
Gwasanaeth casglu gwydr
Mae'r rhan fwyaf o gartrefi yn cael bocs du ar gyfer ailgylchu gwydr. Caiff ei gasglu bob 3 wythnos ar yr un diwrnod â'ch bagiau du. Nodwch eich côd post isod i weld a yw eich cartref yn derbyn casgliad.
Cofiwch:
Gwagiwch eich poteli a’ch jariau gwydr a’u rinsio’n gyflym. Rhowch unrhyw gapiau potel metel neu gaeadau jariau yn eich bagiau glas, gadewch unrhyw labeli arno.
Rhowch eich poteli a’ch jariau gwydr yn eich bocs newydd yn rhydd, nid mewn bagiau plastig.
Peidiwch â gorlenwi eich bocs na rhoi unrhyw wydr ychwanegol allan.
Rhowch eich bocs yn eich man casglu cyn 6am ar eich diwrnod casglu.
Casglwch eich bocs o’ch man casglu ar ôl i ni ei wagio.