Baw cŵn
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/05/2024
Mae'n rhaid i chi godi baw eich ci ym mhob man cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin. Cofiwch waredu eich baw ci yn ofalus. Os ydych yn mynd am dro, defnyddiwch y nifer o finiau sbwriel cyhoeddus sydd ar gael ym mhob rhan o'r sir.
Os yw'n bosibl, ceisiwch annog eich ci i fawa yn eich gardd (gall gwneud hyn pan yw'n ifanc iawn helpu). Gallwch brynu blychau baw a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer cŵn (‘doggy loos’). Mae hwn yn gweithio'n union fel bin. Mae'n cael ei gladdu'n rhannol yn yr ardd – ond ni fydd angen ichi ei wagio byth, gan y bydd natur yn gofalu bod y baw'n dadelfennu ac yn mynd i'r pridd heb wneud unrhyw niwed. Mae'r blychau ar gyfer baw cŵn yn cael eu gwerthu mewn nifer o siopau anifeiliaid anwes lleol a gellir hefyd eu harchebu dros y ffôn neu ar-lein gan gyflenwyr sy'n gwerthu nwyddau ar gyfer anifeiliaid anwes.
Os oes yn rhaid i chi gael gwared ar faw ci drwy ei roi yn eich bag du, sicrhewch ei fod wedi ei lapio'n dda a'i fod yn gymysg â mathau eraill o wastraff.
Codi, Bagio a Binio'r Baw!
- Cadwch gyflenwad o fagiau plastig wrth ymyl tennyn eich ci (mae bagiau plastig o'r archfarchnad yn rhawiau baw rhagorol) fel na fyddwch yn eu hanghofio pan ewch am dro. Rhowch eich llaw yn y bag plastig a chodwch faw eich ci.
- Yn ofalus, trowch y bag plastig y tu mewn allan a bydd eich baw ci yn y bag.
- I waredu eich bag rhowch ef mewn bin sbwriel cyhoeddus.
Os ydych yn gweld rhywun sy'n methu â glanhau ar ôl eu ci, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib.
Os ydych yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ymunwch â'n hymgyrch ar Facebook a Twitter - gallech chi helpu ni i gyrraedd miloedd o bobl! Postiwch eich neges, lluniau neu fideos gan ddefnyddio'r hashnod #BagioBinio. Byddwn yn cadw llygad barcud am eich postiadau ac yn rhannu/aildrydar eich lluniau a'ch fideos - diolch am ein helpu ni i godi ymwybyddiaeth.
Ailgylchu, Biniau a Sbwriel
Ailgylchu / casgliadau biniau
- Bagiau du
- Sbwriel heb ei gasglu
- A-Y o Ailgylchu
- Tarfu ar gasgliadau gwastraff/ailgylchu
- Negeseuon atgoffa am gasgliadau ar e-bost/neges destun
- Gwasanaeth casglu gwydr
Bagiau glas - Ailgylchu
Gwastraff bwyd
Gwastraff gardd
Canolfannau Ailgylchu
Beth sy'n digwydd i'ch ailgylchu
Newidiadau i gasgliadau ailgylchu a biniau yn y dyfodol
Cwestiynau Cyffredin - Ailgylchu a gwastraff
Gwastraff swmpus
Gwastraff busnes
Mwy ynghylch Ailgylchu, Biniau a Sbwriel