Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman
41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3BS
Dydd | Amserau Agor |
---|---|
Dydd Llun | 09:00 - 17:00 |
Dydd Mawrth | 09:00 - 17:00 |
Dydd Mercher | 09:00 - 17:00 |
Dydd Iau | 09:00 - 17:00 |
Dydd Gwener | 09:00 - 16:30 |
Dydd Sadwrn | Ar gau |
Dydd Sul | Ar gau |
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae ein canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid Hwb yn darparu ystod eang o gymorth, cefnogaeth a chyngor ar yr hyn sydd bwysicaf i chi, gyda chymorth arbenigol bellach ar gael i'ch helpu wrth i gostau byw gynyddu.
Galw heibio:
- Dydd Llun - Cyngor ar ailgylchu a gwastraff
- Dydd Mercher – Cyflogadwyedd (swyddi gwag, cyngor a hyfforddiant)
- Dydd Iau – Materion tai/gwybodaeth
- Dydd Gwener – Gwasanaethau amrywiol yn dibynnu ar anghenion trigolion
Neu gwnewch apwyntiad gydag Ymgynghorydd Hwb pan fydd yn gyfleus i chi am help i hawlio'r hyn sydd sy'n ddyledus i chi gan gynnwys budd-dal tai, ceisiadau am fathodynnau glas a llawer mwy.
- Mae'r hwb yn gweithio ar sail apwyntiad, felly er mwyn eich gweld ar adeg a dyddiad sy'n gyfleus i chi – Trefnwch apwyntiad cyn eich ymweliad.
- Gellir trefnu apwyntiadau drwy glicio ar y tab trefnu apwyntiad neu gallwch ein ffonio.
- Byddwch yn brydlon ar gyfer eich apwyntiad neu efallai bydd amser penodol eich apwyntiad yn cael ei leihau, ei ail-drefnu neu ei ganslo.
- Anfonir e-bost neu neges destun atoch i gadarnhau amser a dyddiad eich apwyntiad.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â'r holl ffurflenni a dogfennau perthnasol gyda chi i'ch apwyntiadau.
- Bydd y ddesg arian ar agor i gymryd taliadau am y dreth gyngor, ardrethi busnes, rhenti Cyngor, dirwyon parcio, taliadau llety dros dro, ffioedd trwyddedu, rheoliadau adeiladu a ffioedd cynllunio. Cofiwch bydd y desgiau arian ar gau rhwng 1pm a 1:45pm bob dydd.
- Drysau awtomatig yn y fynedfa
- Dolen sain symudol
- Maes Parcio Stryd Marged - Arhosiad Hir ac Arhosiad Byr Lleoedd parcio i bobl anabl ar gael
- Maes Parcio Carregaman - Arhosiad Hir ac Arhosiad Byr Lleoedd parcio i bobl anabl ar gael