Cwestiynau Cyffredin - Ailgylchu a gwastraff
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/08/2024
Dylai'r cwestiynau cyffredin canlynol ateb unrhyw gwestiynau posibl sydd gennych ynglŷn ag ailgylchu, binau a sbwriel. Cysylltwch drwy'r tab "Gofyn cwestiwn" os oes unrhyw beth y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnoch amdano.
Bagiau glas
Os oes angen bagiau glas ychwanegol neu fagiau leinio gwastraff bwyd gallwch archebu mwy ar-lein Recycling Items Form
Os oes gennych boteli a jariau gwydr ychwanegol i’w hailgylchu na allwch chi eu ffitio yn eich bocs, naill ai daliwch afael ar y rhain tan eich casgliad nesaf neu ewch â nhw i’ch banc gwydr lleol. Yn anffodus ni allwn ddarparu bocsys ychwanegol.
Os oes angen i chi ddisodli blwch sydd wedi'i ddifrodi neu wedi torri os gwelwch yn dda, cwblhewch y ffurflen ar-lein
Maent yn cael eu dosbarthu i bob cartref rhwng mis Tachwedd - Ebrill.
Bydd y bagiau glas yn cael eu gadael o fewn ffiniau'ch eiddo neu yn eich man casglu biniau arferol.
Yn aml, gall tai ar draws y ffordd neu ymhellach i lawr y stryd fod ar wahanol lwybrau dosbarthu. Felly, gallech dderbyn eich eitemau ar adegau gwahanol.
Os byddan nhw'n dod i ben cyn y dyddiad dosbarthu gallwch archebu mwy ar-lein Recycling Items Form
Rydym yn gofyn i wardeiniaid dderbyn y bagiau ar gyfer yr holl breswylwyr neu drefnu i ni gael mynediad er mwyn i ni eu dosbarthu.
Ar gyfer unrhyw safleoedd tai newydd lle mae rhannau o'r safle yn dal i gael eu hadeiladu, byddwn yn gofyn i'r datblygwr dderbyn yr eitemau a dosbarthu bagiau i'r preswylwyr.
Os byddan nhw'n dod i ben cyn y dyddiad dosbarthu gallwch archebu mwy ar-lein Recycling Items Form
- Os yw eich man casglu fel arfer ar ddiwedd y lôn, byddwn yn gadael y bagiau yno.
- Os ydych yn defnyddio byncer, byddwn yn gadael y bagiau y tu mewn i'r byncer.
- Os ydych yn defnyddio whilfin, byddwn yn gadael y bagiau wrth ymyl y bin.
Bydd eich bagiau yn cael eu gadael ar garreg y drws.
Na. Caiff bagiau glas eu dosbarthu ar gyfer ailgylchu gwastraff y cartref yn unig. Mae gan yr holl fusnesau ddyletswydd gofal i waredu eu gwastraff yn briodol drwy gytundeb gwastraff masnachol â chludwr gwastraff cofrestredig.
Rydym yn dosbarthu tri rholyn i bob cartref rhwng mis Tachwedd - Ebrill.
Os byddan nhw'n dod i ben cyn y dyddiad dosbarthu gallwch archebu mwy ar-lein Recycling Items Form
Nid oes terfyn ar nifer y bagiau glas sy'n gallu cael eu rhoi allan i'w casglu.
Caiff bagiau glas eu casglu bob wythnos.
Papur/Cardbord - papurau newydd/cylchgronau, catalogau, cyfeirlyfrau ffôn, post di-ofyn, papur ysgrifennu, papur wedi'i ddarnio, amlenni, cartonau bwyd a diod, bocsys grawnfwydydd, bocsys cardbord, tiwbiau papur toiled/papur cegin, bocsys wyau, deunydd pecynnu prydau parod.
Plastig - poteli plastig, potiau iogwrt, tybiau marjarîn, basgedi plastig/cynwysyddion prydau parod, cambrenni cotiau plastig, ffilm blastig.
Metelau - caniau bwyd a diod, erosolau, cloriau jariau jam, ffoil.
Edrychwch ar ein rhestr A-Y ailgylchu i weld rhestr lawn o'r hyn sy'n mynd yn eich bagiau glas.
Os byddan nhw'n dod i ben cyn y dyddiad dosbarthu gallwch archebu mwy ar-lein archebu cynwysyddion bagiau / ailgylchu
Os oes gennych fwy o fagiau glas nag sydd eu hangen arnoch, rhowch nhw i deulu neu ffrindiau a allai fod eu hangen oherwydd bod ganddyn nhw fwy o bobl ar yr aelwyd ac felly yn debygol o gael mwy o eitemau i'w hailgylchu bob wythnos.
Ewch i Fy Ailgylchu Cymru i gael gwybod beth sy'n digwydd i'ch ailgylchu a'ch bagiau du ar ôl iddynt gael eu casglu.