Bagiau du

Diweddarwyd y dudalen ar: 25/04/2024

Cesglir sbwriel cyffredinol y cartref, hynny yw sbwriel na ellir ei ailgylchu na'i gompostio, mewn bagiau du. Nid yw'r rhain yn cael eu darparu gan y Cyngor, felly mae angen i chi eu prynu eich bagiau eich hun. Gallwch roi hyd at 3 bag du allan bob 3 wythnos, felly mae ailgylchu yn bwysicach nag erioed.

I sicrhau bod eich bagiau'n cael eu casglu:

  • Edrychwch ar eich diwrnod/wythnos casglu ar y dudalen isod a rhowch eich bagiau allan y noson cyn eich casgliad, neu cyn 6am ar y diwrnod casglu.
  • Rhowch hyd at 3 bag allan a defnyddiwch fagiau du safonol eu maint yn unig, nid bagiau leinio i whilfiniau.
  • Sicrhewch nad ydynt yn rhy drwm - os oes gennych wastraff lludw, darllenwch yr adran honno isod.
  • Os ydych yn cael gwared ar faw ci, sicrhewch ei fod mewn bag oddi mewn i'r bag a'i fod yn gymysg â mathau eraill o wastraff
  • Peidiwch â rhoi eich bagiau mewn whilfiniau. Ni chânt eu casglu am resymau iechyd a diogelwch. Byddwn yn casglu o finiau sbwriel cyffredin os yw'r gwastraff mewn bag.
  • Peidiwch byth â rhoi gwrthrychau miniog yn eich bagiau, gallant anafu ein criw.
  • Peidiwch â rhoi batris mewn bagiau du, gan eu bod yn risg tân bosibl.
  • Peidiwch â rhoi gwastraff gardd mewn bagiau du. Darllenwch yr adran isod.
  • Peidiwch â rhoi gwastraff clinigol mewn bagiau du. Darllenwch yr adran isod.

Os ydych yn cael trafferth cadw at y terfyn 3 bag, edrychwch ar y rhesymau posibl isod i gael cyngor ac opsiynau pellach. Gallwch hefyd fynd â bagiau du i ganolfan ailgylchu, ond rhaid i chi wahanu unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu yn gyntaf, neu gofynnir i chi eu gwahanu ar y safle. 

Bydd angen bagiau glas arnoch chi ar gyfer eich gwastraff ailgylchu cymysg, bin bwyd a chadi cegin ar gyfer eich gwastraff bwyd. Rydym yn dosbarthu bagiau glas a bagiau leinio ar gyfer cadis bwyd bob blwyddyn i bob aelwyd, rhwng mis Hydref a mis Mawrth fel arfer. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gallwch weld pryd bydd eich bagiau'n cael eu dosbarthu ar ein tudalen we. Os ydych chi'n rhedeg allan neu newydd symud i mewn, gallwch gasglu rholyn o un o'n hybiau gwasanaethau cwsmeriaid neu un o'n mannau casglu preifat. Dilynwch y ddolen i ddod o hyd i un a gweld beth allwch chi ei godi yno.

BAGIAU GLAS

Rydym yn darparu cadi cegin bach a bin bwyd gwyrdd i'w osod allan i'w gasglu. Y ffordd gyflymaf o gael bin bwyd newydd yw drwy ddod i un o'n Hybiau Gwasanaethau Cwsmeriaid. Fel arall gallwch archebu un ar-lein.

ARCHEBU CADI/BIN BWYD

DYSGU RHAGOR AM WASTRAFF BWYD

Mae ein A-Y o ailgylchu yn cynnig cyngor ar sut i leihau eich gwastraff yn ogystal â beth i'w ailgylchu a ble. Os nad ydych yn siŵr o hyd, cysylltwch â ni a bydd ymgynghorydd ailgylchu yn eich helpu.

A-Y O AILGYLCHU

CYSYLLTWCH Â NI 

 

Peidiwch â llenwi mwy na 1/3 o'ch bagiau du gyda lludw. Os gwnewch chi, gallen nhw dorri ac mae'n anoddach fyth i'n criw eu cario a'u codi i fyny i'r cerbyd casglu. Os ydych yn ailgylchu popeth y gallwch ac mae gennych fwy na 3 bag du oherwydd gwastraff lludw, gallwch wneud cais am sticeri eithrio i'w rhoi ar eich bagiau ychwanegol.

GWNEUD CAIS AM EITHRIAD

 

Rydym yn darparu casgliad rhad ac am ddim ar wahân ar gyfer gwastraff cewynnau. Dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais


CASGLIADAU CEWYNNAU

Os ydych chi'n deulu o 6 neu fwy ac yn ailgylchu popeth y gallwch, ond mae gennych fwy na 3 bag du o hyd; gallwch wneud cais am sticeri eithrio i'w rhoi ar hyd at 3 bag ychwanegol. Os oes gennych wastraff cewynnau, gwnewch gais am y gwasanaeth hwnnw'n gyntaf gan ei bod yn bosibl y gallwch gadw at y terfyn 3 bag wedyn.

GWNEUD CAIS AM EITHRIAD

Os oes gennych chi badiau anymataliaeth neu fagiau colostomi/stoma, mae gennym gasgliad gwastraff hylendid ar wahân, am ddim ar gyfer y gwastraff hwn. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei gasglu a sut i wneud cais, dilynwch y ddolen hon

GWASTRAFF HYLENDID

Ni all gwastraff clinigol e.e. swabiau, rhwymynnau, neu offer miniog fynd i'ch bagiau du ac mae'n rhaid iddo gael ei gasglu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Os oes angen casglu'r math hwn o wastraff o'ch cartref, defnyddiwch y ddolen isod neu ffoniwch 01269 845554.

hywel dda

Gellir ailgylchu poteli a jariau gwydr mewn banc ailgylchu lleol. Os nad ydych yn gallu cyrraedd banc ailgylchu yn gorfforol a bod gennych chi neb i'w hailgylchu ar eich cyfer, gallwch chi eu rhoi yn eich bag du. Cofiwch fod yn arbennig o ofalus gydag unrhyw eitemau sydd wedi torri gan eu bod yn gallu anafu ein criw. Lapiwch gwydr sydd wedi torri yn ddiogel neu ei roi mewn bocs cardbord cyn ei roi yn eich bag du. Am fathau eraill o wydr, gweler ein A-Y o ailgylchu.

DOD O HYD I FANC AILGYLCHU

A-Y O AILGYLCHU

Ni all gwastraff gardd fynd yn eich bagiau du, er ei fod yn naturiol. Bydd yn achosi problemau i'r amgylchedd os bydd yn mynd i safle tirlenwi. Er hynny, mae ffyrdd eraill o'i gompostio sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd:

Compostio cartref - rydym yn gwerthu biniau compost cost isel, darganfyddwch am ffyrdd o gompostio a sut i brynu bin.
Mynd â'ch gwastraff gardd am ddim i un o'n canolfannau ailgylchu
Gwneud cais am ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd

Gall unrhyw wastraff bwyd anifeiliaid anwes fynd yn eich cadi bwyd. Gallwch fynd ag unrhyw ddeunydd gwelyau anifeiliaid anwes neu wasarn cathod i ganolfan ailgylchu. Nid ydym yn rhoi lwfansau ychwanegol ar gyfer y math hwn o wastraff mewn bagiau du. Mae yna opsiynau gwasarn cathod y gellir ei gompostio gartref a allai leihau faint sydd angen i chi ei roi yn eich bagiau du. Os ydych chi'n rhoi baw anifeiliaid anwes yn eich bag du, gwnewch yn siŵr ei fod mewn bag oddi mewn i'r bag a'i fod yn gymysg â mathau eraill o wastraff.

Os ydych chi'n mynd â'r gwastraff i ganolfan ailgylchu, rydym yn cynghori eich bod yn rhoi hyn mewn bag ar wahân gan ei bod yn bosibl y bydd eich bagiau'n cael eu gwirio ac efallai y gofynnir i chi wahanu unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu.

canolfannau ailgylchu

Anfonwch e-bost at TSAilgylchu@sirgar.gov.uk neu defnyddiwch y ddolen isod.

CYSYLLTU Â NI