Cwestiynau Cyffredin - Ailgylchu a gwastraff

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/08/2024

Dylai'r cwestiynau cyffredin canlynol ateb unrhyw gwestiynau posibl sydd gennych ynglŷn ag ailgylchu, binau a sbwriel. Cysylltwch drwy'r tab "Gofyn cwestiwn" os oes unrhyw beth y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnoch amdano.

Canolfannau ailgylchu

Oriau agor yr Haf (Ebrill 1 - Medi 30) Oriau agor y gaeaf (Hydref 1 – Mawrth 31)

Mae canolfan ailgylchu Llanelli ar agor saith diwrnod yr wythnos

Mae canolfannau ailgylchu Nantycaws, Caerfyrddin a Wernddu, Rhydaman ar agor chwe diwrnod yr wythnos, ac ar gau ar ddydd Mawrth

Mae canolfan ailgylchu Hendy-gwyn ar Daf ar agor bum niwrnod yr wythnos, ac ar gau ar ddydd Mercher a dydd Iau

Gweler ein tudalen we am oriau agor a chau safleoedd unigol dros wyliau banc

Bydd angen i chi ddod â'r canlynol i'w dangos i'r gweithiwr ar y safle cyn mynd i mewn:

Ar ôl mynd i mewn i'r ganolfan ailgylchu, bydd gweithiwr safle yn gofyn am gael gweld copi o'ch hawlen. Ar ôl ei dilysu, gofynnir i chi ei rhoi mewn blwch casglu ar y safle.

Yn anffodus, ni all staff y safle helpu i symud eitemau o unrhyw gerbydau, ond gallwch ddod â rhywun gyda chi i helpu i ddadlwytho'ch gwastraff, neu gallwch roi gwybod i un o staff y safle fod angen i chi adael eitem drom neu swmpus ar y llawr. Yna bydd y staff yn rhoi'r gwastraff yn y cynhwysydd cywir.

Gallwch, ond bydd yn rhaid iddynt aros yn y cerbyd. 

Ewch i wefan CWM Environmental i weld rhestr o'r hyn y gallwch fynd ag ef i'r safle hwn neu defnyddiwch ein A-Y ailgylchu.

Os oes gennych fwy na 3 bag, gallwch fynd â'r bagiau ychwanegol i ganolfan ailgylchu. 
  
Os oes angen i chi ddod â bagiau du, dylech eu sortio gartref a sicrhau nad ydynt yn cynnwys unrhyw beth y gellir ei ailgylchu naill ai yn y ganolfan neu yn eich bagiau glas.

Ceisiwch ailgylchu cymaint ag y gallwch a helpwch ni i leihau faint o sbwriel sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Os nad ydych yn sicr am yr hyn y gellir ei ailgylchu, edrychwch ar adran A-Y ailgylchu ar ein gwefan.

 

Mae modd ailgylchu'r rhan fwyaf o eitemau'r cartref, un ai yn eich bag glas, yn eich bin gwastraff bwyd, yn y banciau ailgylchu neu yn ein canolfannau ailgylchu. Nid oes hawl i roi unrhyw beth sy'n gallu cael ei ailgylchu yn eich bagiau du.

Fodd bynnag, nid yw rhai eitemau yn gallu cael eu hailgylchu a dylech eu rhoi yn eich bag du. Mae hyn yn cynnwys pethau fel gwasarn cathod, hancesi papur, clytiau ystafell ymolchi / cegin a chynnwys eich hwfer.

Gallwch wirio pa eitemau y gallwch eu hailgylchu yn ein rhestr A-Y ailgylchu.

Ar gyfartaledd mae bron hanner cynnwys bagiau du yn Sir Gaerfyrddin yn gallu cael ei ailgylchu. Drwy wahanu'r deunydd ailgylchadwy hyn, rydym yn gobeithio cynyddu ein cyfradd ailgylchu gyffredinol, a helpu Sir Gaerfyrddin i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2025 ac osgoi dirwy sylweddol.

Rydym yn argymell eich bod yn didoli eich bagiau du gartref cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Gwahanwch eitemau sy'n gallu cael eu rhoi mewn biniau unigol yn y ganolfan ailgylchu megis gwydr, papur / cardbord, dillad ac esgidiau, gwastraff gardd ac ati.

Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref hefyd, un ai yn eich bag glas neu yn eich bin bwyd gwyrdd.

Gallwch wirio pa eitemau y gallwch eu hailgylchu yn ein rhestr A-Y ailgylchu.

Mae man penodedig ym mhob un o'n canolfannau ailgylchu. Gallwch chi rhoi eich eitemau i'w hailgylchu yn y biniau sydd wedi'u labelu yn y mannau hyn. Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, mae ein staff wrth law i'ch helpu.

Rydym yn argymell eich bod yn didoli eich bagiau du gartref cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref, naill ai yn eich bag glas neu yn eich bin gwastraff bwyd.

Mae modd ailgylchu eitemau eraill megis gwydr a dillad yn y ganolfan ailgylchu neu mewn banciau ailgylchu llai. Cofiwch wahanu'r rhain cyn dod fel eu bod yn barod i'w rhoi yn y man/bin cywir.

Gallwch wirio pa eitemau y gallwch eu hailgylchu yn ein rhestr A-Y ailgylchu.

Rydym yn argymell eich bod yn didoli deunyddiau y gellir eu hailgylchu oddi wrth y deunyddiau na ellir eu hailgylchu cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref, un ai yn eich bag glas neu yn eich bin gwastraff bwyd.

Mae modd ailgylchu eitemau eraill megis gwydr, dillad ac eitemau trydanol bach yn y ganolfan ailgylchu neu mewn banciau ailgylchu llai.

Edrychwch ar y A-Y o Ailgylchu i gael gwybod beth y gellir ei ailgylchu.

Os byddwch yn dod â bagiau du i'r ganolfan ailgylchu, bydd angen i chi eu sortio nhw yn ein mannau didoli pwrpasol. Byddwch yn cael menig, ffedogau, gefeiliau a chwistrell gwrthfacteria a bydd biniau wedi'u labelu ar gael er mwyn i chi roi eich deunyddiau ailgylchadwy ynddynt. Bydd arwyddion yn y mannau didoli yn egluro'r hyn y mae angen i chi ei wneud, ond os ydych yn ansicr, bydd staff wrth law i roi cyngor.

 

Os oes eitemau yn eich bag du nad ydynt yn gallu cael eu hailgylchu ac os nad ydych yn gyfforddus ag agor y bag yn y ganolfan ailgylchu, rhowch y bag allan i'w gasglu wrth ymyl y ffordd.

Bydd yn rhaid agor unrhyw fagiau du yr ydych yn dod â nhw i'r ganolfan ailgylchu.

Gallwch waredu’r hyn sy'n cyfateb i hyd at dri bag o blastrfwrdd y mis a hyd at dri bag o asbestos y flwyddyn. Mae'n rhaid i asbestos gael ei roi mewn bag o fewn bag, ond mae'n rhaid i blastrfwrdd fod yn rhydd. Holwch y staff am hyn ar ôl cyrraedd.

Dim ond i Nant-y-caws y gallwch ddod â haenau o asbestos neu symiau mawr o blastrfwrdd ac asbestos rhydd. Bydd angen i chi fynd â'r deunydd dros y bont bwyso a thalu'r tâl gwaredu priodol. Ffoniwch 01267 275536 i weld y ffioedd gwaredu diweddaraf.

 

Peidiwch â neidio'r ciw, oni bai bod staff y safle yn dweud wrthych am wneud hynny neu fod lle yn y cilfachau ailgylchu. Byddwch yn amyneddgar ac yn garedig tuag at eraill sy'n defnyddio'r safle.

Rhaid bod gennych yr union swm o arian i dalu am eu gwaredu, ni fyddwn yn gallu rhoi unrhyw newid.  Ewch i wefan Cwm Environmental i weld y ffïoedd diweddaraf.

Na, darperir ein safleoedd ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin yn unig ac rydym yn gwirio bod pawb sy’n eu defnyddio yn byw yn y Sir.  Bydd angen i chi ddod ag un o'r canlynol i ddangos prawf o'ch preswyliaeth: eich trwydded yrru, eich bil y Dreth Gyngor gyfredol, neu eich bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis).

Os nad ydych yn breswylydd a bod angen i chi glirio gwastraff ar gyfer perthynas yn dilyn profedigaeth deuluol, yna cysylltwch â ni.

Na, ni all ein canolfannau ailgylchu dderbyn gwastraff busnes. Rhaid cael gwared ar hwnnw gan ddefnyddio cyfleuster trwyddedig sy'n bodloni'r gofynion Dyletswydd Gofal. Mae gan Orsaf Drosglwyddo Nantycaws, Caerfyrddin, gyfleusterau ar gyfer gwastraff y cartref a gwastraff busnes a hefyd mae nifer o safleoedd trwyddedig preifat y gellir dod o hyd iddynt ar-lein drwy chwilio 'waste transfer stations in my area’.  Bydd y rhan fwyaf o'r cyfleusterau sy'n derbyn gwastraff masnachol yn codi tâl am ei waredu.

Mae gadael gwastraff masnachol mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn drosedd dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, a allai arwain at ddirwy diderfyn a hyd at 5 mlynedd yn y carchar.

Mae ein canolfannau ailgylchu at ddefnydd trigolion Sir Gaerfyrddin er mwyn gwaredu gwastraff y cartref yn unig. Mae cyflwyno system hawlen am ddim wedi ein helpu i sicrhau nad yw busnesau yn defnyddio’r canolfannau ailgylchu yn anghyfreithlon i waredu gwastraff masnachol.

Os oes angen hawlen ar eich cerbyd gallwch wneud cais ar-lein.

Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Eich manylion
  • Manylion y cerbyd
  • Copï/sgan o'ch holl llyfr log V5CW eich cerbyd
  • Prawf o'r cyfeiriad - Dim ond un prawf o'r cyfeiriad sydd angen i chi ei anfon a gallai fod yn gopi o'ch bil y Dreth Gyngor, bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis) neu drwydded yrru.

Gwirio a oes angen hawlen arnoch   GWNEUD CAIS AM HAWLEN

Yn dibynnu ar y math o gerbyd rydych yn ei ddefnyddio, efallai y bydd angen i chi wneud cais am hawlen am ddim i ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu. Bydd yr hawlen yn caniatáu i chi gael mynediad i unrhyw ganolfan ailgylchu yn Sir Gaerfyrddin hyd at 12 gwaith y flwyddyn.

Bydd eich hawlen yn cael ei chofrestru ar gyfer y cerbyd rydych yn ei yrru. Pan fyddwch yn cyrraedd y ganolfan ailgylchu, bydd aelod o staff yn gofalu bod manylion eich hawlen yn cyfateb i rai eich cerbyd, ac yn tynnu un o'r 12 tab sydd ar yr hawlen i ddangos ei bod wedi ei defnyddio.

Gwirio a oes angen hawlen arnoch

Mae’r cynllun hawlen am ddim yn weithredol yn ein holl ganolfannau ailgylchu. Y math o gerbyd yr ydych yn dod ag ef i'r ganolfan ailgylchu sy’n pennu p'un a oes angen hawlen arnoch ai peidio. Os oes angen hawlen arnoch, gallwch wneud cais ar-lein.

Gwirio a oes angen hawlen arnoch

Bydd angen i chi ddarparu copi o'ch dogfen cofrestru cerbyd V5CW yn ogystal â dogfen fel prawf o'r cyfeiriad, sy'n cyfateb i'r cyfeiriad a gofrestrwyd ar eich ffurflen V5CW.

Fel prawf o'r cyfeiriad rydym yn derbyn y dogfennau canlynol:

  • Trwydded yrru
  • Eich Bil Dreth Gyngor
  • Bil cyfleustod, (heb fod yn hŷn na 3 mis)

Ar ôl i ffurflen gais wedi'i chwblhau a'r dogfennau atodol ddod i law a chael eu dilysu, bydd yr hawlenni'n cael eu cyflwyno o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gallwch wneud cais am hawlen os yw'r cerbyd wedi'i gofrestru i fusnes, cyhyd â bo gennych ganiatâd y cwmni i ddefnyddio'r cerbyd at ddibenion personol a'ch bod yn cludo gwastraff y cartref yn unig. Ynghyd â'ch ffurflen gais am hawlen, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:

  • Llythyr pennawd y cwmni gan eich cyflogwr sy'n datgan bod gennych ganiatâd i ddefnyddio'r cerbyd at ddibenion personol.
  • Copi/sgan o lyfr log V5C y cerbyd - sy'n dangos yr enw a'r cyfeiriad y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru iddynt.
  • Prawf o'ch cyfeiriad - Dim ond un prawf o'ch cyfeiriad sydd angen i chi ei anfon a gallai fod yn gopi o'ch bil y Dreth Gyngor, bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis) neu drwydded yrru.

Gwneud cais am hawlen

Os ydych yn byw mewn tŷ a rennir ag unigolion nad ydynt yn perthyn i chi, gan ffurfio mwy nag un aelwyd yn yr un eiddo, gallwch wneud cais am hawlen. 

Ynghyd â'ch cais am hawlen, bydd angen i chi gyflwyno:

  • Copi o'ch V5C
  • Bil y Dreth Gyngor

Os caiff eich bil y Dreth Gyngor ei roi i'ch landlord, gallwch wneud cais am hawlen, ond bydd angen i ni wneud gwiriadau pellach o ran eich cais. 

Ni fydd hawl gan gerbydau amaethyddol, faniau ceffylau, lorïau codi, cerbydau â chawell, cherbydau llen ochr/ochr a cerbydau dros 3.5 tunnell gan gynnwys faniau bocs a faniau â phaneli gwympedig fynd i mewn i'r canolfannau ailgylchu.

Ni chaniateir chwaith unrhyw gerbydau sy'n tynnu trelar fwy na 2.44 metr/8 troedfedd waeth faint o echelau sydd ganddynt  Ni chaniateir i faniau â phaneli 3.5 tunnell, na thryciau agored cab sengl dynnu unrhyw drelars yn y canolfannau ailgylchu.

Na, mae'r hawlen wedi ei chofrestru i'ch cerbyd chi, felly ni ellir ei throsglwyddo.

Mae eich hawlen yn dechrau o'r mis y cewch hi ac ni allwch ymweld fwy na 12 gwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis. Byddwch yn dal i allu defnyddio'r ganolfan ailgylchu gydag unrhyw gerbyd nad oes angen hawlen ar ei gyfer e.e. car, 4x4, SUV, cerbyd cludo pobl ac ati.

12 mis ar ôl dyddiad cyflwyno'r hawlen, byddwch yn gallu gwneud cais arall am hawlen newydd.

Sut ydw i'n adnewyddu fy hawlen?

Dim ond ar ôl ichi ddefnyddio 10 neu fwy o'ch tocynnau y bydd angen ichi adnewyddu eich hawlen.  Pan fyddwch yn adnewyddu eich hawlen, byddwch yn derbyn e-bost/llythyr a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch beth i'w wneud.  Os na fyddwch yn derbyn y cyfarwyddiadau hyn, ffoniwch Cwm Environmental ar 01267 225520

Os gwnaethoch gais mwy na 12 mis yn ôl a bod gennych 3 thocyn ar ôl o hyd, defnyddiwch y rhai sy'n weddill.

Os yw eich hawlen ar goll neu wedi'i dwyn, rhowch wybod i ni. Pan fyddwn wedi gwirio eich gwybodaeth byddwn yn ailgyhoeddi nifer y tocynnau oedd gennych yn weddill. Cofiwch, os ydych eisoes wedi defnyddio pob un o'r 12 tocyn sy'n rhan o'ch hawlen,  ni fyddwch yn gallu ei hadnewyddu hyd nes 12 mis o'r dyddiad cyhoeddi gwreiddiol.

Rhoi gwybod am hawlen sydd ar goll/wedi'i dwyn

Nac oes, byddwch yn dal i allu ei defnyddio hyd nes y byddwch wedi ymweld 12 gwaith.

Caniateir defnyddio trelars gyda chyfyngiadau. Y maint mwyaf yw 2.44 metr (8 troedfedd) o hyd gwely, waeth faint o echelau sydd ganddynt. I weld pa gerbydau a ganiateir gyda threlars, defnyddiwch ein canllaw cerbydau.

Gwiriwch a oes angen caniatâd arnoch

Os credwch fod eich cerbyd a addaswyd yn perthyn i gategori'r drwydded, cysylltwch a ni cyn gwneud cais am drwydded.

Bydd, dylech logi'r cerbyd am 3 diwrnod neu lai yn unig. Pan fyddwch yn dod, bydd angen ichi sicrhau bod gennych y canlynol:

  • Dogfennau llogi cerbyd
  • Prawf preswylio

Oes, os yw eich cerbyd yn cludo gwastraff cartref, a'i fod yn fath o gerbyd sy'n cael ei ganiatáu fel yr hyn a esbonnir yn ein canllaw cerbyd.

GWIRIO A OES ANGEN HAWLEN ARNOCH

Gallwch, os ydych yn preswylio yn Sir Gaerfyrddin a'ch bod yn cludo gwastraff y cartref.
Mae'n bosibl y bydd rheolwyr y safle yn gwrthod mynediad os byddant yn amau bod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio i gludo gwastraff masnachol.

Llwythwch mwy