Sut i wneud compost

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/06/2023

Mae'r cyfan yn ymwneud â chael y gymysgedd gywir, mae'r deunyddiau compostio yn disgyn mewn dau categori:

Pethau gwyrdd

  • Porfa, Chwyn, Crwyn ffrwythau a chrafion llysiau, Bagiau te, Gwaddodion coffi, Blodau, Planhigion, Torion o'r berth, Wrin, Tail

Pethau brown

  • Dail wedi gwywo, Papur a chardbord wedi eu crychu, Masgl wyau, Tiwbiau papur cegin/papur tŷ bach, Blychau wyau cardbord, Torion prennaidd, Coesynnau a brigau, Sglodion pren, Llwch lli, Gwair sych

Bydd arnoch angen rhyw 50:50 o'r uchod - os bydd gormod o leithder bydd cynnwys y domen yn troi'n ffiaidd ac yn drewi, ac os bydd yn rhy sych bydd yn cymryd amser maith i bydru.   Dylai'r deunyddiau fod yn llaith ond dylai fod digonedd o aer yn y cymysgedd - gall cardbord wedi ei grychu helpu i ddal aer yn y domen.

Peidiwch â rhoi bwyd wedi ei goginio na gwastraff cig yn y domen, gan y gallai'r rhain ddenu llygod mawr ac ati.  Am yr un rheswm peidiwch â chynnwys dim tail na sarn anifeiliaid anwes, oni bai fod gan eich anifail anwes ddiet llysieuol.

Ymhle y dylwn roi'r bin?

Man heulog sydd orau, er bod y bin yn gweithio yn y cysgod hefyd ond gallai gymryd rhagor o amser. Yn ddelfrydol dylai'r bin fod ar bridd er mwyn i bryfed a thrychfilod allu mynd i mewn i'r bin.

Gallwch roi'r bin ar gerrig mân ond, os oes haenen blastig o dan y cerrig mân, mae'n werth gwaredu'r plastig o dan y bin er mwyn i bryfed a thrychfilod allu mynd i mewn i'r bin.

Cofiwch y byddwch yn llenwi'r bin â gwastraff o'r gegin yn ogystal ag o'r ardd, felly rhoddwch y bin mewn man hwylus ei gyrraedd.

Gall y bin weithio ar goncrit os rhoddwch chi rywfaint o bridd neu rywfaint o gompost o fin rhywun arall ar y gwaelod er mwyn ysgogi'r cymysgedd i ddechrau gweithio.

Bydd mwydon yn symud i'r bin yn enwedig os oes gennych haenen o gardbord llaith wedi ei grychu. Os ydych yn bwriadu rhoi'r bin ar goncrit, cofiwch y bydd hylif yn gollwng ohono ac fe allai staenio'r concrit.