Casgliad gwastraff â chymorth

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/11/2024

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ei chael hi'n anodd rhoi gwastraff a deunyddiau ailgylchu allan i'w casglu, efallai y gallwn ni helpu gyda chasgliad gwastraff â chymorth. Mae angen cwblhau cais a chael asesiad o'r eiddo cyn y gellir darparu'r gwasanaeth.

I fod yn gymwys, mae'n rhaid i'r person sydd angen y gwasanaeth:

bod â chyflwr meddyliol neu gorfforol oherwydd salwch, oedran neu anabledd sy'n ei atal rhag mynd â'r cynwysyddion gwastraff neu fagiau i'r man casglu.
byw ar ben ei hun neu’n byw gydag eraill nad ydynt yn gallu mynd â'u gwastraff i fan casglu, oherwydd yr un rhesymau a nodir uchod.
bod heb unrhyw gefnogaeth gan deulu, ffrindiau, neu eraill sy'n gallu helpu i roi gwastraff allan i'w gasglu.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi uwchlwytho dogfennau ategol mewn perthynas â'r ymgeisydd/ymgeiswyr. Gallai hyn gynnwys y canlynol os yw'n berthnasol i'r person neu'r personau sydd angen y gwasanaeth:

Copi o Fathodyn Glas yr ymgeisydd.
Llythyr dyfarnu ar gyfer cyfradd uwch y lwfans byw anabledd neu lythyr dyfarnu Taliad Annibyniaeth Personol.
Llythyr meddygol yn nodi bod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall.
Llythyr meddyg yn dangos diagnosis o salwch meddwl difrifol.
Copi o fil neu lythyr y dreth gyngor yn enw'r ymgeisydd (yn dangos gostyngiad meddiannaeth sengl)
Llythyr apwyntiad gan ymgynghorydd/arbenigwr mewn perthynas â chyflwr sy'n effeithio ar allu'r ymgeisydd i gario'r gwastraff allan i'w gasglu.

GWNEUD CAIS AM GASGLIAD GWASTRAFF Â CHYMORTH

I weld sut mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio'r data personol a gesglir drwy'r ffurflen hon, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Os caiff ei gymeradwyo, byddwn yn cysylltu â chi bob 3 blynedd i wirio bod angen cymorth arnoch o hyd a rhoi cyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud.  Gallwch hefyd wneud cais am gymorth oherwydd cyflwr dros dro, am gyfnod o 6 mis.

Os na allwch gwblhau'r cais eich hun ar-lein, gallwch gael rhywun arall yr ydych yn ymddiried ynddo i wneud cais ar eich rhan, ond bydd angen i’r person hynny gael mynediad at y dogfennau personol perthnasol a restrir uchod. 

Fel arall, gallwch ffonio 01267 234567 am gymorth, gwnewch yn siŵr bod gennych unrhyw ddogfennau perthnasol wrth law.

Pan fyddwch wedi gwneud cais, cofiwch os ydych yn newid cyfeiriad, angen atal neu ganslo'r gwasanaeth cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i TSWasteOps@sirgar.gov.uk