Cais am waith atgyweirio

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/09/2023

Cyn i chi symud i'ch cartref byddwn yn sicrhau ei fod wedi'i gynnal a'i gadw yn unol â'n safonau a bod unrhyw waith atgyweirio yn dilyn y tenantiaid blaenorol wedi cael ei wneud.

Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw waith atgyweirio cyn gynted ag y byddwch yn sylwi arno.

Rydym yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio canlynol yn eich cartref:

  • adeiladwaith yr adeilad a’i du allan – toeau, waliau, lloriau, nenfydau, fframiau ffenestri,
  • drysau allanol, draeniau, cwteri a phibellau allanol,
  • celfi gosod yn y gegin a’r ystafell ymolchi – basnau, sinciau, toiledau a baths;
  • gwifrau trydan, pibellau nwy a phibellau dŵr y tu mewn i’ch cartref;
  • offer a systemau ar gyfer gwresogi ystafelloedd a thwymo dŵr; ac
  • unrhyw leoedd a rennir a geir o amgylch eich cartref – grisiau, lifftiau, landin, goleuadau, cynteddau a drysau mynedfeydd, lleoedd parcio ac unrhyw iardiau a rennir. 

Os ydym yn atgyweirio unrhyw ddifrod sydd wedi'i achosi gennych chi neu gan unrhyw un sy'n byw gyda chi neu sy'n ymweld â chi neu gan eich anifeiliaid anwes, byddwn yn gwneud y gwaith ac yn codi tâl arnoch amdano. Byddwn yn trafod y gwaith hwn a'r gost gyda chi cyn i ni wneud y gwaith. Nid yw hyn yn cynnwys difrod sy'n deillio o draul a breuo rhesymol. Hefyd mae rhai atgyweiriadau rydych chi'n gyfrifol amdanynt.

Mae’r gwaith atgyweirio rydych chi'n gyfrifol amdano yn cynnwys y canlynol: 

  • rhoi gwydr newydd yn lle gwydr sydd wedi torri mewn ffenestri a drysau;
  • rhoi cloeon, allweddi, cliciedi a cholfachau newydd yn lle rhai sydd wedi torri ar ddrysau y tu mewn i’r cartref;
  • atgyweirio pyst a leiniau dillad, neu roi rhai newydd yn lle rhai sydd wedi torri;
  • gosod seddi toiled newydd yn lle rhai sydd wedi torri;
  • rhoi teils newydd yn lle rhai sydd wedi torri y tu mewn i’r cartref;
  • atgyweirio cliciedi a cholfachau cypyrddau, neu roi rhai newydd yn lle rhai sydd wedi torri;
  • rhoi plygiau a ffiwsiau trydan newydd yn lle rhai sydd wedi torri;
  • rhoi plygiau newydd yn lle rhai sydd wedi torri ar sinciau a baths;
  • rhoi gridiau gwastraff newydd yn lle rhai sydd wedi torri;
  • rhoi batris newydd yn lle hen rai mewn larymau mwg;
  • rhoi cliciedi a cholfachau newydd yn lle rhai sydd wedi torri ar gatiau;
  • cynnal a chadw siediau gardd;
  • cynnal a chadw llwybrau yn yr ardd nad ydynt yn rhan hanfodol o’r llwybrau sy’n sicrhau mynediad i’ch cartref;
  • cynnal a chadw ffensys a waliau yn yr ardd;
  • clirio unrhyw bibellau, trapiau a chwteri gwastraff sydd wedi blocio;
  • cyflawni mân waith cynnal a chadw, megis gosod stribedi atal drafft os oes eu hangen;
  • sicrhau bod y ffliw yn glir cyn cynnau'r tân.

Os ydych yn berson hŷn, neu os oes gennych anabledd, gallwn eich helpu os gofynnwch i ni wneud hynny. Byddwn yn codi tâl arnoch os byddwn yn cyflawni unrhyw waith ar eich rhan. Bydd y tâl a godir yn unol â’n polisi codi tâl.

Os oes perygl sydd ar fin digwydd i chi neu'r eiddo, byddwn yn gwneud y gwaith atgyweirio cyn pen 24 awr.

Er enghraifft: Colli pŵer yn llwyr, pibellau wedi hollti neu ollyngiadau mawr, eiddo'n anniogel ac ati.

Cysylltwch â ni ar unwaith, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, drwy ffonio 01267 234567 yn ystod oriau swyddfa (8:30am - 6pm, dydd Llun - dydd Gwener). Y tu allan i'r amseroedd hyn, ffoniwch 0300 333 2222.

Gallwch roi gwybod nawr am unrhyw achosion brys tu allan i oriau ar wefan Llesiant Delta.

Os yw'r broblem yn eich cartref yn achosi anghyfleuster mawr, byddwn yn gwneud y gwaith cyn pen 7 diwrnod gwaith.

Er enghraifft: Mân ollyngiadau, nam bach i'r pŵer neu'r goleuadau ac ati.

Bydd gwaith atgyweirio sydd heb fod yn frys ac sy'n achosi ychydig o anghyfleuster yn cael ei wneud cyn pen 21 - 42 diwrnod gwaith.

Er enghraifft: Ffenestr ddrafftiog, dolen drws y gegin wedi torri ac ati.

Fel tenant tŷ cyngor, mae gennych yr hawl i gael gwaith atgyweirio wedi'i wneud yn eich cartref cyn pen amser penodol o dan y cynllun Hawl i Atgyweirio.

Mae'r cynllun yn sicrhau bod gwaith a allai effeithio ar eich diogelwch yn cael ei gwblhau’n gyflym ac yn hwylus. Os nad yw'r contractwr cyntaf yn gwneud y gwaith atgyweirio mewn pryd, cysylltwch â ni. Os nad yw'r ail gontractwr yn cwblhau'r gwaith mewn pryd, gallech fod yn gymwys i gael eich digolledu. 

Mae'n bosibl bod rheswm da pam nad oedd y contractwr yn gallu cwblhau'r gwaith atgyweirio ar amser, er enghraifft os nad oeddech gartref i gadw'r apwyntiad. Mewn achosion o'r fath, ni fydd yn rhaid i ni eich digolledu.

Byddwn yn cynnal archwiliadau diogelwch o danau nwy a boeleri nwy neu olew yn eich cartref unwaith y flwyddyn. Byddwn yn cynnal a chadw ac yn glanhau gosodiadau tanwydd solet ddwywaith y flwyddyn. Gallem gael ein herlyn os na fyddwn yn cynnal yr archwiliadau hyn. Os na fyddwch yn gadael i ni fynd i mewn i’ch cartref i archwilio’r offer hyn a gwneud unrhyw waith atgyweirio arnynt, gallech fod yn rhoi bywydau pobl mewn perygl.

Byddwn bob amser yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i alw, ac i drefnu cael mynediad. I sicrhau eich diogelwch, mae’n bwysig iawn ein bod yn gallu dod i mewn i’ch cartref i gynnal yr archwiliadau diogelwch hyn. Os bydd angen i chi newid yr apwyntiad am unrhyw reswm, cysylltwch â ni drwy ffonio 01267 234567 neu anfonwch e-bost atom ni.

Os na fyddwch yn caniatáu i ni gael mynediad i’ch cartref ac os na fyddwch yn cysylltu â ni i wneud trefniadau eraill, gallwn ddefnyddio grym i fynd i mewn i’ch cartref heb roi unrhyw rybudd pellach i chi er mwyn cyflawni’r gwaith archwilio neu atgyweirio. Bydd yn rhaid i chi dalu costau unrhyw waith atgyweirio y bydd angen i ni ei wneud o ganlyniad i’r ffaith ein bod ni wedi gorfod defnyddio grym i fynd i mewn i’ch cartref.

Byddwn yn addurno tu allan eich cartref pan fyddwn o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Hefyd gallwch chi addurno tu allan eich cartref os ydych yn cael caniatâd gennym. Fodd bynnag, cyn i chi ddechrau mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni pa liw rydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio ac mae'n rhaid i ni gymeradwyo'r lliw yn ysgrifenedig.

  • Rhaid i chi brofi larymau mwg bob wythnos, a rhoi batris newydd yn lle hen rai pan fo angen. Os ydych yn berson hŷn, neu os oes gennych anabledd sydd efallai’n eich atal rhag rhoi batris newydd mewn larymau, gallwn eich helpu os gofynnwch i ni wneud hynny.
  • Rhaid i chi gadw tu mewn eich cartref yn rhydd rhag unrhyw rwystrau a pheryglon i iechyd, a rhaid i chi sicrhau ei fod wedi’i addurno i safon resymol.
  • Rydych yn gyfrifol am atgyweirio a chynnal a chadw’r offer yr ydych chi eich hun wedi’i roi yn eich cartref (megis ffyrnau, tanau nwy ac unrhyw welliannau) oni bai ein bod wedi cytuno mai ni sy’n gyfrifol am ei atgyweirio a’i gynnal a’i gadw. Rhaid i chi sicrhau bod eich offer yn bodloni’r safonau neu’r rheoliadau cyfredol mewn perthynas â diogelwch.
  • Rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni cyn newid neu ychwanegu unrhyw gelfi gosod.
  • Rhaid i chi beidio â dymchwel waliau neu wneud unrhyw newidiadau i adeiladwaith eich cartref heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni yn gyntaf.
  • Rhaid i chi beidio â chodi neu ddymchwel waliau, ffensys neu wrychoedd yn yr ardd heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni.
  • Rhaid i chi beidio â chodi waliau, ffensys, gwrychoedd neu strwythurau ar ffiniau eiddo ar ystad cynllun agored heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni.
  • Rhaid i chi beidio â chodi unrhyw strwythurau ar yr eiddo (gan gynnwys sied, garej, tŷ gwydr, colomendy, patio neu lolfa haul) heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni.
  • Rhaid i chi beidio â chreu llawr caled (dreif neu lecyn wedi'i balmantu at ddibenion parcio) heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni.

Os byddwch yn gwella neu’n newid eich cartref heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni, gallwn ddweud wrthych am adfer yr eiddo i’w gyflwr blaenorol. Os na fyddwch yn gwneud hynny, byddwn ni’n gwneud y gwaith ac yn codi tâl arnoch amdano.

Ar ôl i chi roi gwybod i ni beth sydd angen ei atgyweirio, byddwn yn asesu'r broblem ac yn cysylltu â chi cyn pen 3-4 ddiwrnod gwaith i roi gwybod i chi pa mor gyflym y gallwn wneud y gwaith. Mae'n bwysig bod atgyweiriadau argyfwng a brys yn cael sylw yn gyntaf.

Byddwn yn ceisio cyflawni gwaith atgyweirio o fewn yr amserlenni a bennwyd gennym uchod. Efallai y bydd oedi’n digwydd weithiau, er enghraifft, am nad ydym yn medru cael gafael ar y deunyddiau priodol neu am fod angen i ni gynnal ymchwiliadau pellach ac ati. Ar ôl cwblhau gwaith atgyweirio, byddwn yn gadael eich cartref mewn cyflwr sydd mor agos ag sy’n bosibl i’w gyflwr cyn i ni wneud y gwaith. Os nad yw hynny’n bosibl, byddwn yn rhoi lwfans i chi ar gyfer gwaith ailaddurno. Os ydych yn berson hŷn, neu os oes gennych anabledd sy’n eich atal rhag addurno’ch cartref, gallwn ei addurno ar eich rhan os ydych am i ni wneud hynny.

Gwneud cais am waith atgyweirio

Tai