Talu eich Treth Gyngor

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/12/2023

Caiff y dreth gyngor ei thalu mewn 10 rhandaliad misol gan ddechrau ym mis Ebrill, oni bai eich bod wedi gofyn am gael talu 12 rhandaliad. Os hoffech wneud taliadau dros 12 mis, anfonwch neges e-bost at: Arolygaeth.Refeniw@sirgar.gov.uk.

Y dyddiad talu yw'r 15fed o'r mis neu cyn hynny oni bai eich bod wedi dewis talu trwy Ddebyd Uniongyrchol.  Os ydych yn dod yn gymwys i dalu Treth y Cyngor yn ystod y flwyddyn bydd eich rhandaliadau'n cael eu haddasu yn ôl nifer y dyddiadau talu sy'n weddill.

Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus i dalu yw trwy ddebyd uniongyrchol.

  • Gallwch ddewis o 3 dyddiad talu - 5ed, 15fed neu 28ain o bob mis.
  • Mae trefnu Debyd Uniongyrchol yn syml ac ni chodir tâl amdano, a gallwch ei ganslo ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu at eich banc neu gymdeithas adeiladu.
  • Nid oes yn rhaid i chi adnewyddu eich Debyd Uniongyrchol bob blwyddyn.
  • Mae Debyd Uniongyrchol yn cael ei warantu gan y banciau a'r cymdeithasau adeiladu dan sylw ac felly os oes camgymeriad yn cael ei wneud byddwch yn cael ad-daliad llawn yn syth.

Byddwch yn derbyn llythyr yn nodi symiau, dyddiadau ac amlder y taliadau a fydd yn cael eu tynnu o'ch cyfrif ac o unrhyw newidiadau 10 diwrnod ymlaen llawn, er mwyn rhoi amser i chi wneud ymholiadau yn eu cylch os oes angen.

Gallwch chi sefydlu'ch Debyd Uniongyrchol dros y ffôn ar 01267 228602.

Fel arall, gallwch osod Debyd Uniongyrchol ar-lein. Mae gosod Debyd Uniongyrchol yn ffordd gyflym a rhwydd o dalu eich treth gyngor. Bydd angen arnoch eich cyfeirnod cyfrif y Dreth Gyngor ynghyd â manylion eich cyfrif banc.

sefydlu debyd uniongyrchol

 

Rydym hefyd yn derbyn taliadau ar-lein neu os yw'n well gennych, ffoniwch ni ar 01267 228686.  Bydd angen eich:

  • Cyfeirnod cyfrif
  • Enw'r cyfrif
  • Faint hoffech chi dalu

Rydym yn derbyn y mathau canlynol o gardiau credyd / debyd - Visa, Mastercard, Switch, Solo, Visa Delta.

Talu eich Treth Gyngor ar-lein 

Gallwch talu yn un o swyddfeydd talu'r Cyngor:

Gwnewch eich siec yn daladwy i Cyngor Sir Caerfyrddin.