Graffiti
Rydym yn gyfrifol am waredu graffiti o fannau cyhoeddus ac o adeiladau cyhoeddus. Hefyd rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys i gael gwared ag unrhyw graffiti hiliol, rhywiaethol neu sarhaus cyn gynted â phosibl.
Gallwn estyn cyngor ynghylch cael gwared â graffiti sydd ar adeiladau preifat, a gallwn roi dyfynbrisiau am waith preifat i'r sawl sy'n gofyn am hynny.
Nid yw ein hoffer cael gwared â graffiti yn defnyddio cemegion niweidiol, gan ein bod yn gweithio mewn modd sy’n gydnaws â’r amgylchedd. Defnyddiwn ystod o dechnegau, gan amrywio o sebon a dŵr i ddefnyddio chwistrelliad mân o ddŵr ar y cyd â soda pobi. Rydym yn gwneud gwaith arbenigol o ran cael gwared â graffiti o furluniau, a hefyd rydym yn defnyddio paent atal-graffiti i ddiogelu gwaith celf cyhoeddus.
Yn ogystal byddwn yn cymryd camau ynghylch troseddau graffiti, a hynny naill ai trwy roi hysbysiad cosb benodedig i'r unigolyn oedd wedi achosi'r graffiti neu drwy ddwyn achos llys yn ei erbyn.
Ailgylchu, Biniau a Sbwriel
Ailgylchu / casgliadau biniau
Bagiau glas - Ailgylchu
Gwastraff bwyd
Gwastraff gardd
- Gwneud cais am wasanaeth casglu gwastraff gardd
- Adnewyddu eich gwasanaeth casglu gwastraff gardd
- Canslo'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd
- Rhoi gwybod am fin sydd wedi'i ddifrodi/bin sydd ar goll
- Cwestiynau Cyffredin
Canolfannau Ailgylchu
Mwy ynghylch Ailgylchu, Biniau a Sbwriel