Cymoni eich Cymuned
Mae Cymoni eich Cymuned yn brosiect partneriaeth i alluogi preswylwyr i weithredu yn eu cymunedau ac i gynorthwyo â materion yn ymwneud â sbwriel, baw cŵn a thipio anghyfreithlon. Gallwn ni eich helpu chi i wella eich ardal drwy gynnig cymorth, offer a chyngor arbenigol ynghylch:
codi sbwriel
gwaredu sbwriel sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon
gwaith cymoni cyffredinol
strimio a chwynnu
sicrhau bod y lle'n fwy addas ar gyfer bywyd gwyllt
Gallwch wirfoddoli fel unigolyn neu fel grŵp a gwneud cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch - eich dewis chi yw e! Rydyn ni'n cynorthwyo gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, elusennau cofrestredig a sefydliadau nid er elw i lanhau llecynnau o dir cyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, dilynwch y dolenni isod neu anfonwch neges e-bost atom: prideinyourpatch@sirgar.gov.uk.