Glanhau mewn 2 funud - lleoliadau byrddau
Wedi cael llond bol o sbwriel? Os ydych chi allan yn cerdded a bod gennych chi ychydig o funudau yn rhydd, beth am fynd ati i gasglu sbwriel? Rydyn ni wedi ymuno â The 2 Minute Foundation i ddarparu ffyn codi sbwriel o amgylch y Sir. Y cyfan rydyn ni'n ei ofyn yw eich bod chi'n cofio dychwelyd y ffyn codi sbwriel er mwyn i rywun arall eu defnyddio ar ôl i chi orffen a'ch bod yn gosod unrhyw sbwriel rydych chi'n ei gasglu yn y bin sbwriel.
Os oes gennych unrhyw fagiau plastig sbâr gartref, gallwch eu rhoi i geidwad y bwrdd. Dysgwch fwy am The 2 Minute Foundation a'i ymgyrch.
Os ydych chi eisiau codi sbwriel yn fwy rheolaidd cysylltwch â ni at: prideinyourpatch@sirgar.gov.uk i weld pa gymorth gallwn ni ei roi i chi.
Cliciwch ar yr eicon i gael mwy o fanylion.