Camsyniadau a chynghorion

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/01/2023

Mae cewynnau go iawn yn anghyfleus

Mae cewynnau tafladwy yn gyfleus iawn, yn arbennig ar wibdeithiau a gwyliau, sef eu diben gwreiddiol. Mae cewynnau go iawn yn haws eu defnyddio bellach.

Fodd bynnag, a dim ond dau lond peiriant ychwanegol yr wythnos (60oC) y bydd eu hangen i'w golchi. Does dim eisiau mwy o amser i newid rhai mathau o gewynnau go iawn.

Os defnyddiwch chi gewynnau go iawn, fydd dim rhaid ichi fynd i'r siop bob tro i brynu rhai newydd.

Mae cewynnau go iawn yn gollwng dŵr

Ddylai cewynnau go iawn ddim gollwng dŵr. Os ydyn nhw, bydd yn hawdd datrys problem o’r fath trwy ofyn ychydig o gwestiynau syml:

  • Olchoch chi’r cewynnau cyn eu defnyddio? Po fwyaf o olchi, mwyaf o ddŵr y byddan nhw'n ei sugno.
  • Ydyn nhw'n ffitio?  Gofalwch nad yw'r cewynnau'n rhy fawr neu'n rhy fach.
  • Beth yw siâp corff y baban? e.e. yn achos baban 8 pwys tal a thenau, er enghraifft, efallai na fydd y cewyn yn ffitio a rhaid aros nes ei fod yn magu ychydig o bwysau. Yn achos baban 8 pwys byr, sydd â choesau lletach, efallai y bydd angen cewyn mwy.
  • Pa mor aml byddwch chi'n newid y cewynnau? Os yn llai aml na phob 4 awr, efallai bydd eu newid yn amlach yn helpu. O'u newid yn rheolaidd, os yw'r baban yn dal yn wlyb, rhowch gynnig ar badiau sugno neu gewynnau bambŵ, sy'n sugno rhagor. Os dros nos maen nhw'n gollwng, defnyddiwch badin ychwanegol, padiau sugno, er enghraifft. Gall cewynnau go iawn bara 12 awr dros nos gyda phadin addas.
  • Ydy'r cewyn i'w weld tu allan i'r gorchudd dwrglos?  Gofalwch fod popeth yn dwt y tu mewn i'r gorchudd.
  • Yn olaf, os yw popeth arall yn edrych yn iawn, ydy'r gorchudd dwrglos wedi'i wneud o gotwm? Mae cotwm yn amsugnydd naturiol a gallai unrhyw wlybaniaeth gael ei ddenu at y gorchudd - gallai clawr gwrth-ddŵr gwahanol helpu.

Mae cewynnau go iawn yn achosi brech clytiau

Fydd y math o gewyn ddim yn effeithio ar ba mor aml y daw brech clytiau. Gan fod troeth yn ddi-haint, fydd e ddim yn achosi brech clytiau.

Carthion sy'n ei achosi ac felly dylech newid y cewyn yn aml (tua 5-8 gwaith bob dydd). Pan fo'r baban yn gwagio ei berfedd, rhaid newid y cewyn yn ddiymdroi.

Er nad yw cewynnau go iawn yn achosi brech clytiau, os daw, dylech adael y baban heb gewynnau am sbel fel y gall ei groen anadlu.

Fel arall, gallech ddefnyddio eli i rwystro dŵr rhag gwaethygu cyflwr y croen neu leinin fflîs/cewyn poced a fydd yn cadw croen y baban rhag gwlychu.

Mae cewynnau go iawn yn rhy swmpus

Mae rhai cewynnau go iawn yn fwy swmpus na'r rhai tafladwy ond dyw hynny ddim yn anfantais am fod cluniau'r baban yn cael eu cynnal ar yr ongl iawn. Yn achos babanod sydd newydd ddechrau cerdded, gall y padin ychwanegol helpu i ddiogelu bôn yr asgwrn cefn.

Alla i ddefnyddio cewynnau go iawn dros nos?

Does dim rheswm pam na allwch chi ddefnyddio cewynnau go iawn dros nos. Mae deunyddiau megis bambŵ yn sugno 60% mwy na chotwm. Os gwelwch chi fod y cewyn yn gollwng am fod gormod o ddŵr ynddo, gallwch roi rhagor o badin ynddo trwy ychwanegu padiau sugno.