginio - ei roi mewn bwcedi sydd â chloriau arnynt, gan daenu ychydig o'r bran dros y gwastraff. Yna mae'n cael ei adael i eplesu cyn ei roi yn eich bin compost arferol neu ei gladdu yn y ddaear.  Mae modd defnyddio'r hylif a fydd yn crynhoi yn y bwced i glirio draeniau neu gallwch ychwanegu dŵr ato a'i ddefnyddio i wrteithio planhigion. Mae nifer o gwmnïau ar gael ar-lein sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am y dull hwn ac yn gwerthu nwyddau Bokashi.

Deilbridd

Os oes gennych ormod o ddail i'w rhoi yn eich bin compostio, gallwch eu crynhoi a'u gwlychu â dŵr os ydynt yn sych ac yna eu gosod mewn sachau duon.  Tyllwch ychydig dyllau yn y bag er mwyn i aer gyrraedd y dail ac yna gosod y bag mewn man o'r neilltu yn yr ardd a'i adael am flwyddyn neu ddwy.  Gallwch ddefnyddio'r deilbridd hwn i wella ansawdd y pridd neu fel taenfa ar wyneb y pridd, ond gorau po hiraf y gadewch y deilbridd yn y bag cyn ei ddefnyddio.  Os oes gennych ddeilbridd sy'n ddwy oed neu'n hŷn gallwch ei gymysgu â thywod a chompost gardd (bob o draean) i wneud compost potio ar gyfer tyfu planhigion a hadau.